Gweithdy ar ddeall profiadau gweithwyr 50 oed a hŷn yng Nghymru
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Ymunwch â’r sgwrs a helpwch i lunio gwell cefnogaeth yn y gweithle i weithwyr 50+ mlwydd oed ledled Cymru. Trefnwch eich lle heddiw a rhannwch yr hyn sy’n bwysig i chi.
Os ydych chi’n 50+ mlwydd oed ac yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Mae ein gweithdai ar-lein, cyfeillgar yn rhoi cyfle i chi rannu eich profiadau, trafod yr hyn sy’n eich helpu i gadw’n iach ac yn frwdfrydig yn y gwaith, a thynnu sylw at unrhyw heriau a ddaw i’ch rhan.
Bydd eich adborth yn helpu i ddatblygu canllawiau ac adnoddau ymarferol i weithwyr, a fydd yn cefnogi gweithleoedd iachach, mwy cynhwysol ac ystyriol o oedran ar hyd a lled Cymru.
Pam rydym ni’n cynnal y gweithdai hyn?
Mae gweithwyr 50+ mlwydd oed yn cyfrannu’n werthfawr at weithleoedd drwy eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u profiadau. Fodd bynnag, gall llawer ohonynt hefyd wynebu heriau megis rheoli cyflyrau iechyd, cyfrifoldebau gofalu, addasu i newidiadau yn y gweithle, neu brofi rhwystrau sy’n ymwneud ag oedran. Drwy wrando’n uniongyrchol ar weithwyr, gallwn gael gwell dealltwriaeth o ba gymorth sydd ei angen a sut y gall cyflogwyr helpu pobl i gadw’n iach, parhau i gael eu gwerthfawrogi a pharhau mewn gwaith.
Nod y prosiect
Deall profiadau gweithle ac anghenion iechyd a llesiant gweithwyr 50+ mlwydd oed yng Nghymru a defnyddio’r cipolygon hyn i lunio canllawiau ymarferol i weithwyr.
Pynciau gweithdai
Bydd y gweithdai yn ystyried:
- Profiadau gweithwyr 50+ mlwydd oed o ddydd i ddydd mewn gweithleoedd yng Nghymru.
- Heriau iechyd, llesiant a chysylltiedig â gwaith a all effeithio ar gyflogaeth.
- Cefnogaeth, addasiadau ac arferion gweithle sy’n helpu pobl i deimlo’n hyderus, o werth ac yn rhan.
- Syniadau i lunio adnoddau a chanllawiau i gyflogwyr ledled Cymru.
- Safbwyntiau cyfranogwyr mewn man ar-lein cefnogol a chyfrinachol.
Bydd eich cipolygon yn helpu i lywio canllawiau ac adnoddau ymarferol i gyflogwyr, a fydd yn cefnogi gweithleoedd ledled Cymru i ddod yn iachach, yn fwy cynhwysol ac yn fwy ystyriol o oedran.
Pwy ddylai ddod?
Mae’r gweithdai ar-lein hyn i weithwyr 50 mlwydd oed a hŷn sy’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd ac a fyddai’n hoffi rhannu eu profiadau, eu safbwyntiau a’u syniadau.
Nid yw o bwys os ydych yn gweithio oriau llawn amser, rhan amser, yn gyflogedig, yn hunangyflogedig, ar gytundeb sero awr, dros dro neu barhaol, hoffem glywed gennych.
Manylion y gweithdy
- 21 Hydref
- 14:00 – 15:30
Gallwch archebu drwy Eventbrite neu drwy anfon e-bost atom: [email protected]. Cofiwch nodi dyddiad y gweithdy yr hoffech ymuno ag ef.
Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly archebwch eich lle yn y sesiwn o’ch dewis i sicrhau y caiff eich llais ei gynnwys.