Skip to content

Atal a rheoli heintiau yn y gweithle

Dysgwch fwy am bwysigrwydd atal a rheoli heintiau wrth greu gweithle iach a diogel.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Fel cyflogwr, mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i greu amgylchedd gwaith diogel ac iach.

Annog bawb i olchi dwylo

Darparu sebon, dŵr a hylif diheintio dwylo. Gosod arwyddion i atgoffa pobl i olchi dwylo ar ôl defnyddio’r toiled, peswch neu cyn bwyta.

Gallwch lawrlwytho’r poster hwn i’w arddangos yn eich gweithle.

Mae’r fideo yma gan Sefydliad Iechyd y Byd yn dangos sut i olchi dwylo gyda sebon a dŵr (Saesneg yn unig).

Addysgu ac atgoffa staff

Gosod arwyddion am hylendid, hyfforddi staff ar reoli heintiau, a chadw eich rheolau yn gyfredol.

Mae gan ymgyrch Curo Feirysau’r Gaeaf Iechyd Cyhoeddus Cymru adnoddau y gallwch eu defnyddio yn eich gweithle.

Cadw’r gweithle yn lân

Llunio amserlen lanhau a gwnewch yn siŵr bod mannau a rennir fel ceginau ac ystafelloedd ymolchi yn aros yn daclus.

Darparu biniau ar gyfer gwaredu gwastraff.

Gwella llif aer

Agor ffenestri neu defnyddio systemau awyru i wella llif aer a sicrhau bod awyr iach yn symud. Bydd hyn yn lleihau’r risg o heintiau yn lledaenu.

Ewch i wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i gael gwybod mwy am awyru(Saesneg yn unig) .

 

Gwirio am risgiau

Cynnal asesiad risg yn y gweithle er mwyn nodi pethau a allai ledaenu heintiau. Cofnodi eich canfyddiadau a’u rhannu gyda’r staff.

Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i gael rhagor o wybodaeth am reoli risgiau ac asesu risg yn y gwaith (Saesneg yn unig).

Gosod rheolau ar gyfer absenoldeb salwch

Gwneud yn siŵr bod staff yn gwybod am ba mor hir y dylen nhw aros adref pan fyddan nhw’n sâl. Er enghraifft, dylai unrhyw un sy’n chwydu neu’n dioddef o ddolur rhydd aros adref am 48 awr ar ôl i’r symptomau ddiflannu.

Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru am A-Z o bathogenau.

Cefnogi gweithwyr sâl

Gofyn i weithwyr sydd â pheswch, sy’n tisian neu sy’n dioddef o fygiau stumog aros adref nes eu bod yn teimlo’n well.

Caniatáu iddyn nhw weithio gartref os yn bosibl.

Cadw cofnod o salwch

Ysgrifennu pryd a sut mae gweithwyr yn mynd yn sâl rhag ofn y bydd angen i swyddogion iechyd wybod.

Mae rheolau preifatrwydd dataar gael o Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Diogelu gweithwyr bregus

Efallai y bydd angen amddiffyniad ychwanegol ar rai gweithwyr, fel pobl hŷn neu’r rhai â chyflyrau iechyd. Dylai gweithwyr beichiog hefyd gael asesiad risg arbennig.

Ewch i wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am fwy o wybodaeth am ddiogelu gweithwyr beichiog a mamau newydd (Saesneg yn unig).

Cynnig cyfarpar diogelu

Caniatáu i staff wisgo masgiau wyneb os ydyn nhw’n awyddus i wneud hynny.

Mewn lleoliadau gofal iechyd, darparu’r cyfarpar diogelu personol cywir.

Annog brechu

Cefnogi staff i gael brechlynnau ffliw a COVID-19. Cynnig amser hyblyg i ffwrdd ar gyfer brechlynnau.

Efallai y bydd angen brechlynnau ychwanegol, fel TB neu’r frech goch, ar gyfer rhai swyddi.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20th Mawrth 2025

Person yn sefyll wrth sinc i olchi eu dwylo gyda dŵr a sebon.