Gweithdai
Mae Cymru Iach ar Waith yn darparu gweithdai am ddim sydd â’r nod o gefnogi iechyd a llesiant yn y gweithle a chreu gweithleoedd iachach a hapusach ledled Cymru.
Mae’r gweithdai’n rhad ac am ddim ac ar gael i bob sefydliad ledled Cymru.
Rhestrir y gweithdai presennol rydym yn eu darparu isod:
-
Gweithdy Camau Cyntaf
Ymunwch â Cymru Iach ar Waith am weithdy ymarferol i’ch helpu i gymryd eich camau cyntaf tuag at wella iechyd a llesiant yn y gwaith.
Yn addas ar gyfer cyflogwyr a rheolwyr sy’n newydd i iechyd a llesiant yn y gweithle, ac sy’n ansicr o ble i ddechrau. -
Gweithdai Ewch Amdani i Ffynnu
Ymunwch â Cymru Iach ar Waith (CIW) am weithdy ymarferol i’ch helpu i deimlo’n hyderus ac yn barod i ffynnu yn y gwaith.
Mae’r gweithdy hwn ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru sydd ar fin dechrau eu swydd gyntaf neu sydd wedi dechrau gweithio’n ddiweddar. -
Gweithdai Niwroamrywiaeth, Meddwl yn wahanol
Gweithdy ddeniadol a llawn mewnwelediad sy’n archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i greu gweithle cefnogol a niwrogynhwysol.
Yn addas ar gyfer dechreuwyr a’r rhai sydd heb fawr o wybodaeth neu brofiad blaenorol o niwroamrywiaeth. -
Hyrwyddwyr Gweithio Iach
Gweithdy ymarferol i ddatblygu Hyrwyddwyr Gweithio Iach sy’n cefnogi gweithleoedd iachach a mwy cynhwysol.
Addas ar gyfer gweithwyr sy’n teimlo’n angerddol am gefnogi llesiant eu cydweithwyr a chreu diwylliannau gweithle cadarnhaol.