Ebrill 2025

Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith

Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.

Y mis hwn:

  • Diweddariad ar wefan newydd Cymru Iach ar Waith
  • Mae amser o hyd i gymryd rhan
  • Comisiynu adolygiad newydd o ‘Keep Britain Working’
  • Helpwch eich tîm i ffynnu yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Straen
  • Cymru Iach ar Waith yn ymwneud â digwyddiad bord gron ar lesiant
  • Nodwch y dyddiad – gweminar Rheoli Absenoldeb Salwch
  • Dyddiadau ymgyrchoedd Mai

Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.

A close up of colleagues looking at a laptop on a desk, one of them is pointing at the screen.

Diweddariad ar wefan newydd Cymru Iach ar Waith

Rydym yn teimlo’n gyffrous wrth gyhoeddi lansiad ein gwefan newydd!

Mae ein gwefan, sydd wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer cyflogwyr, yn darparu adnoddau hygyrch ac arweiniad arbenigol ar ystod eang o bynciau i helpu busnesau i wella iechyd a llesiant yn y gweithle.

Ewch i’n gwefan newydd i archwilio’r holl nodweddion ac adnoddau newydd sydd ar gael.

Dros y flwyddyn i ddod byddwn yn ychwanegu mwy o nodweddion ac adnoddau newydd, ac edrychwn ymlaen at eu rhannu gyda chi.

Byddem wrth ein bodd yn cael gwybod eich barn am ein gwefan newydd. Cysylltwch â ni i roi adborth.

A person typing on a computer.

Mae amser o hyd i gymryd rhan

Ydych chi wedi llenwi ein harolwg cyflogwyr eto?

Gwahoddir cyflogwyr ledled Cymru i gymryd rhan mewn arolwg byr i rannu sut rydych chi’n cyrchu gwybodaeth am iechyd a llesiant yn y gweithle, yr heriau rydych chi’n eu hwynebu a sut gallwn ni gefnogi’ch busnes yn well.

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd eisoes wedi rhoi o’u hamser i gwblhau’r arolwg hwn. Mae eich mewnwelediadau yn llunio dyfodol Cymru Iach ar Waith.

Three employees looking at a laptop together in an industrial workspace.

Comisiynu adolygiad newydd o ‘Keep Britain Working’

Mae Llywodraeth y DU wedi comisiynu Syr Charlie Mayfield i gynnal yr adolygiad annibynnol, Keep Britain Working, sy’n canolbwyntio ar:

  • Beth arall y gall cyflogwyr ei wneud i fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd oherwydd iechyd gwael ac anabledd, a
  • Beth fyddai angen i’r llywodraeth ei wneud i annog a chefnogi pobl sy’n byw gyda iechyd gwael a phobl anabl sy’n gweithio

Mae Syr Mayfield a’i dîm adolygu yn awyddus i glywed eich barn. Er mwyn hwyluso’r ymgysylltu, mae wedi cyhoeddi ei ‘adroddiad cam darganfod’. Mae hwn i’w weld ar wefan GOV.UK (Saesneg yn unig).

Gwahoddir rhanddeiliaid a phobl â phrofiad bywyd i roi adborth ysgrifenedig gan ddefnyddio’r ffurflen GOV.UK ganlynol. Croesewir ymatebion yn Gymraeg neu Saesneg.

Mae gwefan GOV.UK hefyd yn cynnwys Cylch Gorchwyl yr Adolygiad o Keep Britain Working (Saesneg yn unig).

A group of male colleagues standing in an office holding mugs while they talk to each other and laugh.

Helpwch eich tîm i ffynnu yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Straen

Mae mis Ebrill yn Fis Ymwybyddiaeth Straen – amser perffaith i fyfyrio ar sut y gallwch chi helpu eich tîm i reoli straen yn y gweithle. Mae darparu’r cymorth cywir o fudd i’ch gweithwyr a’ch busnes, ac yn arwain at gynhyrchiant uwch, llai o absenoldeb salwch, gwell morâl a mwy.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn argymell pum cam syml i atal a lleihau straen yn y gwaith:

  1. Estyn allan a chael sgyrsiau
  2. Adnabod arwyddion ac achosion straen
  3. Ymateb i unrhyw risgiau rydych wedi’u nodi
  4. Myfyrio ar y camau rydych wedi cytuno arnynt ac wedi’u cymryd
  5. Gwneud hyn yn rhan o’ch trefn arferol

Gallwch ddysgu mwy am y camau hyn ar wefan HSE (Saesneg yn unig).

I gael cymorth ac arweiniad ychwanegol, ewch i’n tudalen Rheoli Straen yn y Gweithle.

Cymru Iach ar Waith yn ymwneud â digwyddiad bord gron ar lesiant

Cawsom fore gwych yn cyd-gynnal y gyfres Dysgu Gyda’n Gilydd: Digwyddiad Bord Gron Iechyd a Llesiant Gweithwyr ochr yn ochr â Chomisiwn Bevan a CBI Cymru.

Rhoddodd y digwyddiad gyfle i ddod ag uwch arweinwyr o fusnesau yng Nghymru ynghyd i archwilio heriau a chyfleoedd o ran iechyd a llesiant gweithwyr. Roedd yn wych cael mewnwelediadau, rhannu profiadau a meithrin cysylltiadau â phawb a oedd yn bresennol.

Rhannodd Dr Helen Howson, Cyfarwyddwr Comisiwn Bevan:

“Mae’n bleser gan Gomisiwn Bevan gydweithio â phartneriaid allweddol fel CBI Cymru, rhaglen Cymru Iach ar Waith Iechyd Cyhoeddus Cymru, Busnes yn y Gymuned, a Diwydiant Cymru. Mae rhannu mewnwelediadau a dysgu gyda’n gilydd yn bwysig os ydym am hyrwyddo a gwella iechyd a llesiant gweithwyr yn effeithiol. Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi llwyfan gwych i wneud hynny.”

Bu Oliver Williams, Arweinydd Ymgynghorol Cymru Iach ar Waith hefyd yn myfyrio ar y digwyddiad:

“Roedd yr achlysur yn llwyfan gwych i ymgysylltu â pherchnogion busnes a chyflogwyr o bob rhan o Gymru. Roedd yn wych cael y cyfle i rannu profiadau ac archwilio’r cyfleoedd a’r heriau sy’n gysylltiedig ag iechyd a llesiant gweithwyr. Rwy’n edrych ymlaen at drafod ymhellach a datblygu’r cysylltiadau a wnaed yn y digwyddiad”.

Parhewch â’ch tanysgrifiad i’n cylchlythyr i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau yn y dyfodol.

Nodwch y dyddiad – gweminar Rheoli Absenoldeb Salwch

Rydym yn teimlo’n gyffrous wrth gyhoeddi y bydd ein gweminar rhad ac am ddim, Rheoli Absenoldeb Salwch, yn cael ei gynnal ar 11 Mehefin 2025.

Gobeithio y gallwch ymuno â ni – byddwn mewn cysylltiad yn fuan gyda mwy o fanylion, a sut i gofrestru ar gyfer y digwyddiad.

Dyddiadau ymgyrchoedd Mai

Mis Cerdded Cenedlaethol – Mai 2025

Gall gweithlu sy’n gorfforol egnïol gael effaith gadarnhaol ar eich busnes – gall wella llesiant, hybu perfformiad, lleihau absenoldebau a mwy.

Anogwch eich staff i symud yn ystod y Mis Cerdded Cenedlaethol hwn. Gall cefnogi gweithgaredd syml fel cerdded helpu eich tîm i deimlo’n well a hybu gweithle iachach, sy’n ymgysylltu fwy.

I gael gwybod mwy a chymryd rhan, ewch i dudalen ymgyrch ‘Living Streets’ (Saesneg yn unig).

Wythnos Dysgu yn y Gwaith – 12-18 Mai

Mae Wythnos Dysgu yn y Gwaith yn dychwelyd fis Mai eleni gyda’r thema genedlaethol ‘Get Connected’, sy’n canolbwyntio ar dri maes gweithgarwch:

  • Cysylltu a thyfu
  • Cysylltu ac ysbrydoli
  • Cysylltu ac archwilio

Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn gyfle gwych i hyrwyddo dysgu yn y gweithle, hybu ymgysylltiad gweithwyr a chefnogi datblygiad proffesiynol drwy gysylltu a chydweithio.

I gael gwybod sut y gall eich sefydliad gymryd rhan, ewch i dudalen Wythnos Dysgu yn y Gwaith (Saesneg yn unig).

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl – 12-18 Mai

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn gyfle gwerthfawr i ddechrau sgyrsiau, lleihau stigma a chreu amgylchedd gwaith sy’n iachach yn feddyliol.

‘Cymuned’ yw’r thema eleni ac mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd cysylltiad a pherthyn i’n llesiant meddyliol.

I ddarganfod mwy a chael mynediad at adnoddau, ewch i dudalen ymgyrch y Sefydliad Iechyd Meddwl (Saesneg yn unig).

Wythnos Gweithredu ar Ddementia – 19-25 Mai

Mae Wythnos Gweithredu ar Ddementia yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth a gweithredu i gefnogi gweithwyr y mae dementia yn effeithio arnynt. Gall creu gweithle sy’n deall dementia helpu i leihau stigma, gwella cynhwysiant a chefnogi llesiant staff.

I ddarganfod mwy a chael mynediad at adnoddau, ewch i dudalen ymgyrch Cymdeithas Alzheimer (Saesneg yn unig).

Gellir gweld gwybodaeth ac adnoddau am ystod o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd a llesiant ar ein gwefan.

Ewch i ymgyrchoedd a Digwyddiadau