Wythnos Natur Cymru
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Natur Cymru i hyrwyddo cysylltiad â natur a darganfod pa mor bwysig yw hynny ar gyfer iechyd a llesiant cyffredinol gweithwyr.
Pwysigrwydd cefnogi Wythnos Natur Cymru yn y gwaith
Wedi’i sefydlu yn 2002, mae Wythnos Natur Cymru yn wythnos flynyddol o ddigwyddiadau ar thema natur a gydlynir gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.
Dros gyfnod o 10 diwrnod, daw pobl a sefydliadau at ei gilydd i werthfawrogi a mwynhau’r natur sydd o’n cwmpas yng Nghymru.
Manteision cysylltu â natur yn y gwaith
Pan fydd gweithleoedd yn annog gweithwyr i gysylltu â natur, gall wneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd y mae gweithwyr yn teimlo.
Gall gweithle sy’n annog amser i gysylltu â natur helpu timau i gadw’n iachach, yn hapusach ac yn teimlo mwy o gymhelliant yn eu swyddi.
Ymhlith y manteision i weithleoedd mae:
- Mwy o gynhyrchiant – Mae gweithwyr sy’n teimlo eu bod wedi’u cefnogi ac sydd dan lai o straen yn tueddu i weithio’n fwy effeithlon
- Cadw mwy o weithwyr – Mae gweithwyr yn fwy tebygol o aros gyda chwmni sy’n cefnogi eu llesiant nhw a llesiant byd natur o’u cwmpas
- Gwell enw i’r cwmni – Mae sefydliadau sy’n hyrwyddo polisïau clir ar natur ac sy’n cefnogi’r amgylchedd yn denu mwy o bobl
- Morâl tîm cryfach – Mae amgylchedd gwaith iach yn creu cydweithio a pherthnasoedd cadarnhaol
Cymryd rhan yn Wythnos Natur Cymru yn y gwaith
Dyma rai ffyrdd y gallwch gymryd rhan yn Wythnos Natur Cymru:
Cynnal digwyddiad
Cynnal digwyddiad ymwybyddiaeth fel taith gerdded amser cinio, sgwrs, gweithdy, neu weminar.
Mae gan Bioamrywiaeth Cymru restr o ddigwyddiadau Wythnos Natur Cymru.
Hyrwyddo polisïau’r gweithle
Hyrwyddo eich polisïau teithio llesol, gweithleoedd egnïol a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR) i ddangos sut maent yn cefnogi ymgysylltu â natur yn y gweithle a bywyd beunyddiol.
Rhannu ardaloedd natur lleol
Rhannu rhestr o leoedd lleol i ymweld â nhw y gall gweithwyr fynd iddynt yn ystod oriau gwaith ac yn eu hamser rhydd.
Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru wybodaeth am leoedd i ymweld â nhw yng Nghymru.
Hyrwyddo gwasanaethau lleol
Hyrwyddo partneriaethau natur lleol a rhannu cyfleoedd gwirfoddoli.
Mae gan Bioamrywiaeth Cymru wybodaeth am bartneriaethau lleol.
Ymuno â’n gweminar am ddim
Mae ein gweminar ‘cysylltu â natur yn y gwaith’ am ddim yn cael ei chynnal ar 8 Gorffennaf 2026.
Ffyrdd o gysylltu â natur drwy gydol y flwyddyn
Mae llawer o ffyrdd syml y gall cyflogwyr helpu eu timau i deimlo’n fwy cysylltiedig â natur. Gall hyd yn oed newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i iechyd a llesiant.
Dyma rai pethau y gallech roi cynnig arnyn nhw yn eich gweithle:
- Annog gweithwyr i dreulio amser ym myd natur
- Rhannwch lwybrau cerdded lleol
- Gwnewch y gweithle yn gyfeillgar i natur
Ewch i’n tudalen pwnc ymgysylltu â natur i ddarganfod mwy.
Darganfod mwy
I gael gwybod sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Natur Cymru a chael gafael ar adnoddau i’w defnyddio, ewch i wefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.
I gael gwybodaeth am ymgyrchoedd iechyd a lles trwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.
- Ymgyrch