Skip to content

Datblygiad gweithwyr

Darganfyddwch sut y gall helpu'ch gweithwyr dyfu fod o fudd iddyn nhw a'ch busnes trwy wella sgiliau a chynhyrchiant.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Dyma rai camau syml i hyrwyddo datblygiad gweithwyr yn y gwaith:

Rhoi arweiniad gyrfa ac adborth
  • Dangos i weithwyr sut y gallan nhw dyfu yn eu gyrfaoedd
  • Hyfforddi rheolwyr i nodi anghenion hyfforddi a chefnogi dysgu
  • Cael sesiynau sgwrsio rheolaidd i drafod nodau gyrfa a gosod targedau dysgu
  • Annog mentora a dysgu gan gymheiriaid
Gwneud dysgu’n hawdd ac yn hygyrch
  • Cynnig cyrsiau ar-lein, gweminarau, a hyfforddiant mewnol
  • Rhoi amser i weithwyr ddysgu yn y gwaith a chaniatáu hyblygrwydd ar gyfer hyfforddiant
  • Cefnogi gweithwyr heb gynrychiolaeth ddigonol gyda hyfforddiant wedi’i deilwra
Hyrwyddo cyfleoedd a dathlu llwyddiant
  • Rhannu gwybodaeth am gyfleoedd dysgu a hyfforddiant
  • Defnyddio ymgyrchoedd cenedlaethol fel Wythnos Dysgu yn y Gwaith i gynllunio gweithgareddau
  • Partneru â phrifysgolion neu ddarparwyr hyfforddiant er mwyn cynnig mwy o opsiynau dysgu
  • Dathlu llwyddiant gweithwyr sy’n cwblhau hyfforddiant neu ennill sgiliau newydd
Mesur llwyddiant a chael adborth
  • Cofnodi cyfranogiad mewn cyfleoedd dysgu a chasglu adborth
  • Defnyddio adborth i wella cyfleoedd dysgu
  • Olrhain dilyniant mewnol i weld a yw hyfforddiant wedi cael effaith ar eu rolau

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 31st Mawrth 2025

Dau gydweithiwr yn sefyll wrth fwrdd gwyn mewn swyddfa.