Gweithredu ar iechyd a llesiant yn y gweithle
Mae cymryd camau i gefnogi iechyd a llesiant eich gweithwyr o fudd i’ch gweithlu, eich gweithle a’ch busnes.
Pam y dylai cyflogwyr weithredu
Ar gyfartaledd, rydym yn treulio dros draean (Saesneg yn unig) o’n hamser yn effro yn ein gwaith. Mae hyn yn golygu eich bod fel cyflogwr yn chwarae rhan bwysig yn iechyd a llesiant eich gweithwyr.
Yng Nghymru, mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (2025) yn dangos y canlynol:
- Mae gan weithwyr gyfradd absenoldeb salwch o 1.9% (yn is na’r gwledydd cartref eraill)
- bod chwe miliwn o ddiwrnodau yn cael eu colli oherwydd absenoldeb salwch bob blwyddyn
- bod 4.1 diwrnod yn cael ei golli oherwydd absenoldeb salwch fesul gweithiwr bob blwyddyn
Canfu adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2026 fod salwch ac anableddau sy’n atal pobl rhag gweithio yn costio tua £19.4biliwn y flwyddyn yng Nghymru.
Gellir atal llawer o achosion hirdymor absenoldebau salwch, fel straen neu anafiadau cyhyrysgerbydol.
Gallwch helpu i leihau absenoldebau salwch yn eich gweithle drwy fynd i’r afael â’r achosion a chefnogi gweithwyr.
Manteision gweithredu
Gall ein gweithle effeithio’n gadarnhaol arnom trwy ddarparu ymdeimlad o bwrpas, cyswllt cymdeithasol ac amgylchedd cefnogol. Ond gall hefyd gael effaith negyddol yn sgil pethau fel amodau gwaith gwael neu lwyth gwaith afrealistig.
Gall cyflogwyr sy’n buddsoddi eu hamser a’u hegni ar iechyd a llesiant eu staff helpu eu busnes i ffynnu mewn sawl ffordd:
- Mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn fwy ymgysylltiedig a gwydn
- Morâl uwch a mwy o gymhelliant a chynhyrchiant
- Llai o absenoldebau salwch
- Trosiant staff is a hynny’n gostwng costau recriwtio
Gall gweithredu hefyd wella eich brand a’ch enw da, gan helpu i ddenu talent a chleientiaid newydd – a chaniatáu i’ch sefydliad dyfu a ffynnu.
Sut i weithredu
Mae gennych lawer o gyfleoedd i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a chefnogi iechyd da a llesiant yn eich gweithle.
Gall hyn gynnwys:
Offeryn Arolwg i Gyflogwyr
Dyma arolwg rhad ac am ddim, hawdd ei ddefnyddio, a fydd yn eich helpu i ddeall sut mae eich sefydliad yn perfformio o ran iechyd a lles yn y gweithle, a pha gamau eraill y gallech chi eu cymryd.
Cymorth gan Gynghorwr Gweithle
Mae’r Cymorth gan Gynghorwr Gweithle yn rhoi cyfle i gyflogwyr yng Nghymru gael sgwrs un-i-un gyda chynghorwr Cymru Iach ar Waith. Mae’r sesiynau ar-lein hyn yn digwydd ar Microsoft Teams a gallant bara hyd at ddwy awr.
Gallwch drefnu cymorth un-i-un i’ch helpu i wella iechyd, diogelwch a lles yn eich gweithle, a bydd eich sgwrs yn seiliedig ar eich ymatebion i’r Arolwg i Gyflogwyr.
Pecyn cychwyn llesyn y gweithle
Rydym wedi creu canllaw ymarferol i gefnogi sefydliadau sy’n gofalu am eu pobl ac sydd eisiau gwneud gwaith yn lle iachach, mwy cadarnhaol i fod ynddo.
Pa bynnag gam rydych chi wedi’i gyrraedd, bydd y pecyn hwn yn eich helpu i symud ymlaen
– un cam ar y tro.
Gweithdai Camau Cyntaf
Ymunwch â Cymru Iach ar Waith am weithdy ymarferol i’ch helpu i gymryd eich camau cyntaf tuag at wella iechyd a llesiant yn y gwaith.
Mae’r gweithdy hwn ar gyfer cyflogwyr sy’n newydd i faes iechyd a llesiant yn y gweithle, neu’r rhai nad ydyn nhw’n siŵr ble i ddechrau.