Skip to content
Loading Digwyddiadau

Mis Ymwybyddiaeth Straen

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Mis Ymwybyddiaeth Straen i godi ymwybyddiaeth am straen yn y gwaith a rhannu adnoddau am straen yn y gweithle i gefnogi gweithwyr.

Gwerth cefnogi Mis Ymwybyddiaeth Straen yn y gwaith

Mae cefnogi Mis Ymwybyddiaeth Straen yn bwysig oherwydd ei fod yn helpu staff i gydnabod sut y gall straen effeithio ar iechyd meddwl a chorfforol yn y gwaith ac mewn bywyd bob dydd.

Mae’r ymgyrch yn rhoi cyfle i gyflogwyr annog sgyrsiau agored, rhannu adnoddau defnyddiol a rheoli straen er mwyn creu gweithle cadarnhaol a chefnogol.

Trwy fynd i’r afael â straen yn y gweithle, gall cyflogwyr leihau diffygiad (burnout), gwella lles gweithwyr a gwella cynhyrchiant.

Cymryd rhan ym Mis Ymwybyddiaeth Straen

Cynnal gweithdai rheoli straen

Cynhaliwch sesiynau ar ymwybyddiaeth ofalgar, technegau ymlacio a strategaethau ymdopi. Mae gweithgareddau fel hyn yn helpu gweithwyr i ddod o hyd i ffyrdd o reoli straen mewn ffordd iach.

Hyrwyddo cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd

Hyrwyddwch weithio hyblyg, anogwch weithwyr i gymryd seibiant rheolaidd ac i reoli llwythi gwaith yn unol â hynny i helpu i leihau straen yn y gweithle.

Darganfyddwch fwy am fanteision gweithio hyblyg.

Creu amgylchedd cefnogol

Cynigiwch fynediad at adnoddau iechyd meddwl yn eich gweithle. Gall cael mynediad at grwpiau cymorth cyfoedion neu raglenni sy’n cynnig cymorth i weithwyr eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

Cynnig hyfforddiant ac arweiniad

Rhowch hyfforddiant i reolwyr a gweithwyr ar sut i adnabod a rheoli straen a chynnal sgyrsiau am straen gyda gweithwyr.

Darganfyddwch fwy am reoli straen yn y gweithle.

Rheoli straen yn y gwaith

Gall gweithleoedd gefnogi ymwybyddiaeth o straen ac iechyd meddwl drwy gydol y flwyddyn trwy gymryd camau rhagweithiol fel:

Gwirio iechyd meddwl a lles

Aseswch les gweithwyr yn rheolaidd. Gellir cyflawni hyn trwy gyfrwng arolwg, gwiriad rheolaidd a chynnal sgwrs.

Hyrwyddo diwylliant gweithle cadarnhaol a chefnogol

Cefnogwch drafodaethau agored am iechyd meddwl, helpwch i chwalu stigma a rhowch hyfforddiant i reolwyr a staff.

Rhannu adnoddau iechyd meddwl a llesiant

Rhowch wybodaeth am gymorth proffesiynol sydd ar gael i helpu gweithwyr i reoli straen a gofalu am eu hiechyd meddwl.

Mae gwefan Hapus yn cynnig ystod eang o offer ac adnoddau lles gyda’r nod o ddiogelu a hyrwyddo lles meddyliol.

Dysgwch fwy drwy edrych ar ein tudalennau pwnc ar sut i reoli straen yn y gweithle a diffygiad a blinder yn y gweithle.

Ymgyrch Working Minds

Dan arweiniad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), mae ymgyrch Working Minds yn pwysleisio pwysigrwydd rheoli straen sy’n gysylltiedig â gwaith er mwyn atal problemau iechyd meddwl.

Mae’n cynnig adnoddau a chanllawiau defnyddiol i helpu gweithleoedd i ddilyn y gyfraith a chreu amgylchedd gwaith iach cefnogol.

Dysgwch fwy am Ymgyrch Working Minds (Saesneg yn unig).

Dysgu mwy

I ddarganfod sut y gall eich gweithle gymryd rhan ym mis ymwybyddiaeth straen, ewch i wefan Cymdeithas Rheoli Straen (Saesneg yn unig).

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch