Diogelwch seicolegol yn y gweithle
Dysgwch sut i feithrin diogelwch seicolegol yn y gwaith, eu parchu a'u bod yn gallu cyfrannu.
Yr hyn a all effeithio ar ddiogelwch seicolegol yn y gwaith
Efallai na fydd gweithwyr yn codi llais os byddan nhw’n credu y gallai niweidio eu henw da, eu perthnasoedd neu eu gyrfa.
Efallai y byddant yn gwneud y canlynol:
- Osgoi gofyn cwestiynau oherwydd nad ydyn nhw ddim eisiau edrych yn anwybodus
- Cuddio camgymeriadau oherwydd eu bod yn ofni cael eu beio
- Cadw syniadau iddyn nhw eu hunain oherwydd nad ydyn nhw eisiau cael eu hystyried yn rhai lletchwith
- Osgoi herio penderfyniadau oherwydd eu bod yn ofni canlyniadau negyddol
Pan fydd gweithwyr yn aros yn dawel, nid yw hynny’n golygu nad oes ganddo ddim i’w ddweud neu nad ydyw’n poeni dim. Efallai na fydd yn teimlo’n ddiogel neu’n credu y bydd rhywun yn gwrando arno. Gall profiad negyddol ar ôl siarad atal rhywun rhag codi pryderon eto.
Gall pobl deimlo’n llai diogel i godi llais o dan yr amgylchiadau canlynol:
- Bydd arweinwyr yn ymateb yn amddiffynnol i gwestiynau neu heriau
- Ceisir adborth ond ni weithredir arno
- Mae’r prosesau a disgwyliadau adrodd yn aneglur
- Mae pwysau gwaith a hierarchaeth yn creu rhwystrau i godi pryderon
Nid yw pawb yn profi’r un gweithle yn yr un ffordd. Gall awdurdod, diogelwch swydd, anabledd, ethnigrwydd, oedran, rhyw, iaith a phatrwm gwaith i gyd effeithio ar ba mor ddiogel mae rhywun yn teimlo wrth godi llais.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 4th Medi 2026