
Wythnos Iechyd Dynion
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Darganfyddwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Iechyd Dynion i ddechrau sgyrsiau ac annog gweithwyr i gymryd camau rhagweithiol tuag at iechyd gwell.
Gwerth cefnogi Wythnos Iechyd Dynion
Mae Wythnos Iechyd Dynion yn codi ymwybyddiaeth o’r heriau iechyd y mae dynion yn eu hwynebu ac yn eu hannog i weithredu.
Mae’r ymgyrch yn sicrhau bod gan bob bachgen a dyn fynediad at y wybodaeth, y gwasanaethau a’r driniaeth sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau iachach, hirach a mwy boddhaus.
Gall cefnogi’r ymgyrch ddod â sawl mantais i weithleoedd:
- Gweithlu iachach a mwy ymgysylltiedig
- Gwell cynhyrchiant gweithwyr
- Llai o absenoldeb
- Diwylliant gweithle cadarnhaol sy’n blaenoriaethu lles
Cymrwch ran yn Wythnos Iechyd Dynion
I gymryd rhan yn yr ymgyrch, gall cyflogwyr:
- Godi ymwybyddiaeth trwy rannu negeseuon iechyd allweddol trwy eich mewnrwyd, e-byst, posteri, a chyfathrebiadau eraill yn y gweithle
- Trefnu mentrau sy’n cefnogi iechyd dynion, megis diwrnodau profion iechyd, heriau ffitrwydd, neu weithdai lles a sgyrsiau byrion ar bynciau penodol
- Annog sgyrsiau agored am iechyd trwy greu amgylchedd cefnogol a chynhwysol
Creu diwylliant gweithle cadarnhaol ar gyfer iechyd dynion
Mae cymryd rhan yn Wythnos Iechyd Dynion yn gam cyntaf gwych, ond gall newidiadau parhaol i ddiwylliant y gweithle wneud mwy o wahaniaeth trwy gydol y flwyddyn.
Fel cyflogwr, gallech:
- Gynnig trefniadau gweithio hyblyg i annog cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
- Hyrwyddo profion iechyd a sgrinio rheolaidd
- Cyflwyno mentrau ffitrwydd a lles, megis teithiau cerdded amser cinio, cynlluniau beicio i’r gwaith neu opsiynau bwyta’n iach
- Sicrhau bod gan weithwyr fynediad at gymorth ac adnoddau iechyd meddwl, gan gynnwys y Gwasanaeth Cymorth Yn y Gwaith
- Annog uwch arweinwyr i drafod pynciau iechyd yn agored i leihau stigma
Darganfod mwy
Dysgwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan ym Wythnos Iechyd Dynion a chael mynediad at adnoddau ar wefan Fforwm Iechyd Dynion (Saesneg yn unig).
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.
- Ymgyrch