Bathodynnau Cydnabyddiaeth

Bathodyn Cydnabod Cyflogwr Gweithredol
Bathodyn Cydnabod Cyflogwr Blaenllaw

Mae’r Bathodynnau Cydnabyddiaeth Cymru Iach ar Waith (CIW) yn cydnabod cyflogwyr sy’n cymryd camau cadarnhaol i wella iechyd a llesiant yn y gweithle.

Sut mae’r Bathodynnau yn gweithio

Mae’r bathodynnau yn darparu llwybr clir a chefnogol i sefydliadau ymgysylltu â
gwasanaethau Cymru Iach ar Waith, a dangos eu hymrwymiad i lesiant y gweithlu.

Mae cymryd rhan am ddim, yn wirfoddolac yn agored i bob cyflogwr yng Nghymru.

Nod y bathodynnau cydnabyddiaeth yw:

  • Cydnabod sefydliadau sy’n cymryd camau i wella llesiant yn y gweithle
  • Darparu symbol gweladwy o ymrwymiad i iechyd gweithwyr
  • Cefnogi cyflogwyr ar daith strwythuredig o welliant
  • Hyrwyddo cydweithio, dysgu gan gymheiriaid a rhannu arfer da

Gall cyflogwyr ennill dau fathodyn wrth iddynt ymgysylltu mwy ag offer, gwasanaethau a chyfleoedd dysgu Cymru Iach ar Waith.

Trawsgrifiad – Animeiddiad Bathodyn Cydnabyddiaeth CIW

1
01:00:05,880 –> 01:00:09,119
<b>Mae Cymru Iach ar Waith yn</b>
<b>cefnogi cyflogwyr</b>

2
01:00:09,119 –> 01:00:12,079
<b>ledled Cymru i adeiladu gweithleoedd</b>

3
01:00:12,079 –> 01:00:15,360
<b> iachach, hapusach a mwy cynhyrchiol.</b>

4
01:00:16,159 –> 01:00:19,440
<b>Mae Bathodynnau Cydnabyddiaeth</b>
<b>Cymru Iach ar Waith</b>

5
01:00:19,719 –> 01:00:23,239
<b>yn dathlu cyflogwyr sy’n cymryd camau cadarnhaol</b>

6
01:00:23,239 –> 01:00:27,519
<b>ac ymarferol i wella iechyd a llesiant yn y gwaith.</b>

7
01:00:28,800 –> 01:00:32,480
<b>Maent yn cynnig ffordd syml,</b>
<b>weladwy o ddangos cynnydd</b>

8
01:00:32,480 –> 01:00:36,440
<b>ac ymrwymiad eich sefydliad i gefnogi eich gweithlu</b>

9
01:00:36,639 –> 01:00:41,079
<b>ac i ddangos i ddarpar weithwyr eich bod</b>
<b>yn gofalu am lesiant eich staff.</b>

10
01:00:42,880 –> 01:00:46,800
<b>Drwy gymryd rhan, mae cyflogwyr</b>
<b>yn ymgysylltu ag offer,</b>

11
01:00:46,800 –> 01:00:51,920
<b>canllawiau a chyfleoedd dysgu am</b>
<b>ddim gan Cymru Iach ar Waith.</b>

12
01:00:53,079 –> 01:00:58,559
<b>Mae cyfranogiad yn dangos nad yn unig y mae</b>
<b>gan eich sefydliad ddiddordeb mewn llesiant</b>

13
01:00:58,800 –> 01:01:02,480
<b>ond ei fod yn cymryd camau gweithredol i’w gryfhau.</b>

14
01:01:03,360 –> 01:01:07,559
<b>Mae Cymru Iach ar Waith yn</b>
<b>cynnig dau fathodyn cydnabyddiaeth,</b>

15
01:01:07,559 –> 01:01:11,760
<b>sy’n adlewyrchu ymgysylltiad</b>
<b>a gweithgarwch eich sefydliad.</b>

16
01:01:12,679 –> 01:01:16,719
<b>Mae bathodyn Cyflogwr</b>
<b>Gweithredol Cymru Iach ar Waith</b>

17
01:01:16,719 –> 01:01:21,440
<b>yn cydnabod y sefydliadau hynny</b>
<b>sydd wedi cymryd camau ystyrlon,</b>

18
01:01:21,440 –> 01:01:25,360
<b>cynnar i ddechrau gwella llesiant yn y gweithle.</b>

19
01:01:26,800 –> 01:01:28,559
<b>I ennill y bathodyn hwn,</b>

20
01:01:28,559 –> 01:01:33,480
<b>mae cyflogwyr yn cwblhau Offeryn</b>
<b>Arolwg Cyflogwyr Cymru Iach ar Waith</b>

21
01:01:33,480 –> 01:01:37,960
<b>ac yn cymryd o leiaf un cam ymarferol fel</b>

22
01:01:38,119 –> 01:01:42,119
<b>Mynychu Gweithdy Llesiant yn y Gweithle: Camau Cyntaf.</b>

23
01:01:42,760 –> 01:01:46,440
<b>Gweithio gyda’r gwasanaeth</b>
<b>Cymorth Cynghorydd yn y Gweithle.</b>

24
01:01:47,360 –> 01:01:50,920
<b>Cymryd rhan yn y Rhaglen Mentora Cymheiriaid.</b>

25
01:01:51,400 –> 01:01:55,000
<b>Mae’r bathodyn hwn yn dangos</b>
<b>bod eich sefydliad yn ymgysylltu’n</b>

26
01:01:55,000 –> 01:01:57,239
<b>weithredol â Cymru Iach ar Waith</b>

27
01:01:57,239 –> 01:02:00,360
<b>ac yn dechrau adeiladu gweithle iachach.</b>

28
01:02:01,960 –> 01:02:05,679
<b>Mae bathodyn Cyflogwr</b>
<b>Blaenllaw Cymru Iach ar Waith</b>

29
01:02:06,119 –> 01:02:08,079
<b>yn cydnabod y sefydliadau hynny</b>

30
01:02:08,079 –> 01:02:10,360
<b>sy’n dangos arweinyddiaeth</b>

31
01:02:10,360 –> 01:02:14,320
<b>ac yn cefnogi eraill ar y daith</b>
<b>tuag at weithleoedd iachach.</b>

32
01:02:14,880 –> 01:02:16,559
<b>I ennill y bathodyn hwn,</b>

33
01:02:16,559 –> 01:02:20,880
<b>rhaid i gyflogwyr fodloni’r meini</b>
<b>prawf Cyflogwr Gweithredol</b>

34
01:02:20,880 –> 01:02:21,960
<b>a hefyd</b>

35
01:02:21,960 –> 01:02:25,480
<b>Rhannu stori lwyddiant ar wefan Cymru Iach ar Waith</b>

36
01:02:25,960 –> 01:02:29,559
<b>a chymryd camau sy’n cefnogi dysgu pobl eraill,</b>

37
01:02:29,880 –> 01:02:36,800
<b>er enghraifft, trwy ddod yn fentor o fewn</b>
<b>Rhaglen Mentora Cymheiriaid Cymru Iach ar Waith.</b>

38
01:02:37,639 –> 01:02:43,239
<b>Mae’r bathodyn hwn yn tynnu sylw at</b>
<b>sefydliadau sy’n gweithredu fel modelau rôl,</b>

39
01:02:43,239 –> 01:02:45,480
<b>yn dangos ymrwymiad parhaus</b>

40
01:02:45,480 –> 01:02:50,599
<b>ac yn helpu i greu dyfodol iachach</b>
<b>ar gyfer gweithleoedd ledled Cymru.</b>

41
01:02:51,360 –> 01:02:54,679
<b>Mae’r bathodynnau cydnabyddiaeth yn rhad ac am ddim,</b>

42
01:02:54,920 –> 01:02:59,639
<b>yn wirfoddol ac ar agor i</b>
<b>gyflogwyr o bob maint ledled Cymru.</b>

43
01:03:00,039 –> 01:03:03,360
<b>Dechreuwch eich taith gyda Cymru Iach ar Waith</b>

44
01:03:03,360 –> 01:03:07,639
<b>a dangoswch eich ymrwymiad</b>
<b>i greu gweithle iachach i bawb.</b>

45
01:03:08,039 –> 01:03:10,239
<b>Os hoffech gael rhagor o wybodaeth,</b>

46
01:03:10,599 –> 01:03:13,239
<b>ewch i wefan Cymru Iach ar Waith</b>

47
01:03:13,239 –> 01:03:16,360
<b>neu cysylltwch â’n tîm i gael cymorth.</b>

Bathodyn Cydnabyddiaeth Cyflogwr Gweithredol

Dechrau arni gyda llesiant yn y gweithle

Mae bathodyn Cyflogwr Gweithredol CIW yn cydnabod sefydliadau sydd wedi cwblhau camau cychwynnol taith Cymru Iach ar Waith ac sy’n dechrau datblygu eu hymagwedd at lesiant yn y gweithle.

Bathodyn Cydnabyddiaeth Cyflogwr Gweithredol

Y meini prawf i gyflawni’r bathodyn hwn

  • Cofrestru gyda Cymru Iach ar Waith
  • Cwblhau’r Offeryn Arolwg Cyflogwyr
  • Cwblhau un o’r camau canlynol:
    • Mynychu Gweithdy ‘Llesiant yn y Gweithle: Camau Cyntaf’ CIW
    • Ymgysylltu â’r gwasanaeth Cymorth gan Gynghorwr Gweithle
    • Cymryd rhan yn y Rhaglen Mentora Cymheiriaid
Gwybodaeth:

Mae’r camau hyn yn helpu sefydliadau i ddeall eu man cychwyn a dechrau rhoi camau ymarferol ar waith i wella llesiant yn y gweithle.

Bathodyn Cydnabyddiaeth Cyflogwr Blaenllaw

Dangos arweinyddiaeth, rhannu dysgu a chefnogi eraill

Mae bathodyn Cyflogwr Blaenllaw CIW yn cydnabod cyflogwyr sydd nid yn unig yn cymryd camau i wella eu gweithle eu hunain ond sydd hefyd yn cyfrannu at ddysgu yn y sector ehangach a chymorth gan gymheiriaid.

Mae’r cyflogwyr hyn yn gwella eu gweithle eu hunain wrth helpu eraill i ddysgu.

Bathodyn Cydnabyddiaeth Cyflogwr Blaenllaw

Y meini prawf i gyflawni’r bathodyn hwn

Bodloni’r holl feini prawf ‘Cyflogwr Gweithredol’, yn ogystal â:

  • Chyflwyno stori lwyddiant i’w rhannu ar wefan CIW
  • Cymryd cam gweithredu sy’n cefnogi dysgu eraill, er enghraifft, trwy ddod yn
    fentor o fewn Rhaglen Mentora Cymheiriaid CIW
Gwybodaeth:

Mae’r bathodyn hwn yn tynnu sylw at sefydliadau sy’n esiampl dda o ran gweithredu fel gweithleoedd iach.

Bathodynnau penodol i bynciau

Dangos arweinyddiaeth, rhannu dysgu a chefnogi eraill

Mae ein bathodyn Cyflogwr sy’n Ystyriol o Fwydo ar y Fron ar gael i sefydliadau sydd wedi ymrwymo i greu gweithle sy’n ystyriol o fwydo ar y fron ar gyfer gweithwyr.

Cyflogwr sy'n cefnogi bwydo ar y fron

Y meini prawf i gyflawni’r bathodyn hwn

Bydd cyflogwyr sy’n ymwneud â’r pecyn cymorth bwydo ar y fron yn cael eu cydnabod am eu hymrwymiad.

Gwneud cais am fathodyn

Gall cyflogwyr wneud cais am Fathodyn Cydnabyddiaeth CIW drwy broses ymgeisio ar-lein syml.

Cysylltwch â ni i ddechrau