Awst 2025
Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW)
Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.
Y mis hwn:
- Gweminar teithio llesol yn y gweithle – 17 Medi 2025
- Mentora cymheiriaid Gweithdai darganfod (Medi)
- Gweithdy cyd-gynhyrchu presgripsiynau natur
- Mewnwelediadau diweddaraf: Cost Economaidd Iechyd Gwael yng Nghymru
- Dweud eich dweud ar ailgylchu yn y gweithle
- Stori llwyddiant: Meithrinfa Ddydd Fun Foundations
- Dyddiadau ymgyrchoedd mis Medi
Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.
Gweminar Teithio Llesol yn y Gweithle – 17 Medi 2025

Ymunwch â ni am weminar diddorol a llawn gwybodaeth, lle byddwn yn archwilio sut y gall gweithleoedd ledled Cymru hyrwyddo ffyrdd iachach a mwy cynaliadwy o deithio.
Bydd Dr Tom Porter, ein siaradwr arbenigol, yn ein harwain drwy’r canlynol:
- Beth yw teithio llesol a pham ei fod yn bwysig yng Nghymru
- Y manteision eang o hyrwyddo teithio llesol i’ch gweithlu
- Ffyrdd hawdd o gael eich staff i gymryd rhan a’u cymell
- Sut i ddechrau neu adeiladu ar gynnydd a wnaed eisoes
Dyddiad: Dydd Mercher, 17 Medi 2025
Amser: 10:00 – 11:00
Lleoliad: Ar-lein (rhoddir y ddolen ar adeg cofrestru)
Mentora Cymheiriaid: Gweithdai Darganfod (Medi)

Rydym yn gwahodd cyflogwyr i helpu i lunio datblygiad ein Rhaglen Mentora Cymheiriaid newydd sy’n anelu at gryfhau gallu, hyder a chysylltiad cyflogwyr wrth hyrwyddo iechyd a llesiant yn y gweithle ac y bwriedir ei lansio ddiwedd 2025.
Mae’r gweithdai hyn i gyflogwyr yn rhan hanfodol o’r cyfnod darganfod. Maent yn sicrhau bod y rhaglen yn cael ei chynllunio ar y cyd â’r rhai a fydd yn elwa arni ac yn ei chyflwyno.
Bydd pedwar gweithdy yn cael eu cynnal drwy gydol mis Medi i gasglu mewnwelediadau, profiadau a syniadau cyflogwyr. Bydd eich mewnbwn yn chwarae rhan allweddol wrth ddylunio rhaglen sy’n diwallu anghenion gweithleoedd ledled Cymru.
- Tri gweithdy ar-lein
- Un gweithdy wyneb yn wyneb yng Ngogledd Cymru
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gofrestru eich diddordeb, anfonwch e-bost at [email protected]
Gweithdy cyd-gynhyrchu presgripsiynau natur

Mae Cymru Iach ar Waith a’r RSPB yn gwahodd cyflogwyr ledled Cymru i gymryd rhan mewn gweithdy cyd-gynhyrchu ar ddatblygu presgripsiynau natur — ffyrdd syml, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, o gefnogi llesiant gweithwyr trwy dreulio amser ym myd natur.
Os hoffech chi gymryd rhan, anfonwch e-bost at [email protected].
Gallwch hefyd archwilio ein tudalen bwnc newydd ar ymgysylltu â natur, sy’n rhannu syniadau ymarferol ar gyfer creu gweithle sy’n fwy cysylltiedig â natur — sy’n hybu llesiant gweithwyr a chynhyrchiant busnes.
Mewnwelediadau diweddaraf: Cost Economaidd Iechyd Gwael yng Nghymru

Mae Newyddion Busnes Cymru wedi cynnwys erthygl yn ddiweddar gan Dr. Helen Howson, Cyfarwyddwr Comisiwn Bevan, sy’n archwilio’r heriau economaidd a chymdeithasol brys a achosir gan iechyd gwael yng Nghymru. Mae’n tynnu sylw at rôl bwysig atal a llesiant yn y gweithle wrth adeiladu dyfodol iachach a mwy cynaliadwy.
Mae’r gweithle yn lleoliad pwerus ar gyfer ymyrraeth iechyd ataliol. Fel rhaglen, mae Cymru Iach ar Waith yn cefnogi cyflogwyr i gymryd camau gweithredu ar iechyd a llesiant.
Gallwn eich cefnogi i wneud y canlynol:
- Ysgogi newid diwylliannol yn y ffordd y mae iechyd yn cael ei ymdrin yn y gweithle
- Cyfrannu at baratoi gweithlu Cymru ar gyfer yr heriau demograffig ac iechyd sydd i ddod
- Meithrin gwydnwch staff, cyfraddau cadw staff a’u perfformiad drwy fuddsoddiad mwy doeth a thosturiol mewn iechyd
Dysgwch ragor am gymryd camau gweithredu ar iechyd a llesiant.
Dweud eich dweud ar ailgylchu yn y gweithle

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ddiweddariadau arfaethedig i Reoliadau Ailgylchu yn y Gweithle.
Byddai un newid allweddol yn ei gwneud yn ofynnol i weithleoedd gasglu eitemau trydanol gwastraff bach ar wahân o fis Ebrill 2026.
Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 22 Hydref 2025 — rhannwch eich barn a helpwch i lunio’r rheolau.
Ymgynghoriad: Diwygiadau i Gasglu Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu.
Oes gennych chi enghraifft o arfer da o ran iechyd a llesiant yn y gweithle? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!
Gall rhannu eich llwyddiant ysbrydoli eraill i weithredu, annog cydweithrediad a hybu perfformiad ar draws gweithleoedd.
Cysylltwch â ni i rannu eich stori: [email protected].

Y mis hwn rydym yn rhannu stori lwyddiant am fwydo ar y fron yn y gweithle gan Fun Foundations (Saesneg yn unig) sydd â dwy feithrinfa ym Mro Morgannwg:
Fel rhan o’u dull cynhwysol pan fydd gweithwyr yn dychwelyd o absenoldeb mamolaeth, maent yn sicrhau eu bod yn cefnogi bwydo ar y fron yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys trafod anghenion unigol, cynnal asesiadau risg a darparu mannau addas i weithwyr gael llaeth o’r fron a’i storio.
Drwy weithio gyda CIW, maent wedi gwella eu hymrwymiad i iechyd a llesiant gweithwyr, sy’n cynnwys cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar ymgyrchoedd iechyd fel Wythnos Ymwybyddiaeth Bwydo ar y Fron.
Dyddiadau ymgyrchoedd mis Medi
Dyma rai ymgyrchoedd allweddol y mae’n bosibl y bydd gweithleoedd eisiau cymryd rhan ynddynt ym mis Medi eleni:
Wythnos Nabod Eich Rhifau! (8-14 Medi)
Nabod Eich Rhifau! Mae’r Wythnos yn digwydd bob mis Medi a hon yw’r ymgyrch fwyaf yn y DU sy’n ymroddedig i brofi pwysedd gwaed ac ymwybyddiaeth.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ymgyrch Wythnos Nabod Eich Rhifau.
Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol (24 Medi)
Mae Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yn gyfle i fynd ar drywydd camau bach tuag at iechyd parhaol i chi a’ch busnes.
Mae gweithle mwy egnïol yn helpu gweithwyr i aros yn iach, yn hapus ac yn frwdfrydig a gall gynnig llawer o fanteision i gyflogwyr hefyd.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ymgyrch Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol.
Bore Coffi Macmillan (26 Medi)
Bore Coffi Macmillan yw digwyddiad codi arian mwyaf Macmillan i gefnogi pobl sy’n byw gyda chanser.
Mae Macmillan yn ei gwneud hi’n hawdd cynnal bore coffi yn y gwaith – gallwch gofrestru i gynnal Bore Coffi pryd bynnag y bydd yn gyfleus i chi a’ch gweithle.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ymgyrch Bore Coffi Macmillan.
Gellir gweld gwybodaeth ac adnoddau am ystod o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd a llesiant ar ein gwefan.