Ebrill 2026

Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW).

Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.

Y mis hwn:

  • Gweminarau am ddim sydd ar ddod
  • Dewch i gwrdd â thîm CIW yn ein clinig rhithwir galw heibio
  • Sut mae Penseiri Pentan yn gofalu am eu llesiant
  • Wythnos Dim Syrthio
  • Dyddiadau ac ymgyrchoedd allweddol sydd ar ddod

Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.

Gweminarau am ddim sydd ar ddod

Arian papur a darnau arian ar fwrdd.

Llesiant Ariannol

Ymunwch â ni ar gyfer Gweminar Llesiant Ariannol diddorol ac addysgiadol, lle byddwn yn archwilio sut y gallwch gefnogi llesiant ariannol yn eich sefydliad.

Bydd ein siaradwyr arbenigol o’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) ac Undeb Credyd Caerdydd yn eich tywys drwy:

  • Beth mae llesiant ariannol yn ei olygu mewn gwirionedd
  • Pam mae’n bwysig ar gyfer eich gweithlu
  • Y camau ymarferol y gallwch eu cymryd
  • Pa gefnogaeth sydd ar gael i’ch helpu chi

Pryd: Dydd Gwener, 13 Mai 2026

Amser: 10:00 – 11:00

Lleoliad: Ar-lein (rhoddir y ddolen ar adeg cofrestru)

Archebwch eich lle nawr!

Dau berson yn ysgwyd llaw yn y gwaith.

Deall a Rheoli Gwrthdaro yn y Gweithle – rhan dau

Bydd y weminar yn cael ei chyflwyno gan Louise Moore, Uwch Gynghorydd Busnes Acas, ac yn archwilio

  • Cyfrifoldebau rheolwyr pan fydd gwrthdaro’n codi
  • Camgymeriadau cyffredin a all waethygu sefyllfaoedd
  • Dulliau arferion da o ddatrys gwrthdaro yn deg ac yn effeithiol
  • Enghreifftiau a mewnwelediadau go iawn i ddod â’r pwnc yn fyw
  • Offer, canllawiau a chefnogaeth gan Acas ar gael i gyflogwyr

Pryd: 18 Mehefin 2026

Amser: 10:00 – 11:00

Lleoliad: Ar-lein (rhoddir y ddolen ar adeg cofrestru)

Archebwch eich lle nawr!

Dewch i gwrdd â thîm Cymru Iach ar Waith yn ein clinig rhithwir galw heibio

Healthy Working Wales logo

Ymunwch â’n clinig rhithwir galw heibio i gwrdd â thîm Cymru Iach ar Waith a chael cyngor ymarferol a fydd yn cefnogi iechyd, llesiant a chynhwysiant yn eich gweithle.

Y manteision i chi

  • Cyflwyniad i’r rhaglen Cymru Iach ar Waith a sut y gallwn eich cefnogi
  • Sesiynau grŵp bach gyda Chynghorwyr Iechyd yn y Gweithle Cymru Iach ar Waith
  • Cyngor ar bynciau iechyd a llesiant sy’n berthnasol i’ch sefydliad
  • Syniadau ymarferol, i’w gweithredu y gallwch chi fynd â nhw gyda chi a’u defnyddio eto

Pwy all gymryd rhan

Agor i gyflogwyr, timau AD, rheolwyr llinell a rhanddeiliaid o sefydliadau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector.

Rhaid i unigolion fod wedi cofrestru ar gyfer cyfrif ar-lein Cymru Iach ar Waith a bod wedi cwblhau ein hofferyn arolwg cyflogwyr.

Pryd: Dydd Mawrth 2 Mehefin 2026

Amser: 12:00-13:30

Lleoliad: Ar-lein

Cofrestrwch ar gyfer y clinig galw heibio


Nodwch mai 30 yw’r nifer uchaf o fynychwr a all ddod i’r clinig galw heibio hwn.

Arbedwch y dyddiad

Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad Cymru Iach ar Waith wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd ar 2 Gorffennaf 2026. Bydd rhagor o fanylion yn dod yn fuan!

Sut mae Penseiri Pentan yn gofalu am eu llesiant

Logo Penseiri Pentan

Yn ogystal â bod wedi ymrwymo i wneud cyfraniad cymdeithasol ac amgylcheddol cynaliadwy i’r amgylchedd adeiledig, mae’r practis hefyd yn cynnig ystod eang o fentrau iechyd a llesiant a chefnogaeth ymarferol i’w tîm er mwyn sicrhau bod cydweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ym mhob cam o’u bywyd.

Mae eu rhaglen llesiant yn cynnwys cymorth ymarferol fel gweithio hyblyg, yswiriant meddygol preifat, y cynllun Beicio i’r Gwaith, hyfforddiant cymorth cyntaf, cyfarfodydd tîm dros frecwast a mynediad at sesiynau ffisiotherapi rhad ac am ddim.

Dywedodd Claire Griffiths, Cyfarwyddwr Cyswllt a Rheolwr y Practis:

“Mae pobl yn gymaint mwy na’u swydd. Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw hi i’n tîm ofalu am eu hiechyd a’u llesiant yn ogystal â’u llwyth gwaith, ac rydyn ni wedi ymrwymo i’w cefnogi i wneud y ddau.”

Darllenwch stori lawn Penseiri Pentan ar ein gwefan ac archwilio straeon llwyddiant eraill.

Os oes gennych chi stori i’w rhannu, dywedwch wrthon ni ac ysbrydoli cyflogwyr eraill ledled Cymru!

Wythnos Dim Syrthio (18-24 Mai 2026)

Mae Wythnos Dim Syrthioyn codi ymwybyddiaeth o syrthiadau o uchder sef prif achos anafiadau angheuol mewn gweithleoedd yn y DU.

Wedi’i threfnu gan y No Falls Foundation, mae’r ymgyrch yn annog cyflogwyr i adolygu asesiadau risg, gwella hyfforddiant a hyrwyddo arferion diogel ar gyfer gweithio ar uchder.

Ewch i wefan Wythnos Dim Syrthio (Saesneg yn unig) am becynnau cymorth, adnoddau a ffyrdd o gymryd rhan am ddim.

Gallwch hefyd ddod o hyd i ganllawiau ar weithio ar uchder ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) (Saesneg yn unig).

Dyddiadau ac ymgyrchoedd allweddol sydd ar ddod

Mai 2026

Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Croen (1 – 31 Mai 2026)

Hyrwyddo ymwybyddiaeth o arwyddion canser y croen a ffyrdd o’i atal.

Dysgwch mwy am Fis Ymwybyddiaeth o Ganser y Croen

Mis Cerdded Cenedlaethol (1 – 31 Mai 2026)

Annog gweithwyr i fynd am dro er mwyn hybu eu hiechyd corfforol a meddyliol.

Dysgwch fwy am Fis Cerdded Cenedlaethol

Diwrnod Hylendid Dwylo’r Byd (5 Mai 2026)

Rhannu pwysigrwydd hylendid dwylo da yn eich gweithle.

Dysgwch fwy am Diwrnod Hylendid Dwylo’r Byd

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (11 – 17 Mai 2026)

Codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl a rhannu adnoddau er mwyn cefnogi gweithwyr.

Dysgwch fwy am Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Gweminar Llesiant Ariannol (13 Mai 2026)

Ymunwch â ni, y Gwasanaeth Arian a Phensiynau ac Undeb Credyd Caerdydd i ddysgu am bwysigrwydd llesiant ariannol.

Cofrestrwch i fynychu

Wythnos Gweithredu Dementia (18 – 24 Mai 2026)

Codi ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth am ddementia.

Dysgywch fwy am Wythnos Gweithredu Dementia

Wythnos Dysgu yn y Gwaith (18 – 24 Mai 2026)

Mynediad at adnoddau am ddim er mwyn cefnogi datblygiad gweithwyr.

Dysgwch fwy am Wythnos Dysgu yn y Gwaith

Wythnos Dim Syrthio (18-24 Mai 2026)

Hyrwyddo diogelwch ar weithio ar uchder er mwyn helpu i atal syrthiadau o uchder yn y gwaith.

Dysgwch fwy am Wythnos Dim Syrthio (Saesneg yn unig)

Mehefin 2026

Clinig rhithwir galw heibio CIW (2 Mehefin 2026)

Wythnos Iechyd Dynion (8 – 14 June 2026)

Diwrnod Aer Glân (18 Mehefin 2026)

Gweminar Deall a Rheoli Gwrthdaro yn y Gweithle – rhan dau (18 Mehefin 2026)

Gallwch ddod o hyd i weddill ymgyrchoedd y flwyddyn ar ein gwefan.