Y Gwasanaeth Di-Waith

Mae’r rhaglen Gwasanaeth Di-waith yn cynnig cymorth cyflogaeth cyfrinachol am ddim gan fentoriaid cymheiriaid os ydych chi:

  • yn gwella ar ôl camddefnyddio sylweddau neu broblemau iechyd meddwl
  • rhwng 16 a 24 oed a ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
  • yn 25 oed a hŷn ac wedi bod yn ddi-waith ers mwy na 12 mis

Case UK

Os ydych chi’n byw ym Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf neu Ben-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â Case-UK Ltd:
Ffôn: 02921 676213
Gwefan Case UK (yn agor mewn ffenestr newydd)

Platfform

Os ydych chi’n byw ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Casnewydd neu Sir Fynwy, cysylltwch â Platfform:
Ffôn: 01495 245802
E-bost: [email protected] (yn agor mewn ffenestr newydd)
Gwefan Platfform (yn agor mewn ffenestr newydd)

Adfeiriad

Os ydych chi’n byw mewn unrhyw ardal arall yng Nghymru, cysylltwch ag Adferiad
Ffôn: 0300 777 2256
E-bost: [email protected] (yn agor mewn ffenestr newydd)
Gwefan Cyfle Cymru (yn agor mewn ffenestr newydd)