Wythnos Hinsawdd Cymru
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Hinsawdd Cymru i ddangos Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol drwy godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd a chymryd camau gweithredu yn y gwaith.
Gwerth cefnogi Wythnos Hinsawdd Cymru yn y gwaith
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn cael ei chynnal gan Gweithredu ar Hinsawdd Cymru. Mae’r wythnos yn cynnig cyfle i bawb ledled Cymru ymuno â’r drafodaeth am weithredu ar newid hinsawdd.
Mae’r wythnos hefyd yn gyfle i gyflogwyr godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd yn y gweithle. Gall camau bach, fel lleihau gwastraff a defnydd ynni, gael effaith fawr.
Ffyrdd o gefnogi Wythnos Hinsawdd Cymru yn y gwaith
Ymuno yn y gynhadledd rithwir
Bydd cynhadledd rithwir yr Wythnos Gweithredu ar Newid Hinsawdd yn cael ei chynnal dros dri diwrnod (3-5 Tachwedd 2025). Mae’n gyfle i randdeiliaid o bob rhan o’r sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector ddod at ei gilydd a thrafod gwahanol feysydd, o dai a thrafnidiaeth i amaethyddiaeth a defnydd tir.
I gael gwybod mwy a chofrestru i ymuno, ewch i wefan Gweithredu ar Hinsawdd Cymru.
Cynnal digwyddiad
Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd sefydliadau ac unigolion sydd â chysylltiadau cymunedol cryf i wneud cais am gyllid grant i gynnal digwyddiadau Sgyrsiau am yr Hinsawdd yn eu cymunedau.
I ddarganfod a allai eich digwyddiad chi fod yn gymwys i gael cyllid, ewch i wefan Gweithredu ar Hinsawdd Cymru.
Rhannu adnoddau
Rhannwch wybodaeth ac adnoddau am newid hinsawdd i godi ymwybyddiaeth ac annog gweithredu.
Mae gan wefan Gweithredu ar Hinsawdd Cymru lawer o awgrymiadau ymarferol i wneud dewisiadau mwy gwyrdd, gan gynnwys cwis dewisiadau gwyrdd, dewisiadau teithio gwyrdd a dewisiadau bwyd gwyrdd.
Cefnogi cynaliadwyedd yn y gwaith drwy gydol y flwyddyn
Mae hyrwyddo arferion cynaliadwy yn eich gweithle trwy gydol y flwyddyn yn fuddiol i’ch gweithwyr a’ch busnes.
Dyma rai pethau y gallwch chi ddangos ymrwymiad iddynt yn eich gweithle:
Teithio egnïol, iach a chynaliadwy
Mae cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn cynnig llawer o fanteision i’ch gweithwyr a’ch sefydliad.
Mae’n helpu i wella iechyd corfforol, lles meddyliol, cynhyrchiant gweithwyr ac yn lleihau absenoldeb salwch.
Trwy leihau dibyniaeth ar gerbydau preifat, gallwch hefyd helpu i wella ansawdd aer, lleihau tagfeydd a chefnogi gweithredu dros yr hinsawdd.
Fel cyflogwr, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i gefnogi teithio iach, egnïol a chynaliadwy yn eich gweithle, gan gynnwys:
- Hyrwyddo cerdded, teithio ar olwynion a beicio ar gyfer teithiau byr
- Gwella cyfleusterau ar y safle
- Cefnogi trafnidiaeth gyhoeddus
- Annog rhannu ceir
- Cyflwyno arferion gweithio hyblyg ac ystwyth
Darganfyddwch fwy am deithio llesol, iach a chynaliadwy.
Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol
Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CCC) yw ymrwymiad sefydliad i arferion busnes moesegol, effaith gymdeithasol a chynaliadwyedd. Os ydych chi’n integreiddio CCC i’ch strategaethau craidd, gallwch elwa o enw da gwell, teyrngarwch cwsmeriaid a gwella’ch siawns o sicrhau llwyddiant busnes hirdymor.
Fel cyflogwr, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i ddangos eich ymrwymiad i CCC yn eich gweithle, gan gynnwys:
- Creu gweithle cyfrifol
- Cefnogi’r gymuned
- Aferion busnes moesegol a chynaliadwy
Darganfyddwch fwy am Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol.
Hyrwyddo ymgyrchoedd
Ochr yn ochr ag Wythnos Hinsawdd Cymru, mae ymgyrchoedd eraill drwy gydol y flwyddyn i’ch helpu i hyrwyddo cynaliadwyedd. Mae’r rhain yn cynnwys:
Gallwch gynllunio ymlaen llaw drwy ddefnyddio ein rhestr lawn o ymgyrchoedd a digwyddiadau.
I ddarganfod sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Hinsawdd Cymru, ewch i wefan Gweithredu ar Hinsawdd Cymru.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.
- Ymgyrch