Sut mae Penseiri Pentan yn gofalu am eu llesiant yn ogystal â’u llwyth gwaith
Mae Penseiri Pentan yn cynnig pensaernïaeth sy’n canolbwyntio ar bobl, gyda chynllunio meddylgar a chrefftwaith o safon i wella bywyd a lleoliadau.
Yn ogystal â bod wedi ymrwymo i wneud cyfraniad cymdeithasol ac amgylcheddol cynaliadwy i’r amgylchedd adeiledig, mae’r practis hefyd yn cynnig ystod eang o fentrau iechyd a llesiant a chefnogaeth ymarferol i’w tîm er mwyn sicrhau bod cydweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ym mhob cam o’u bywyd.
Am Penseiri Pentan
Mae Penseiri Pentan, tîm o 22 o bobl sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, wedi bod yn gyfranogwyr balch yn rhaglen Cymru Iach ar Waith ers 7 mlynedd.
Mae’r sefydliad yn gwybod pa mor bwysig yw hi i’w tîm ofalu am eu hiechyd a’u llesiant yn ogystal â’u llwyth gwaith, ac maent wedi ymrwymo i’w cefnogi i wneud y ddau.
Maent yn annog gweithle cefnogol lle mae pobl yn mwynhau dod i’r gwaith ac yn teimlo eu bod yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y swyddfa.
Sut mae Penseiri Pentan yn cefnogi llesiant yn y gweithle
Mae Penseiri Pentan yn cyflwyno ystod eang o fentrau, o sgyrsiau iechyd dan arweiniad arbenigwyr ar ganser y prostad, dementia, canser y fron ac ymwybyddiaeth HIV ar gyfer Diwrnod AIDS y Byd, i sesiynau ar fwyta’n iach, technegau ymdopi â gorbryder a gweithdy penodol ar orbryder.
Maent hefyd wedi cynnig monitro pwysedd gwaed ac wedi llofnodi’r Addewid Menopos yn y Gweithle i sicrhau bod cydweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ym mhob cam o’u bywyd.
Mae eu rhaglen llesiant yn cynnwys cymorth ymarferol fel gweithio hyblyg, yswiriant meddygol preifat, y cynllun Beicio i’r Gwaith, hyfforddiant cymorth cyntaf, cyfarfodydd tîm dros frecwast a mynediad at sesiynau ffisiotherapi rhad ac am ddim.
Y canlyniadau
Mae llesiant y tîm, yn gorfforol ac yn seicolegol, wedi bod yn hanfodol i Benseiri Pentan erioed.
Mae diwrnodau cwrdd i ffwrdd, gan gynnwys canŵio yn Symonds Yat a gweithgareddau awyr agored yn Llyn Llandegfedd, wedi helpu i gryfhau cysylltiad a morâl y tîm.
Un o’u gweithgareddau mwyaf uchelgeisiol oedd Her y Gweithle Iach, lle bu’r tîm gyda’i gilydd yn rhedeg, nofio, beicio, cerdded a heicio dros 2,500km mewn un mis. Derbyniodd yr enillydd a’r rhai a ddaeth yn ail ac yn drydydd dalebau Amazon ac fe groesawodd y tîm cyfan yr her.
Mae gweithgareddau fel hyn yn ffordd wych o gadw pawb yn egnïol ac yn frwdfrydig.
Cyngor i gyflogwyr eraill
Dywedodd Claire Griffiths, Cyfarwyddwr Cyswllt a Rheolwr y Practis:
“Gwnaeth ymuno â’r rhaglen Cymru Iach ar Waith roi fframwaith clir inni adeiladu ar yr ethos hwn ac i gryfhau’r ffordd rydym yn hyrwyddo iechyd a llesiant ar draws y practis.”
Adnoddau i gyflogwyr