Skip to content

Sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ysbrydoli gweithlu mwy egnïol

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi trawsnewid y ffordd y mae ei weithlu’n ymgysylltu â gweithgarwch corfforol trwy her weithgaredd flynyddol sydd wedi tyfu o ran maint, effaith ac uchelgais.
Gan ddechrau fel ffordd o hyrwyddo arferion iachach, mae bellach yn rhaglen llesiant flaenllaw yn y bwrdd iechyd.

Ynglŷn â BIPCTM

Mae BIPCTM yn gyflogwr bwrdd iechyd yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae’n gwasanaethu tua 450,000 o drigolion ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Maent yn cyflogi tua 13,000 o weithwyr ar draws mwy nag 20 safle.

Gyda 85% o weithwyr yn byw yn lleol, mae’r sefydliad yn cydnabod y cysylltiad pwysig rhwng llesiant gweithwyr ac iechyd y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

Yr her

Tynnodd Asesiad Anghenion Iechyd 2022 sylw at heriau sylweddol ar draws rhanbarth BIPCTM:

  • Roedd disgwyliad oes iach islaw cyfartaledd Cymru (61.4 mlynedd i ddynion; 62 mlynedd i fenywod)
  • Roedd 64% o oedolion dros bwysau neu’n ordew, sy’n awgrymu ymgysylltiad is na’r cyfartaledd ag ymddygiadau iach

Dangosodd Arolwg Llesiant Gweithwyr BIPCTM 2022 hefyd mai dim ond 15% o staff oedd yn cyflawni’r lefelau gweithgarwch corfforol a argymhellir.

Mae’r canfyddiadau yn tynnu sylw at yr angen am fenter ysgogol, hygyrch i helpu gweithwyr adeiladu arferion iachach mewn ffordd gefnogol.

Beth wnaeth BIPCTM

Lansiodd BIPCTM eu her weithgaredd yn 2023, gan ddefnyddio’r platfform digidol Big Team Challenge (BTC) (Saesneg yn unig). Nhw oedd y sefydliad GIG cyntaf yng Nghymru i wneud hynny.

Y targed cychwynnol oedd cael 100 o weithwyr i gymryd rhan. Yn lle hynny, ymunodd bron i 400 o weithwyr. Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw gerdded Llwybr Arfordirol Cymru yn rhithwir (870 milltir).

Mae’r rhaglen bellach yn rhan o nod hirdymor BIPCTM i gefnogi ffyrdd iachach o fyw a hyrwyddo’r Agenda Iechyd y Boblogaeth. Ac mae timau BIPCTM eisoes yn cynllunio her weithgaredd 2026.

Cynyddu cyfranogiad a gwella cynhwysiant

Mae ymgysylltiad wedi cynyddu’n sydyn o flwyddyn i flwyddyn gyda 1,042 o weithwyr yn cymryd rhan yn 2025.

Roedd adborth staff yn chwarae rhan ganolog wrth lunio dyluniad esblygol yr her, gyda thalebau GetFitWales yn cael eu defnyddio i annog gweithwyr i gymryd rhan mewn arolygon cyn ac ar ôl yr her.

Ar ôl y flwyddyn gyntaf, dywedodd cyfranogwyr nad oedd un llwybr yn addas i bob gallu. Mewn ymateb, cyflwynodd BIPCTM dri opsiwn pellter cynhwysol wedi’u cysoni â dull gofal cam wrth gam:

Dechreuwr: “Dechrau fy nhaith”

Canolradd: “Cynyddu fy ngweithgaredd”

Uwch: “Eisoes yn actif, eisiau rhywbeth newydd”

Gwnaeth y newid hwn yr her yn fwy apelgar a gwella cymhelliant ar draws ystod eang o dimau a lefelau ffitrwydd.

Goresgyn rhwystrau ymgysylltu a chefnogi newid mewn ymddygiad

Mae BIPCTM wedi cyflwyno amrywiaeth o ffyrdd i annog cyfranogiad yn yr her ac i gefnogi ffyrdd o fyw egnïol yn ehangach.

Sgidiau Symud

Mae BIPCTM yn hyrwyddo’r defnydd o esgidiau cyfforddus trwy Sgidiau Symud i annog symud yn ystod y diwrnod gwaith.

Gweithdai a fideos byr

Mae rhannu strategaethau ac awgrymiadau syml yn helpu i fynd i’r afael â rhwystrau cyffredin, fel:

  • cymhelliant isel
  • pwysau amser
  • gweithio wrth ddesg

Roedd y mesurau hyn yn grymuso staff i flaenoriaethu hunan-ofal ac ymgorffori arferion iach yn eu bywyd bob dydd.

Dysgwch fwy am ddulliau a ddefnyddiwyd i oresgyn rhwystrau i ymarfer corff ar wefan BIPCTM.

Cydweithio

Mae cydweithio cryf rhwng timau yn helpu i gyflawni’r her weithgaredd. Mae’r timau sy’n cymryd rhan yn cynnwys:

  • Timau Profiad a Llesiant Gweithwyr BIPCTM
  • Timau Cyfathrebu ac Ymgysylltu BIPCTM
  • Tîm partner y Big Team Challenge

Dywedodd y Big Team Challenge:

“Rydym wedi bod yn falch iawn o gynorthwyo BIPCTM gyda’u heriau camau ers 2023, gan roi ein platfform her ar y we ac ap i dros 2,000 o gyfranogwyr sydd wedi cerdded gyda’i gilydd fwy na 17 gwaith ledled y byd. Fel cwmni yn y DU, mae’n wych gweld ein platfform yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau lleol i helpu i wella llesiant eu poblogaeth. Mae’r ffaith bod bwrdd arall yng Nghymru wedi dechrau rhedeg heriau gyda ni yn dangos llwyddiant menter BIPCTM.”

Dysgwch fwy am yr her ar wefan y Big Team Challenge (Saesneg yn unig).

Y canlyniadau

Mae Her Weithgaredd BIPCTM yn gynhwysol, yn gyfannol ac yn gynaliadwy. Mae’n enghraifft bwerus o arfer gorau llesiant yn y gweithle.

Mae’r fenter aml-flwyddyn yn rhoi manteision sy’n cynnwys:

  • grymuso gweithwyr
  • cryfhau timau
  • dylanwadu ar ofal cleifion
  • cefnogi cymunedau iachach

Dangosodd data gwerthuso a gasglwyd cyn ac ar ôl yr her welliannau sylweddol a chynaliadwy.

Llesiant a newid ymddygiad

  • Adroddodd 91% welliant mewn llesiant corfforol
  • Adroddodd 90% well llesiant emosiynol
  • Daeth 87% o hyd i ffyrdd o oresgyn rhwystrau fel amser, cymhelliant a llwyth gwaith
  • Mae 88% yn bwriadu cynnal eu lefelau gweithgaredd uwch, ac mae 80% yn bwriadu cynyddu ymhellach

Teithio llesol a chynaliadwyedd

  • Gwnaeth 47% ostwng eu defnydd o geir ar gyfer teithiau lleol
  • Dros dair blynedd, mae cydweithrediad BIPCTM â BTC wedi arwain at blannu 321 o goed, gan atgyfnerthu effaith amgylcheddol y fenter

Morâl y tîm a gofal cleifion

Cryfhaodd yr her berthnasoedd tîm, rhoddodd hwb i ddiwylliant y gweithle a hyd yn oed dylanwadu ar ymarfer clinigol. Er enghraifft, mae tîm Deieteg BIPCTM bellach yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol yn ystod sesiynau teuluol, gan ddangos sut y gall mentrau llesiant staff ymestyn i ofal cleifion.

Model y mae eraill yn ei ddilyn

Mae llwyddiant y rhaglen wedi ysbrydoli sefydliadau eraill, gan gynnwys Gofal Iechyd Digidol Cymru, i gyflwyno eu her weithgaredd eu hunain.

Gyda 98% o’r cyfranogwyr yn argymell yr her, mae BIPCTM wedi sefydlu enghraifft safon aur o ddull deniadol a chynaliadwy o ymdrin â llesiant y gweithlu.

Cydnabyddiaeth gwobr

Cyrhaeddodd her gweithgaredd BIPCTM y rhestr fer yng Ngwobrau Self Care Awards 2025 y Self Care Forum (SCF), gydag astudiaeth achos wedi’i chyhoeddi ar wefan SCF i eraill ddysgu ohoni. Mae’r gwobrau’n dathlu mentrau rhagorol sy’n hyrwyddo hunanofal a llesiant cymunedol ledled y DU.

Canmolodd y beirniaid y fenter am ei chyrhaeddiad a’i heffaith drawiadol, ei dyluniad ymddygiadol meddylgar, a’i gweithrediad cryf, gan dynnu sylw at sut wnaeth lleisiau’r staff lunio rhaglen a gefnogwyd yn dda, a gafodd oblygiadau ehangach ar draws BIPCTM.

Darllenwch yr astudiaeth achos lawn ar wefan y Fforwm Hunanofal (Saesneg yn unig).

Roedd yr adborth gan gyfranogwyr staff yn cynnwys:

“Ar wahân i’r holl adborth cadarnhaol uchod am yr her eleni, hoffwn dynnu sylw at y tîm a diolch i’r tîm am yr effaith gadarnhaol hirdymor y mae’r fenter hon yn ei chael. Yn bersonol, rwy’n teimlo bod hyn yn dod â budd fis ar ôl mis, flwyddyn ar ôl blwyddyn, rwy’n dod yn fwy egnïol yn gyson. Mae’r her wedi chwarae rhan enfawr yn hyn. Diolch yn fawr i’r tîm am yr holl ymdrech a’r cydlynu sy’n mynd i mewn i’r peth!”

“Yn gyffredinol, roeddwn i’n teimlo bod yr her yn hynod gadarnhaol o ran cynyddu fy lefelau gweithgarwch a blaenoriaethu amser i symud. Fe wnes i ddod o hyd i fideos ymarfer corff yr oeddwn i’n eu mwynhau yn fawr ac na fyddwn i’n ofni eu gwneud a oedd yn ei wneud yn llawer mwy cynaliadwy i mi.”

“Rydw i wedi mwynhau’r her yn fawr, ac fe ddaeth ar adeg dda i mi lle roeddwn i eisiau gwella fy llesiant ac ymarfer corff. Rydw i wedi sylwi ar fanteision cadarnhaol, ac mae wedi gwneud i mi ddechrau rhedeg eto.”

Rhannodd Hannah Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arweinyddiaeth a Diwylliant:

“Mae’r Big Team Challenge wedi dod yn un o’n mentrau llesiant gweithwyr blynyddol gan ei fod yn wirioneddol adlewyrchu’r hyn y mae ein staff wedi dweud wrthym sydd ei angen arnyn nhw; rhywbeth y gall pawb ymuno ag ef ac mae’n realistig o fewn pwysau gwaith modern y GIG.”

Awgrymiadau i gyflogwyr eraill sy’n meddwl am ddatblygu’r math hwn o ymyrraeth yn y gweithle

Dechreuwch trwy fod yn glir ynglŷn â’r hyn rydych chi eisiau ei gyflawni ac ar gyfer pwy mae’r ymyrraeth. Mae hyn yn eich helpu i greu negeseuon sydd wedi’i ffocysu, yn berthnasol ac yn afaelgar ac yn rhoi sylfaen gadarn i chi adeiladu arnynt.

Mae hefyd yn helpu i:

  • fesur eich effaith
  • bod yn gynhwysol
  • dathlu llwyddiannau
  • cysylltu’r gwaith â nodau sefydliadol ehangach

Bod â nodau clir a chynulleidfa glir yw beth sy’n gwneud y gweddill yn bosibl.

Adnoddau i gyflogwyr