Iechyd a llesiant dynion yn y gweithle
Dysgwch sut y gall cefnogi iechyd dynion fod o fudd i weithleoedd, a darganfyddwch ffyrdd y gall cyflogwyr gefnogi iechyd a lles dynion yn y gweithle.
Cyflawni cyfrifoldebau cyfreithiol
Mae cefnogi iechyd dynion yn rhan bwysig o greu gweithle iach, teg a chynhwysol.
Mae gan gyflogwyr gyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch i amddiffyn iechyd, diogelwch a llesiant eu gweithwyr.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (Saesneg yn unig) yn amddiffyn gweithwyr rhag gwahaniaethu ar sail nodweddion gwarchodedig fel rhyw ac, mewn rhai achosion, anabledd. Gall rhai cyflyrau iechyd fodloni’r diffiniad cyfreithiol o anabledd, gan ddibynnu ar eu heffaith a’u hyd.
Gall hyn gynnwys cyflyrau fel:
- Canser
- Cyflyrau iechyd meddwl hirdymor
Efallai y bydd gan gyflogwyr ddyletswydd i ystyried addasiadau rhesymol i helpu gweithwyr i aros yn iach, i barhau i fod yn gynhyrchiol ac i barhau i ymgysylltu yn y gwaith.
Mae canllawiau pellach ar gael gan Acas (Saesneg yn unig).
Dysgwch ragor am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25th Tachwedd 2026