Iechyd a llesiant dynion yn y gweithle
Dysgwch sut y gall cefnogi iechyd dynion fod o fudd i weithleoedd, a darganfyddwch ffyrdd y gall cyflogwyr gefnogi iechyd a lles dynion yn y gweithle.
Pwysigrwydd cefnogi iechyd dynion yn y gwaith
Mae’r gweithle yn gyfle pwysig i hyrwyddo iechyd a llesiant dynion, yn enwedig gan fod dynion yn aml yn llai tebygol na menywod o gael mynediad at rai gwasanaethau gofal iechyd ataliol. Gall mentrau yn y gweithle helpu i godi ymwybyddiaeth, annog sgyrsiau am iechyd, a gwella mynediad at wybodaeth a chymorth.
Gall darparu gwybodaeth am iechyd dynion yn y gweithle helpu dynion i ddeall sut y gallant ofalu am eu hiechyd, adnabod arwyddion cynnar o broblemau iechyd a gwybod ble i fynd i gael cymorth. Gall hefyd annog cael sgyrsiau agored am iechyd, helpu i leihau stigma a’i gwneud hi’n haws i ddynion geisio cymorth pan fydd ei angen arnynt.
Manteision i weithwyr
Gall cefnogi iechyd dynion yn y gwaith helpu i:
- Gwella llesiant ac ansawdd bywyd
- Annog pobl i geisio cymorth yn gynnar a gofalu am eu hiechyd
- Cynyddu hyder i drafod pryderon iechyd ac anghenion cymorth
- Hyrwyddo cynhwysiant, cydraddoldeb a diwylliant cefnogol yn y gweithle
- Cefnogi datblygiad a dilyniant gyrfa
Manteision i gyflogwyr
Gall cefnogi iechyd dynion yn y gwaith helpu i:
- Cynyddu ymgysylltiad, cymhelliant a chynhyrchiant gweithwyr
- Cefnogi recriwtio, cadw a datblygu talent
- Lleihau absenoldeb salwch a phresenoliaeth
- Cefnogi perfformiad busnes drwy weithlu iach
- Cyflawni cyfrifoldebau cyfreithiol dros gydraddoldeb, llesiant, ac iechyd a diogelwch
- Datblygu diwylliant gweithle cadarnhaol ac enw da i gyflogwyr
I’w nodi:
Nid yw’r dudalen bwnc hon wedi’i bwriadu i fod yn ganllaw cyflawn i iechyd dynion. Mae’n tynnu sylw at feysydd allweddol lle gall cyflogwyr gefnogi gweithwyr a chreu gweithleoedd iachach.
Gall rhywfaint o’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y pwnc fod yn berthnasol i weithwyr trawsryweddol ac anneuaidd hefyd.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25th Tachwedd 2026