Amdanom ni

Mae Cymru Iach ar Waith (CIW) yn rhaglen genedlaethol rhad ac am ddim sy’n ceisio gwella iechyd ac atal afiechyd yn y gwaith trwy gefnogi cyflogwyr yng Nghymru. Ariennir CIW gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n ei darparu.  

Mae CIW yn cefnogi cyflogwyr i wneud y canlynol:

  • Creu amgylcheddau ac arferion gweithio iach a diogel
  • Cymryd camau i wella iechyd a llesiant eu staff a hybu ymddygiad iach
  • Atal a rheoli absenoldeb salwch a chymorth i ddychwelyd i’r gwaith yn effeithiol er mwyn atal pobl rhag bod yn absennol o’r gwaith oherwydd iechyd gwael
  • Cefnogi’r rhai â chyflyrau cronig i aros yn y gwaith

Sut rydym yn gwneud hyn 

Rydym yn darparu arlwy digidol i gyflogwyr sy’n cynnwys ymagwedd hunan-gyfeiriedig at iechyd a lles yn y gweithle, gan gynnwys: 

Rhagor o wybodaeth 

E-bostiwch ni: [email protected]

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi. 

Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr misol CIW i dderbyn diweddariadau a dolenni i adnoddau ac ymgyrchoedd newydd. 

 Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol: 

LinkedIn: @Healthy Working Wales / Cymru Iach Ar Waith

Facebook: @cymruiacharwaith

Instagram: @cymruiacharwaith

X: @cymruiach_CIAW

Gwrandewch ar ein podlediadau ar YouTube

.