Skip to content

Iechyd cyhyrysgerbydol yn y gweithle

Darganfyddwch strategaethau ymarferol i atal anafiadau cyhyrysgerbydol yn y gweithle, cefnogi llesiant gweithwyr a hybu cynhyrchiant.

Neidio'r tabl cynnwys

Pwysigrwydd iechyd cyhyrysgerbydol

Mae cyflyrau cyhyrysgerbydol (MSK) yn effeithio ar yr esgyrn, cymalau a cyhyrau. Mae’r cyflyrau hyn yn aml yn achosi poen parhaus a gallan nhw gyfyngu ar symudedd a swyddogaeth.

Mae cyflyrau cyhyrysgerbydol yn un o brif achosion absenoldeb oherwydd salwch mewn gweithleoedd ledled Cymru a gallan nhw hefyd arwain at weithwyr hŷn (50+ oed) yn gadael y gwaith yn gynharach na’r disgwyl.

Fel cyflogwr, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu gweithle diogel sy’n amddiffyn gweithwyr rhag risgiau cyflyrau cyhyrysgerbydol. Gall fod risgiau mewn swyddi desg eisteddog a rolau codi a chario.

Trwy helpu gweithwyr i atal a rheoli cyflyrau cyhyrysgerbydol, gallwch hefyd roi hwb i gynhyrchiant eich sefydliad a lleihau absenoldeb oherwydd salwch.

Problem gostus sy’n tyfu

Mae cyflyrau cyhyrysgerbydol yn costio miliynau i’r GIG ac maen nhw’n achos cyffredin absenoldeb oherwydd salwch.

Mae data swyddogol yn dweud wrthym:

  • Mae gan tua 974,000 o bobl yng Nghymru gyflwr cyhyrysgerbydol (dolen Saesneg yn unig)
  • Mae poblogaeth sy’n heneiddio, lefelau cynyddol o anweithgarwch corfforol a gordewdra yn arwain at gynnydd mewn cyflyrau cyhyrysgerbydol
  • Problemau cyhyrysgerbydol oedd yr ail reswm mwyaf cyffredin dros absenoldeb oherwydd salwch yn y DU rhwng 2019 a 2022. Darllenwch adroddiad Llywodraeth Cymru. Darganfyddwch sut i reoli absenoldeb oherwydd salwch yn eich gweithle
  • Mae salwch cyhyrysgerbydol yn costio bron i £430 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru

Lawrlwythwch y graffigyn defnyddiol hwn i ddysgu mwy.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025

Llun agos o berson yn cael ffisiotherapi ar eu braich