Mai 2025
Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW)
Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm CIW. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.
Y mis hwn:
- Gweminar Rheoli Absenoldeb Salwch i Gyflogwyr
- Arloeswr anweithgarwch economaidd yng Nghymru
- Sgrinio – Addysg a Hyfforddiant Cymunedol
- Dyddiadau ymgyrch ar gyfer mis Mehefin
Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.

Ymunwch â Gweminar CIW Am Ddim: Rheoli Absenoldeb Salwch (MSA) ar gyfer Cyflogwyr – Yn ôl oherwydd Galw Mawr!
Dydd Mercher 11 Mehefin 2025
Amser: 10:30 – 11:30
Platfform: Microsoft Teams
Yn dilyn diddordeb mawr a’r adborth cadarnhaol a gafwyd yn dilyn ein sesiwn flaenorol, mae Cymru Iach ar Waith yn falch o gynnig ail gyfle i ymuno â’n gweminar am ddim: Gweminar Rheoli Absenoldeb Salwch (MSA) i Gyflogwyr Wrth i anghenion gweithwyr esblygu a chostau sefydliadol barhau i godi, mae bod â strategaethau effeithiol ar gyfer rheoli absenoldeb oherwydd salwch yn bwysicach nag erioed.
Bydd y sesiwn ymarferol hon a gyflwynir gan Gynghorwyr CIW, yn rhoi cipolwg hanfodol i’ch helpu i wella llesiant yn y gweithle a lleihau absenoldeb.
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu:
- Tueddiadau o ran absenoldeb oherwydd salwch yng Nghymru a’r DU
- Sut mae cael gweithwyr i ymwneud â dulliau ataliol mewn perthynas ag iechyd
- Mewnwelediadau gan Cartrefi Melin (Hedyn) ar reoli absenoldeb salwch yn effeithiol
- Sut mae cael gafael ar adnoddau gan gynnwys pecyn e-ddysgu am ddim ar reoli absenoldeb oherwydd salwch.
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i gael mynediad at ganllawiau arbenigol ac offer ymarferol i gefnogi eich sefydliad—yn rhad ac am ddim.
Gallwch gymryd rhan am ddim.
Siaradwyr:
- Nikki Davies, Cynghorydd Iechyd yn y Gweithle
- Deanna Hughes, Cynghorydd Iechyd yn y Gweithle
Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â: [email protected].
Cofrestrwch erbyn dydd Mercher 4 Mehefin.

Arloeswr anweithgarwch economaidd yng Nghymru
Cyhoeddodd Jack Sargeant AS, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar 22 Ebrill 2025 y bydd £10 miliwn o gyllid Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio i gyflawni tri phrosiect peilot arloesol ym Mlaenau Gwent, Sir Ddinbych a Chastell-nedd Port Talbot yn 2025-26.
Bydd y cynlluniau peilot arloesol yn cefnogi dulliau lleol o leihau anweithgarwch economaidd i bobl sy’n anabl a/neu sydd â chyflyrau iechyd neu sy’n gofalu am eraill. Bydd ffocws penodol ar bobl sydd allan o waith ac nad ydynt ar hyn o bryd yn ymwneud â chyflogaeth, cymorth sgiliau, addysg na hyfforddiant.
Y nod yw gwneud y mwyaf o’r gefnogaeth bresennol sy’n seiliedig ar leoedd er mwyn lleihau anweithgarwch economaidd drwy ddod â gwasanaethau ynghyd a darparu taith ddi-dor i bobl leol sy’n hawdd ei llywio.
Bydd y cynlluniau’n profi dulliau arloesol newydd o nodi ac ymgysylltu ag unigolion sy’n economaidd anweithgar. Bydd hyn yn golygu gweithio gydag ystod eang o bartneriaid gan gynnwys Byrddau Iechyd Lleol, Meddygon Teulu, Canolfan Byd Gwaith, gofal cymdeithasol, gwasanaethau iechyd cymunedol a’r Trydydd Sector i lunio cynnig gwaith, iechyd a sgiliau lleol cryf a chydgysylltiedig i fynd i’r afael â bylchau ac anghenion lleol.
Am ragor o wybodaeth am gynigion Arloeswyr lleol cysylltwch â:
Blaenau Gwent – [email protected]
Ddinbych – [email protected] / [email protected]
Castell-nedd Port Talbot – [email protected]

Sgrinio – Addysg a Hyfforddiant Cymunedol
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig sesiynau ar-lein am ddim i hybu ymwybyddiaeth o raglenni sgrinio’r GIG yng Nghymru. Mae’r sesiynau wedi’u teilwra i’ch helpu i ddeall y manteision y gall y rhain eu cynnig i’ch gweithle a’r gymuned ehangach.
Archebwch eich lle heddiw er mwyn helpu i wella iechyd eich tîm ac annog llesiant!
Dyddiadau ymgyrch ar gyfer mis Mehefin
Wythnos Diabetes (9-15 Mehefin)
Mae Wythnos Diabetes, dan arweiniad Diabetes UK, yn gyfle allweddol i sefydliadau godi ymwybyddiaeth am ddiabetes a chefnogi llesiant gweithwyr. Fel cyflogwr, gallwch chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo dealltwriaeth, cynnig adnoddau ac annog arferion iach yn y gweithle.
Archwiliwch sut y gall eich sefydliad gymryd rhan yn Wythnos Diabetes – o gynnal sesiynau addysgol i rannu adnoddau sy’n cefnogi staff sy’n byw gyda diabetes neu mewn perygl o ddatblygu diabetes.
Wythnos Iechyd Dynion (9-16 Mehefin)
Mae’r Wythnos Iechyd Dynion hon, a drefnir gan Fforwm Iechyd Dynion, yn canolbwyntio ar yr angen am Strategaeth Iechyd Dynion genedlaethol a’r camau sydd eu hangen i’w chyflawni. Gall cyflogwyr ddefnyddio’r wythnos hon i roi sylw i iechyd dynion yn y gweithle, annog sgyrsiau agored a rhannu adnoddau.
Darganfyddwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Iechyd Dynion.
Diwrnod Aer Glân (19 Mehefin)
Dysgwch am bwysigrwydd mynd i’r afael â llygredd aer yn y gweithle, ffyrdd o gefnogi Diwrnod Aer Glân Cenedlaethol a sut mae creu amgylchedd glanach ac iachach i weithwyr.
Gall cyflogwyr gymryd camau syml ac effeithiol i leihau llygredd aer ac ymgysylltu staff mewn mentrau aer glân.
Dyma rai ffyrdd o gynnwys eich gweithle:
- Cynnal digwyddiad
- Rhannu gwybodaeth ac adnoddau
- Dathlu llwyddiant
Dysgwch ragor am sut y gall eich gweithle gefnogi Diwrnod Aer Glân.
Gellir gweld gwybodaeth ac adnoddau am ystod o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd a llesiant ar ein gwefan.