Skip to content
Loading Digwyddiadau

Wythnos Natur Cymru

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Natur Cymru i hyrwyddo cysylltiad â natur a darganfod pa mor bwysig yw hynny ar gyfer iechyd a llesiant cyffredinol gweithwyr.

Pwysigrwydd cefnogi Wythnos Natur Cymru yn y gwaith

Wedi’i sefydlu yn 2002, mae Wythnos Natur Cymru yn wythnos flynyddol o ddigwyddiadau ar thema natur a gydlynir gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.

Dros gyfnod o 10 diwrnod, daw pobl a sefydliadau at ei gilydd i werthfawrogi a mwynhau’r natur sydd o’n cwmpas yng Nghymru.

Manteision cysylltu â natur yn y gwaith

Pan fydd gweithleoedd yn annog gweithwyr i gysylltu â natur, gall wneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd y mae gweithwyr yn teimlo.

Gall gweithle sy’n annog amser i gysylltu â natur helpu timau i gadw’n iachach, yn hapusach ac yn teimlo mwy o gymhelliant yn eu swyddi.

Ymhlith y manteision i weithleoedd mae:

  • Mwy o gynhyrchiant – Mae gweithwyr sy’n teimlo eu bod wedi’u cefnogi ac sydd dan lai o straen yn tueddu i weithio’n fwy effeithlon
  • Cadw mwy o weithwyr – Mae gweithwyr yn fwy tebygol o aros gyda chwmni sy’n cefnogi eu llesiant nhw a llesiant byd natur o’u cwmpas
  • Gwell enw i’r cwmni – Mae sefydliadau sy’n hyrwyddo polisïau clir ar natur ac sy’n cefnogi’r amgylchedd yn denu mwy o bobl
  • Morâl tîm cryfach – Mae amgylchedd gwaith iach yn creu cydweithio a pherthnasoedd cadarnhaol

Cymryd rhan yn Wythnos Natur Cymru yn y gwaith

Dyma rai ffyrdd y gallwch gymryd rhan yn Wythnos Natur Cymru:

Cynnal digwyddiad

Cynnal digwyddiad ymwybyddiaeth fel taith gerdded amser cinio, sgwrs, gweithdy, neu weminar.

Mae gan Bioamrywiaeth Cymru restr o ddigwyddiadau Wythnos Natur Cymru.

Hyrwyddo polisïau’r gweithle

Hyrwyddo eich polisïau teithio llesol, gweithleoedd egnïol a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR) i ddangos sut maent yn cefnogi ymgysylltu â natur yn y gweithle a bywyd beunyddiol.

Rhannu ardaloedd natur lleol

Rhannu rhestr o leoedd lleol i ymweld â nhw y gall gweithwyr fynd iddynt yn ystod oriau gwaith ac yn eu hamser rhydd.

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru wybodaeth am leoedd i ymweld â nhw yng Nghymru.

Hyrwyddo gwasanaethau lleol

Hyrwyddo partneriaethau natur lleol a rhannu cyfleoedd gwirfoddoli.

Mae gan Bioamrywiaeth Cymru wybodaeth am bartneriaethau lleol.

Ymuno â’n gweminar am ddim

Mae ein gweminar ‘cysylltu â natur yn y gwaith’ am ddim yn cael ei chynnal ar 8 Gorffennaf 2026.

Cofrestrwch i fynychu

Ffyrdd o gysylltu â natur drwy gydol y flwyddyn

Mae llawer o ffyrdd syml y gall cyflogwyr helpu eu timau i deimlo’n fwy cysylltiedig â natur. Gall hyd yn oed newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i iechyd a llesiant.

Dyma rai pethau y gallech roi cynnig arnyn nhw yn eich gweithle:

  • Annog gweithwyr i dreulio amser ym myd natur
  • Rhannwch lwybrau cerdded lleol
  • Gwnewch y gweithle yn gyfeillgar i natur

Ewch i’n tudalen pwnc ymgysylltu â natur i ddarganfod mwy.

Darganfod mwy

I gael gwybod sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Natur Cymru a chael gafael ar adnoddau i’w defnyddio, ewch i wefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.

I gael gwybodaeth am ymgyrchoedd iechyd a lles trwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch