Deiliaid bathodyn Cyflogwr Blaenllaw
Mae bathodyn Cyflogwr Blaenllaw CIW yn cydnabod cyflogwyr sydd nid yn unig yn cymryd camau i wella eu gweithle eu hunain ond sydd hefyd yn cyfrannu at ddysgu yn y sector ehangach a chymorth gan gymheiriaid.
Mae’r cyflogwyr hyn yn gwella eu gweithle eu hunain wrth helpu eraill i ddysgu.

Admiral
Deiliad bathodyn ers 2026
Mae Admiral yn cyflogi dros 11,000 o gydweithwyr yn y DU a dyma’r unig gwmni FTSE100 sydd â’i bencadlys yng Nghymru. Sefydlwyd Admiral ym 1993 ac mae’n grŵp gwasanaethau ariannol rhyngwladol gyda chwsmeriaid yn Ffrainc, yr Eidal, Sbaen a’r DU.
Mae Admiral yn gosod esiampl ardderchog drwy ei ymrwymiad i lesiant yn y gweithle, rhannu arferion da a chefnogi sefydliadau eraill drwy ein Rhaglen Mentora Cymheiriaid.