Skip to content

Sut mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cefnogi’r menopos yn y gwaith

Trwy gyfrwng polisi menopos pwrpasol, adnoddau ar gyfer staff a sefydlu grŵp cymorth mae help ar gael i helpu cydweithwyr i deimlo’n fwy hyderus a pharod i drafod o fewn awyrgylch o gefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn yn eu bywyd.

Am Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r rhan fwyaf o staff Gofal Cymdeithasol Cymru yn ferched (75%) ac mae 41% ohonyn nhw dros 40 oed.

Mae hyn yn golygu y gall llawer o staff brofi menopos – cyfnod naturiol mewn bywyd sy’n gallu arwain at newidiadau corfforol ac emosiynol.

Gwelodd y sefydliad y gallai fod angen help a dealltwriaeth ychwanegol ar bobl yn ystod y cyfnod hwn.

Beth wnaeth Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi creu agweddau cefnogol ac agored tuag at y menopos yn y gwaith. Gyda’r rhan fwyaf o’u staff yn ferched gyda llawer ohonyn nhw dros 40 oed, roedd y sefydliad yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwybodaeth glir, cymorth ymarferol a mannau diogel i siarad.

Polisi Menopos

Creodd Gofal Cymdeithasol Cymru Bolisi Menopos. Mae hyn yn cadarnhau ein addewid i wneud y gweithle yn agored, yn gefnogol ac yn deg. Mae’n helpu staff i deimlo’n gyfforddus i siarad am y menopos a sut mae’n effeithio arnyn nhw.

Rhannu adnoddau

Maen nhw’n rhannu gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer tudalennau iechyd a lles staff, gan gynnwys:

  • Cwrs e-ddysgu ar ymwybyddiaeth o’r menopos (mae 50 o staff wedi cwblhau’r cwrs hyd yn hyn)
  • Llinell gymorth menopos arbenigol
  • Dolen i’r Polisi Menopos
  • Manylion am sut i ymuno â’r Grŵp Cymorth Menopos

Cyfle i staff newydd i weld ble i ddod o hyd i gymorth ar y menopos fel rhan o’u cyfnod sefydlu.

Grŵp Cymorth Menopos

Mae’r Grŵp Cymorth Menopos yn cael ei gynnal trwy Microsoft Teams. Mae 29 aelod yn y grŵp ac mae’n cyfarfod bob tri mis am sgwrs anffurfiol. Mae’r rhan fwyaf o’r gefnogaeth yn cymryd lle yn ystod y sgwrs ar Teams, lle gall aelodau:

  • Rannu profiadau a chyngor am y menopos a’r perimenopos
  • Siarad yn agored mewn lle diogel a chefnogol
  • Rhannu dolenni defnyddiol i wefannau, rhaglenni teledu, podlediadau, apiau neu lyfrau
  • Trafod Therapi Adfer Hormonau, therapïau amgen ac atchwanegiadau (supplements)

Hyrwyddodd Gofal Cymdeithasol Cymru y grŵp hefyd mewn digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i godi ymwybyddiaeth ac annog mwy o staff i ymuno.

Y canlyniadau

Mae’r Grŵp Cymorth Menopos wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Mae wedi helpu i greu diwylliant lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn llai unig.

Dyma beth mae aelodau’n ei ddweud:

“Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’m lles a’m hyder yn y gwaith. Mae gwybod nad ydw i ar fy mhen fy hun wedi fy helpu i siarad am fy anghenion a theimlo’n llai pryderus.”

“Mae’n dda gwybod bod menywod eraill yn mynd trwy’r un peth.”

“Rydyn ni’n rhannu syniadau, teimladau ac yn rhoi cefnogaeth i’n gilydd.”

“Rydw i wedi dysgu mwy am y menopos o’r grŵp hwn nag unrhyw le arall.”

“Rwy’n hoffi fy mod i’n gallu ymuno pan mae’n addas i mi a does dim pwysau.”

Dywedodd aelod arall:

“Mae’n blatfform gwych i rannu awgrymiadau o’r hyn rydyn ni wedi’u ddysgu dros y blynyddoedd. Mae’n gysur gwybod bod rhywun bob amser yno i siarad â nhw. Gallwch gyfrannu os ydych chi eisiau, ond nid oes unrhyw orfodaeth – mae rhai aelodau’n darllen y sgyrsiau yn unig.”

Awgrymiadau i gyflogwyr eraill

Dyma rai awgrymiadau y gall cyflogwyr eu defnyddio yn eu gweithleoedd i gefnogi gweithwyr:

  • Creu mannau diogel – Gall grwpiau cymorth cyfoedion fel hyn fod yn syml ond yn bwerus iawn.
  • Codi ymwybyddiaeth – Annog sgyrsiau agored a rhoi hyfforddiant i reolwyr i ddeall y menopos.
  • Byddwch yn hyblyg – Gall newidiadau bach fel gweithio hyblyg, mynediad at ffan neu ystafelloedd oerach a chreu gwell dealltwriaeth am niwl yr ymennydd (brain fog) neu flinder helpu’n fawr.
  • Defnyddiwch grwpiau rhithwir – Mae grwpiau ar-lein yn gadael i bobl ymuno pan fydd yn addas iddyn nhw.
  • Rhowch gyfle i bobl siarad – Mae rhannu profiadau yn gwneud gwahaniaeth.

Mwy o wybodaeth