Skip to content

Diffygiad a blinder yn y gweithle

Deall sut i adnabod a rheoli diffygiad a blinder yn y gweithle. Archwilio camau y gall cyflogwyr eu cymryd i wella lles a chynhyrchiant.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Cefnogi sgyrsiau agored

Hyfforddi rheolwyr i siarad am lwyth gwaith, straen a lles mewn cyfarfodydd 1:1 rheolaidd

Dysgwch fwy am reoli straen yn y gweithle. 

 

Hyrwyddo gweithio hyblyg

Helpu staff i addasu oriau gwaith neu leoliadau i gefnogi adferiad a chydbwysedd

Darllenwch fwy am weithio’n hyblyg.

 

Cydnabod ymdrech a llwyddiant

Gwerthfawrogi cyfraniadau staff – mae hyn yn rhoi hwb i forâl a chymhelliant.

Darparu adnoddau lles

Cyfeiriwch at gymorth iechyd meddwl fel y gwasanaeth cymorth yn y gwaith, Rhaglenni Cymorth i Weithwyr, gweithdai’n ymwneud â straen neu elusennau fel Mind.

Anogwch weithwyr i greu Cynllun Meddwl wedi’i bersonoli trwy wneud y cwis byr hwn ar wefan NHS Better Health (Saesneg yn unig).

 

 

 

 

Annog seibiannau rheolaidd

Cefnogwch weithwyr i gymryd cinio i ffwrdd o’u desgiau ac i ddefnyddio’u gwyliau blynyddol.

Datblygu diwylliant o ymddiriedaeth

Grymuso timau i reoli eu gwaith ac i godi pryderon yn gynnar.

Cynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth

Cymerwch ran mewn ymgyrchoedd cenedlaethol fel Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

 

Cynnig offer hunanasesu

Darparwch ddolenni i offer hunanasesu i staff asesu a ydyn nhw’n profi diffygiad, ac os felly, ar ba lefel.

Mae offer hunanasesu y gallwch eu rhannu gyda gweithwyr yn cynnwys:

Sylwer: Mae’r rhain er mwyn hunanasesu – nid profion diagnostig ydynt.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Awst 2025

Dwy fenyw, sy’n gydweithwyr, yn eistedd wrth fwrdd ac yn sgwrsio.