Rhaglen Mentora Cymheiriaid

Yn Cymru Iach ar Waith, rydyn ni’n gwybod bod gweithleoedd iach yn creu timau hapusach a mwy cynhyrchiol.

Mae ein Rhaglen Mentora Cymheiriaid yn dod â sefydliadau o bob rhan o Gymru ynghyd i rannu profiadau real, cyngor ymarferol, a dulliau sydd wedi ennill eu plwy’ o wella lles yn y gweithle.

Gwybodaeth am y Rhaglen

Mae ein Rhaglen Mentora Cymheiriaid yn dod â sefydliadau ynghyd ar bwnc a rennir, sef iechyd a llesiant yn y gweithle.

Mae pob carfan yn cynnwys un sefydliad mentor a hyd at bedwar sefydliad mentai.

Trwy dri gweithdy strwythuredig, mae cyfranogwyr yn:

  • Rhannu profiadau go iawn o’r gweithle
  • Dysgu gan y mentor ac oddi wrth ein gilydd
  • Archwilio gwahanol safbwyntiau a syniadau
  • Nodi camau gweithredu ymarferol
  • Myfyrio ar gynnydd a’r camau nesaf

Mae pawb yn cyfrannu trwy rannu mewnwelediadau, gofyn cwestiynau a chefnogi ei gilydd i ddod o hyd i atebion ymarferol.

Ar ôl y trydydd gweithdy, gall y garfan ddewis parhau i gwrdd mewn fformat mwy hyblyga arweinir gan gyflogwyr, yn dibynnu ar ddiddordebau a chapasiti’r grŵp.

Y nod yw datblygu rhwydwaith parhaol lle gall cyflogwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd, rhannu’r hyn sy’n gweithio, a gwneud llesiant yn rhan arferol o ddiwylliant bob dydd yn y gweithle.

Trawsgrifiad – Trosolwg o’r Rhaglen Mentora Cymheiriaid

Yn Cymru Iach ar Waith, rydym yn gwybod bod creu gweithleoedd iachach yn arwain at dimau hapusach a mwy cynhyrchiol.

I gefnogi busnesau gyda hyn, mae ein Rhaglen Mentora Cymheiriaid yn cysylltu cyflogwyr ledled Cymru i rannu profiad o’r byd go iawn, gwybodaeth ymarferol a dulliau profedig o ran lles yn y gweithle.

Mae cyflogwyr wedi’u cysylltu yn seiliedig ar ystod o ffactorau fel diwydiant, angen neu leoliad.

Gyda chefnogaeth ac arweiniad gan Cymru Iach ar Waith, mae disgwyliadau’n glir ac mae perthnasoedd yn cael eu hadeiladu i lwyddo.

Mae gwiriadau rheolaidd, adolygiadau cynnydd ac arweiniad arbenigol yn sicrhau bod mentora yn effeithiol, gan helpu busnesau i roi lles wrth wraidd eu gweithle.

P’un a ydych chi’n edrych i dyfu mewn maes iechyd a lles penodol, neu’n barod i rannu eich profiad i gefnogi eraill, ymunwch â’r Rhaglen Mentora Cymheiriaid heddiw gyda Cymru Iach ar Waith.

Pam y dylech gymryd rhan

P’un a ydych chi eisiau cryfhau dull eich sefydliad o ymdrin ag iechyd a llesiant, neu’n dymuno rhannu eich profiad eich hun i gefnogi eraill, dyma’ch cyfle i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth i iechyd a lles yn y gweithle.

Gall sefydliadau sy’n cymryd rhan yn y Rhaglen Mentora gan Gymheiriaid fod yn gymwys ar gyfer ein Bathodynnau Cydnabyddiaeth CIW.

Cofrestru eich diddordeb

Cysylltwch â ni i roi gwybod inni fod gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r Rhaglen Mentora Cymheiriaid.