Skip to content
Loading Digwyddiadau

Gweithdy ar ddeall profiadau gweithwyr 50 oed a hŷn yng Nghymru

Ymunwch â’r sgwrs a helpwch i lunio gwell cefnogaeth yn y gweithle i weithwyr 50+ mlwydd oed ledled Cymru. Trefnwch eich lle heddiw a rhannwch yr hyn sy’n bwysig i chi.

Os ydych chi’n 50+ mlwydd oed ac yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Mae ein gweithdai ar-lein, cyfeillgar yn rhoi cyfle i chi rannu eich profiadau, trafod yr hyn sy’n eich helpu i gadw’n iach ac yn frwdfrydig yn y gwaith, a thynnu sylw at unrhyw heriau a ddaw i’ch rhan.

Bydd eich adborth yn helpu i ddatblygu canllawiau ac adnoddau ymarferol i weithwyr, a fydd yn cefnogi gweithleoedd iachach, mwy cynhwysol ac ystyriol o oedran ar hyd a lled Cymru.

Pam rydym ni’n cynnal y gweithdai hyn?

Mae gweithwyr 50+ mlwydd oed yn cyfrannu’n werthfawr at weithleoedd drwy eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u profiadau. Fodd bynnag, gall llawer ohonynt hefyd wynebu heriau megis rheoli cyflyrau iechyd, cyfrifoldebau gofalu, addasu i newidiadau yn y gweithle, neu brofi rhwystrau sy’n ymwneud ag oedran. Drwy wrando’n uniongyrchol ar weithwyr, gallwn gael gwell dealltwriaeth o ba gymorth sydd ei angen a sut y gall cyflogwyr helpu pobl i gadw’n iach, parhau i gael eu gwerthfawrogi a pharhau mewn gwaith.

Nod y prosiect

Deall profiadau gweithle ac anghenion iechyd a llesiant gweithwyr 50+ mlwydd oed yng Nghymru a defnyddio’r cipolygon hyn i lunio canllawiau ymarferol i weithwyr.

Pynciau gweithdai

Bydd y gweithdai yn ystyried:

  • Profiadau gweithwyr 50+ mlwydd oed o ddydd i ddydd mewn gweithleoedd yng Nghymru.
  • Heriau iechyd, llesiant a chysylltiedig â gwaith a all effeithio ar gyflogaeth.
  • Cefnogaeth, addasiadau ac arferion gweithle sy’n helpu pobl i deimlo’n hyderus, o werth ac yn rhan.
  • Syniadau i lunio adnoddau a chanllawiau i gyflogwyr ledled Cymru.
  • Safbwyntiau cyfranogwyr mewn man ar-lein cefnogol a chyfrinachol.

Bydd eich cipolygon yn helpu i lywio canllawiau ac adnoddau ymarferol i gyflogwyr, a fydd yn cefnogi gweithleoedd ledled Cymru i ddod yn iachach, yn fwy cynhwysol ac yn fwy ystyriol o oedran.

Pwy ddylai ddod?

Mae’r gweithdai ar-lein hyn i weithwyr 50 mlwydd oed a hŷn sy’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd ac a fyddai’n hoffi rhannu eu profiadau, eu safbwyntiau a’u syniadau.

Nid yw o bwys os ydych yn gweithio oriau llawn amser, rhan amser, yn gyflogedig, yn hunangyflogedig, ar gytundeb sero awr, dros dro neu barhaol, hoffem glywed gennych.

Manylion y gweithdy

  • 21 Hydref
  • 14:00 – 15:30

Gallwch archebu drwy Eventbrite neu drwy anfon e-bost atom: [email protected]. Cofiwch nodi dyddiad y gweithdy yr hoffech ymuno ag ef.

Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly archebwch eich lle yn y sesiwn o’ch dewis i sicrhau y caiff eich llais ei gynnwys.