Ionawr 2026
Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW)
Blwyddyn Newydd Dda!
Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.
Y mis hwn:
- Adnoddau newydd CIW wedi’u cynllunio i wella iechyd a llesiant yn y gweithle
- Gweminarau sydd ar ddod
- Sut gall cyflogwyr gefnogi gweithwyr ifanc yn y gweithle?
- Straeon llwyddiant
- Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith
- Dyddiadau allweddol: Ymgyrchoedd a digwyddiadau
Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.
Adnoddau newydd Cymru Iach ar Waith (CIW) wedi’u cynllunio i wella iechyd a llesiant yn y gweithle

Yn ddiweddar, lansiodd CIW rai adnoddau cyffrous newydd ac am ddim, wedi’u cynllunio i wella iechyd a llesiant yn y gweithle:
Offeryn Arolwg Cyflogwyr CIW
Mae’n galluogi cyflogwyr i asesu eu dull presennol o ymdrin ag iechyd a llesiant yn y gweithle a chael adborth, awgrymiadau ar gyfer y camau nesaf a chyngor clir i gryfhau eu strategaeth llesiant yn y gweithle.
Dysgwch am yr Arolwg Cyflogwyr CIW.
Cymorth Cynghorydd yn y Gweithle
Mae’n galluogi cyflogwyr i gael mynediad at sesiynau cymorth rhithwir un-i-un gan Gynghorwyr CIW yn y Gweithle er mwyn iddynt gael syniadau, offer a chynlluniau syml y gallant eu rhoi ar waith ar unwaith yn eu gweithleoedd.
Dysgwch am yr Gymorth Cynghorydd yn y Gweithle.
Mae rhagor o wybodaeth am ein rhaglen a’n holl adnoddau ar gael ar wefan CIW.
Ydych chi’n dechrau eich taith llesiant yn 2026? Rhowch gynnig ar ein Pecyn Cychwyn Llesiant yn y Gweithle – cam cyntaf gwych.
Gweminarau sydd ar ddod
Wythnos Llesiant Gofal Cymdeithasol Cymru (19 – 23 Ionawr)
Rydym yn gyffrous i fod yn rhan o Wythnos Llesiant Gofal Cymdeithasol Cymru! Mae rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio i helpu pobl yn y sector i ddeall mwy am lesiant yn y gwaith.
- Dydd Iau 21 Ionawr – Deall llesiant yn eich gweithle
- Dydd Gwener 22 Ionawr – Cefnogi pobl i reoli cyflyrau iechyd a dychwelyd neu aros yn y gwaith
Ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru i archebu eich lle.
Gweminar deall a rheoli gwrthdaro yn y gweithle
Ymunwch â Chymru Iach ar Waith ac ACAS am un o’r ddwy weminar ddiddorol ac addysgiadol y byddan nhw’n eu cynnal a fydd yn trafod ‘Deall a rheoli gwrthdaro yn y gweithle’. Bydd y sesiynau hyn yn archwilio sut y gall gweithleoedd ledled Cymru leihau’r risg o wrthdaro a meithrin perthnasoedd gwaith iachach.
Bydd y weminar hon yn trafod beth yw gwrthdaro yn y gweithle a pham y gall waethygu. Bydd hefyd yn amlygu camau clir ac ymarferol i greu diwylliant mwy cynhwysol yn y gweithle, cefnogi staff a rhoi dulliau effeithiol ar waith er mwyn datrys gwrthdaro.
- Dydd Iau 12 Mawrth 2026
- 10:00 – 11:00
- Microsoft Teams
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu.
Sut gall cyflogwyr gefnogi gweithwyr ifanc yn y gweithle?

Yn Nigwyddiad Lansio Gwasanaeth Newydd CIW ar 12 Tachwedd 2025, trafododd 78 o gyfranogwyr o sefydliadau ledled de a chanolbarth Cymru sut y gall cyflogwyr gefnogi pobl ifanc 16–24 oed yn well. Diolch i bawb a gymerodd ran ac a gyfrannodd at yr adroddiad hwn.
Siaradodd y grŵp am yr heriau y mae gweithwyr ifanc yn eu hwynebu a lluniodd chwe mater allweddol a naw argymhelliad i gyflogwyr.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar ein gwefan.
Gallwch hefyd ddarllen ein tudalen we i ddarganfod sut y gall gweithwyr ifanc (16-24) fod o fudd i’r gweithle, dysgu am yr heriau maen nhw’n eu hwynebu ac archwilio ffyrdd y gall cyflogwyr eu cefnogi.
Straeon llwyddiant

A oes gennych chi enghraifft o iechyd a llesiant yn y gweithle ar waith?
Cymerwch olwg ar straeon llwyddiant eraill ar ein gwefan, dywedwch eich stori wrthym ac ysbrydolwch gyflogwyr eraill ledled Cymru!
Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith
Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn rhoi cymorth a hyfforddiant i helpu pobl a busnesau i wella llesiant yn y gweithle.
Mae’r gwasanaeth yn cynnwys:
- Cymorth i helpu pobl gyflogedig a hunangyflogedig i reoli eu cyflwr iechyd a naill ai dychwelyd neu aros yn y gwaith
- Hyfforddiant a chymorth i helpu busnesau i wella llesiant yn y gweithle
Mae tri chwmni sy’n darparu’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith ledled Cymru.
Cysylltwch â’ch gwasanaeth lleol i gael gwybod rhagor am yr hyn y gallant ei gynnig i chi a’ch gweithwyr.
Cadwch lygad allan am ein gweminar Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith sydd ar ddod yn fuan!
Dyddiadau allweddol: Ymgyrchoedd a digwyddiadau
Diwrnod Canser y Byd (4 Chwefror)
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Diwrnod Canser y Byd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o symptomau canser a hyrwyddo canfod canser yn gynnar trwy wasanaethau sgrinio.
Cynhadledd y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) (5 Chwefror)
Rydym yn edrych ymlaen at fod yng Nghynhadledd CIPD yng Nghymru yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd!
Bydd ein Cynghorwyr yn y Gweithle ar ein stondin drwy gydol y digwyddiad yn rhannu gwybodaeth am y cymorth am ddim sydd ar gael i fusnesau gan Cymru Iach ar Waith – gwnewch yn siŵr eich bod yn dod i ddweud helo!
Mae tocynnau ar gael o hyd (Saesneg yn unig).
Diwrnod Amser i Siarad (6 Chwefror)
Mae Diwrnod Amser i Siarad yn gyfle i siarad am iechyd meddwl yn y gweithle. Dysgwch sut i gymryd rhan, annog trafodaethau agored a lleihau stigma.
Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (9 Chwefror – 15 Chwefror)
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau i godi ymwybyddiaeth o brentisiaethau a thynnu sylw at werth prentisiaid yn y gweithle.
Mawrth
Diwrnod Cenedlaethol Dim Ysmygu (11 Mawrth)
Diwrnod Cwsg y Byd (13 Mawrth)
Wythnos Maeth a Hydradu (16 Mawrth – 22 Mawrth)
Diwrnod Iechyd y Geg y Byd (20 Mawrth)
Gallwch ddod o hyd i weddill ymgyrchoedd y flwyddyn ar ein gwefan.