Sut adeiladodd Banc Datblygu Cymru weithle iachach drwy gefnogi niwroamrywiaeth yn y gwaith
Mae Banc Datblygu Cymru yn cefnogi ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth gyda hyfforddiant, sesiynau ymwybyddiaeth ar draws y sefydliad a datblygu Llysgenhadon Niwroamrywiaeth.
Am Banc Datblygu Cymru
Mae Banc Datblygu Cymru (BDC) yn helpu busnesau i gael y cyllid sydd ei angen arnynt i ddechrau, tyfu a llwyddo. Er mwyn cefnogi’r economi yng Nghymru a Gogledd a De-orllewin Lloegr, mae BDC yn cynnig cyllid hyblyg – o £1,000 hyd at £10 miliwn – drwy fenthyciadau a buddsoddiad ecwiti. Eu nod yw ei gwneud yn haws cael gafael ar gyllid fel y gall busnesau, cymunedau a phobl ffynnu.
Gyda thua 290 o gydweithwyr yn gweithio ar draws ystod o rolau a lleoliadau, mae BDC wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol a chefnogol i bawb.
Yr her
Bob blwyddyn, gofynnir i reolwyr BDC pa hyfforddiant fyddai’n eu helpu fwyaf yn eu rolau.
Cafodd niwroamrywiaeth ei amlygu’n gyson, gyda llawer o reolwyr yn cydnabod er bod ymrwymiad cryf i gynhwysiant, nad oedd ganddynt yr hyder a’r wybodaeth arbenigol i ddarparu’r cymorth cywir.
Nododd BDC yr angen am ddull strwythuredig a fyddai nid yn unig yn codi ymwybyddiaeth ond hefyd yn rhoi offer ymarferol i reolwyr a chydweithwyr adnabod cryfderau, deall anghenion amrywiol ac ymgorffori arferion cynhwysol ym mywyd gwaith bob dydd.
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, bu BDC mewn partneriaeth ag AP Cymru, elusen niwroamrywiaeth, a Super Wellness, eu partner llesiant, i gyflwyno rhaglen hyfforddi gynhwysfawr.
Beth wnaeth y sefydliad?
Cymerodd BDC ymagwedd raddol a bwriadol at adeiladu ymwybyddiaeth niwroamrywiaeth ar draws y sefydliad.
Y cam cyntaf oedd darparu hyfforddiant arbenigol i reolwyr llinell. Darparodd y sesiynau hyn archwiliad dwfn i’r saith cyflwr niwrowahanol mwyaf cyffredin a sut y gallant ymddangos yn y gweithle. Datblygodd rheolwyr ddealltwriaeth gryfach o niwrowahaniaethau, dysgon nhw sut i ddarparu cymorth effeithiol a chael dealltwriaeth i ddefnyddio cryfderau unigryw cydweithwyr niwroamrywiol. Roedd hyn yn gam pwysig tuag at greu amgylchedd gwaith mwy cynhwysol.
Yna cyflwynodd BDC sesiwn ymwybyddiaeth niwroamrywiaeth gyffredinol, oedd yn agored i bob cydweithiwr. Roedd y ffocws ar feithrin cyd-ddealltwriaeth, herio camsyniadau ac annog sgyrsiau agored a gonest. Bu nifer yn cymryd rhan, gyda chydweithwyr yn mynd ati’n weithredol i rannu profiadau personol.
Er mwyn ymgorffori gwybodaeth a chefnogaeth yn ddyfnach, hyfforddodd BDC grwpiau penodol, gan gynnwys Pobl a Datblygiad, Gweithwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a’r grŵp Cymorth i Gwsmeriaid Agored i Niwed, i ddod yn Llysgenhadon Niwroamrywiaeth. Cafodd yr hyfforddiant hwn ei ddatblygu a’i gyflwyno gan bobl niwrowahanol, gan sicrhau dilysrwydd a dealltwriaeth sy’n deillio’n uniongyrchol o brofiad bywyd.
Y canlyniadau
Mae’r rhaglen hyfforddi niwroamrywiaeth eisoes wedi cael effaith sylweddol a chadarnhaol ar draws BDC. Un o’r canlyniadau mwyaf pwerus yw ei bod wedi helpu i ddechrau sgyrsiau ynghylch niwroamrywiaeth. Er enghraifft, daeth un cydweithiwr yn ymwybodol o’i nodweddion niwrowahanol ac mae bellach wedi gofyn am ddiagnosis, gan dderbyn cymorth priodol yn y gweithle.
Mae rheolwyr yn adrodd eu bod yn teimlo’n fwy hyderus a rhagweithiol wrth gynnig cymorth, gan helpu cydweithwyr i berfformio ar eu gorau. Mae cyflwyno Llysgenhadon Niwroamrywiaeth hyfforddedig wedi cryfhau rhwydweithiau cymorth mewnol ac yn dangos yn glir ymrwymiad BDC i niwroamrywiaeth yn y gweithle.
Dyfyniad gan bartner hyfforddi:
“Roedd yr ymrwymiad a ddangoswyd gennych gyda’ch gilydd i ddatblygu ymhellach eich dealltwriaeth a’ch derbyniad o’r gymuned niwroamrywiol yn amlwg.” – AP Cymru
Cyngor i gyflogwyr eraill
Dysgodd BDC y gellir gwneud addasiadau yn y gweithle a dylid gwneud hynny, hyd yn oed os nad oes gan rywun ddiagnosis ffurfiol eto. Gall newidiadau syml wneud gwahaniaeth mawr, fel rhannu agendâu ymlaen llaw neu ddarparu crynodebau ysgrifenedig ar ôl cyfarfodydd.
Mae cael mynediad at bartneriaid arbenigol hefyd wedi bod yn hanfodol. Mae gwasanaethau iechyd galwedigaethol, ynghyd ag AP Cymru, wedi darparu cyngor ac arweiniad gwerthfawr, gan atgyfnerthu pwysigrwydd gweithio gyda sefydliadau dibynadwy sy’n gallu cynnig cymorth arbenigol.