Cefnogi gweithwyr sydd wedi colli eu golwg neu rywfaint o’u golwg
Dysgwch bwysigrwydd cefnogi gweithwyr sydd wedi colli golwg a ffyrdd o helpu gweithwyr i deimlo'n hyderus yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu ffynnu
Pwysigrwydd cymorth yn y gweithle
Mae cefnogi gweithwyr sydd wedi colli eu golwg neu rywfaint o’u golwg nid yn unig yn gyfrifoldeb cyfreithiol neu foesegol; mae’n rhan allweddol o greu gweithle teg, cynhwysol a hygyrch. Mae gweithle cynhwysol yn sicrhau bod pob gweithiwr yn gallu cyfrannu, datblygu a theimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.
Trwy roi’r gefnogaeth gywir, gallwch:
- helpu i gael gwared ar rwystrau
- sicrhau cyfranogiad llawn
- dangos ymrwymiad gwirioneddol i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 5th Mawrth 2026