Dyma rai camau syml i hyrwyddo datblygiad gweithwyr yn y gwaith:
Rhoi arweiniad gyrfa ac adborth
- Dangos i weithwyr sut y gallan nhw dyfu yn eu gyrfaoedd
- Hyfforddi rheolwyr i nodi anghenion hyfforddi a chefnogi dysgu
- Cael sesiynau sgwrsio rheolaidd i drafod nodau gyrfa a gosod targedau dysgu
- Annog mentora a dysgu gan gymheiriaid
Gwneud dysgu’n hawdd ac yn hygyrch
- Cynnig cyrsiau ar-lein, gweminarau, a hyfforddiant mewnol
- Rhoi amser i weithwyr ddysgu yn y gwaith a chaniatáu hyblygrwydd ar gyfer hyfforddiant
- Cefnogi gweithwyr heb gynrychiolaeth ddigonol gyda hyfforddiant wedi’i deilwra
Hyrwyddo cyfleoedd a dathlu llwyddiant
- Rhannu gwybodaeth am gyfleoedd dysgu a hyfforddiant
- Defnyddio ymgyrchoedd cenedlaethol fel Wythnos Dysgu yn y Gwaith i gynllunio gweithgareddau
- Partneru â phrifysgolion neu ddarparwyr hyfforddiant er mwyn cynnig mwy o opsiynau dysgu
- Dathlu llwyddiant gweithwyr sy’n cwblhau hyfforddiant neu ennill sgiliau newydd
Mesur llwyddiant a chael adborth
- Cofnodi cyfranogiad mewn cyfleoedd dysgu a chasglu adborth
- Defnyddio adborth i wella cyfleoedd dysgu
- Olrhain dilyniant mewnol i weld a yw hyfforddiant wedi cael effaith ar eu rolau
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 31st Mawrth 2025