Gweithdai

Mae Cymru Iach ar Waith yn darparu gweithdai am ddim sydd â’r nod o gefnogi iechyd a llesiant yn y gweithle a chreu gweithleoedd iachach a hapusach ledled Cymru.

Mae’r gweithdai’n rhad ac am ddim ac ar gael i bob sefydliad ledled Cymru.

Rhestrir y gweithdai presennol rydym yn eu darparu isod:

  • Gweithdy Camau Cyntaf

    Ymunwch â Cymru Iach ar Waith am weithdy ymarferol i’ch helpu i gymryd eich camau cyntaf tuag at wella iechyd a llesiant yn y gwaith.

    Yn addas ar gyfer cyflogwyr a rheolwyr sy’n newydd i iechyd a llesiant yn y gweithle, neu ddim yn siŵr ble i ddechrau.

  • Gweithdai Ewch Amdani i Ffynnu

    Ymunwch â Cymru Iach ar Waith (CIW) am weithdy ymarferol i’ch helpu i deimlo’n hyderus ac yn barod i ffynnu yn y gwaith.

    Mae’r gweithdy hwn ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru sydd ar fin dechrau eu swydd gyntaf neu sydd wedi dechrau gweithio’n ddiweddar.