Awst 2025

Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW)

Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.

Y mis hwn:

  • Gweminar teithio llesol yn y gweithle – 17 Medi 2025
  • Mentora cymheiriaid Gweithdai darganfod (Medi)
  • Gweithdy cyd-gynhyrchu presgripsiynau natur
  • Mewnwelediadau diweddaraf: Cost Economaidd Iechyd Gwael yng Nghymru
  • Dweud eich dweud ar ailgylchu yn y gweithle
  • Stori llwyddiant: Meithrinfa Ddydd Fun Foundations
  • Dyddiadau ymgyrchoedd mis Medi

Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.

Gweminar Teithio Llesol yn y Gweithle – 17 Medi 2025

Gweminar Teithio Iach yn y Gweithle 17 Medi 2025 10:00 - 11:00yb

Ymunwch â ni am weminar diddorol a llawn gwybodaeth, lle byddwn yn archwilio sut y gall gweithleoedd ledled Cymru hyrwyddo ffyrdd iachach a mwy cynaliadwy o deithio.

Bydd Dr Tom Porter, ein siaradwr arbenigol, yn ein harwain drwy’r canlynol:

  • Beth yw teithio llesol a pham ei fod yn bwysig yng Nghymru
  • Y manteision eang o hyrwyddo teithio llesol i’ch gweithlu
  • Ffyrdd hawdd o gael eich staff i gymryd rhan a’u cymell
  • Sut i ddechrau neu adeiladu ar gynnydd a wnaed eisoes

Dyddiad: Dydd Mercher, 17 Medi 2025

Amser: 10:00 – 11:00

Lleoliad: Ar-lein (rhoddir y ddolen ar adeg cofrestru)

Cofrestrwch nawr!

Mentora Cymheiriaid: Gweithdai Darganfod (Medi)

Menyw yn gwenu, yn eistedd wrth fwrdd ac yn cael trafodaeth ddymunol â grŵp mewn swyddfa cynllun agored.

Rydym yn gwahodd cyflogwyr i helpu i lunio datblygiad ein Rhaglen Mentora Cymheiriaid newydd sy’n anelu at gryfhau gallu, hyder a chysylltiad cyflogwyr wrth hyrwyddo iechyd a llesiant yn y gweithle ac y bwriedir ei lansio ddiwedd 2025.

Mae’r gweithdai hyn i gyflogwyr yn rhan hanfodol o’r cyfnod darganfod. Maent yn sicrhau bod y rhaglen yn cael ei chynllunio ar y cyd â’r rhai a fydd yn elwa arni ac yn ei chyflwyno.

Bydd pedwar gweithdy yn cael eu cynnal drwy gydol mis Medi i gasglu mewnwelediadau, profiadau a syniadau cyflogwyr. Bydd eich mewnbwn yn chwarae rhan allweddol wrth ddylunio rhaglen sy’n diwallu anghenion gweithleoedd ledled Cymru.

  • Tri gweithdy ar-lein
  • Un gweithdy wyneb yn wyneb yng Ngogledd Cymru

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gofrestru eich diddordeb, anfonwch e-bost at [email protected]

Gweithdy cyd-gynhyrchu presgripsiynau natur

Llun agos o bobl yn sefyll mewn cylch gyda’i dwylo’n dal planhigyn yn y canol.

Mae Cymru Iach ar Waith a’r RSPB yn gwahodd cyflogwyr ledled Cymru i gymryd rhan mewn gweithdy cyd-gynhyrchu ar ddatblygu presgripsiynau natur — ffyrdd syml, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, o gefnogi llesiant gweithwyr trwy dreulio amser ym myd natur.
Os hoffech chi gymryd rhan, anfonwch e-bost at [email protected].

Gallwch hefyd archwilio ein tudalen bwnc newydd ar ymgysylltu â natur, sy’n rhannu syniadau ymarferol ar gyfer creu gweithle sy’n fwy cysylltiedig â natur — sy’n hybu llesiant gweithwyr a chynhyrchiant busnes.

Mewnwelediadau diweddaraf: Cost Economaidd Iechyd Gwael yng Nghymru

Dwy fenyw, sy’n gydweithwyr, yn eistedd wrth fwrdd ac yn sgwrsio.

Mae Newyddion Busnes Cymru wedi cynnwys erthygl yn ddiweddar gan Dr. Helen Howson, Cyfarwyddwr Comisiwn Bevan, sy’n archwilio’r heriau economaidd a chymdeithasol brys a achosir gan iechyd gwael yng Nghymru. Mae’n tynnu sylw at rôl bwysig atal a llesiant yn y gweithle wrth adeiladu dyfodol iachach a mwy cynaliadwy.

Mae’r gweithle yn lleoliad pwerus ar gyfer ymyrraeth iechyd ataliol. Fel rhaglen, mae Cymru Iach ar Waith yn cefnogi cyflogwyr i gymryd camau gweithredu ar iechyd a llesiant.

Gallwn eich cefnogi i wneud y canlynol:

  • Ysgogi newid diwylliannol yn y ffordd y mae iechyd yn cael ei ymdrin yn y gweithle
  • Cyfrannu at baratoi gweithlu Cymru ar gyfer yr heriau demograffig ac iechyd sydd i ddod
  • Meithrin gwydnwch staff, cyfraddau cadw staff a’u perfformiad drwy fuddsoddiad mwy doeth a thosturiol mewn iechyd

Dysgwch ragor am gymryd camau gweithredu ar iechyd a llesiant.

Dweud eich dweud ar ailgylchu yn y gweithle

Person yn didoli gwastraff ailgylchu yn y gwaith.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ddiweddariadau arfaethedig i Reoliadau Ailgylchu yn y Gweithle.

Byddai un newid allweddol yn ei gwneud yn ofynnol i weithleoedd gasglu eitemau trydanol gwastraff bach ar wahân o fis Ebrill 2026.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 22 Hydref 2025 — rhannwch eich barn a helpwch i lunio’r rheolau.

Ymgynghoriad: Diwygiadau i Gasglu Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu.

Oes gennych chi enghraifft o arfer da o ran iechyd a llesiant yn y gweithle? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!

Gall rhannu eich llwyddiant ysbrydoli eraill i weithredu, annog cydweithrediad a hybu perfformiad ar draws gweithleoedd.

Cysylltwch â ni i rannu eich stori: [email protected].

Fun Foundations logo

Y mis hwn rydym yn rhannu stori lwyddiant am fwydo ar y fron yn y gweithle gan Fun Foundations (Saesneg yn unig) sydd â dwy feithrinfa ym Mro Morgannwg:

Fel rhan o’u dull cynhwysol pan fydd gweithwyr yn dychwelyd o absenoldeb mamolaeth, maent yn sicrhau eu bod yn cefnogi bwydo ar y fron yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys trafod anghenion unigol, cynnal asesiadau risg a darparu mannau addas i weithwyr gael llaeth o’r fron a’i storio.

Drwy weithio gyda CIW, maent wedi gwella eu hymrwymiad i iechyd a llesiant gweithwyr, sy’n cynnwys cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar ymgyrchoedd iechyd fel Wythnos Ymwybyddiaeth Bwydo ar y Fron.

Dyddiadau ymgyrchoedd mis Medi

Dyma rai ymgyrchoedd allweddol y mae’n bosibl y bydd gweithleoedd eisiau cymryd rhan ynddynt ym mis Medi eleni:

Wythnos Nabod Eich Rhifau! (8-14 Medi)

Nabod Eich Rhifau! Mae’r Wythnos yn digwydd bob mis Medi a hon yw’r ymgyrch fwyaf yn y DU sy’n ymroddedig i brofi pwysedd gwaed ac ymwybyddiaeth.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ymgyrch Wythnos Nabod Eich Rhifau.

Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol (24 Medi)

Mae Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yn gyfle i fynd ar drywydd camau bach tuag at iechyd parhaol i chi a’ch busnes.

Mae gweithle mwy egnïol yn helpu gweithwyr i aros yn iach, yn hapus ac yn frwdfrydig a gall gynnig llawer o fanteision i gyflogwyr hefyd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ymgyrch Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol.

Bore Coffi Macmillan (26 Medi)

Bore Coffi Macmillan yw digwyddiad codi arian mwyaf Macmillan i gefnogi pobl sy’n byw gyda chanser.

Mae Macmillan yn ei gwneud hi’n hawdd cynnal bore coffi yn y gwaith – gallwch gofrestru i gynnal Bore Coffi pryd bynnag y bydd yn gyfleus i chi a’ch gweithle.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ymgyrch Bore Coffi Macmillan.

Gellir gweld gwybodaeth ac adnoddau am ystod o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd a llesiant ar ein gwefan.