
Atal a rheoli heintiau yn y gweithle
Dysgwch fwy am bwysigrwydd atal a rheoli heintiau wrth greu gweithle iach a diogel.
Manteision i staff, cleientiaid a chyflogwyr
Fel cyflogwr, mae’n bwysig deall a chydymffurfio â’ch dyletswyddau iechyd a diogelwch.
Mae gweithredu prosesau ar gyfer atal a rheoli heintiau yn hanfodol ar gyfer iechyd eich gweithwyr, eich cleientiaid a’ch busnes.
Bydd yn helpu i:
- Atal, rheoli a lleihau lledaeniad heintiau
- Amddiffyn iechyd a llesiant gweithwyr
- Lleihau tarfu posibl ar y gweithlu yn sgil absenoldeb salwch
- Lleihau’r effaith gysylltiedig ar gynhyrchiant, targedau a therfynau amser
- Diogelu eraill fel cleientiaid, ymwelwyr a chontractwyr
- Lleihau’r risg i enw da
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 27th Mawrth 2025
