Mawrth 2025
Croeso i cylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW)
Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith, newyddion ynghylch iechyd a llesiant yn y gweithle yn ogystal â dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar y ffordd.
Y mis hwn:
- Mae gwefan newydd sbon Cymru Iach ar Waith yn dod yn fuan
- Ymunwch â’n Sesiwn Ford Gron Unigryw: Trafod llesiant yn y gweithle gyda rhanddeiliaid allweddol
- Mewnwelediadau Gwaith a Llesiant: Canfyddiadau allweddol o Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2024
- Cymru Iach ar Waith ar Daith
- Dyddiadau Ymwybyddiaeth Mis Ebrill
Mae croeso i chi rannu ein e-fwletin gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.
Cylchlythyr
Cyfnod Newydd i Gymru Iach ar Waith
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi lansiad ein gwefan ym mis Ebrill. Wedi’i gynllunio gyda chyflogwyr mewn golwg, bydd y wefan newydd hon yn cynnig adnoddau mwy hygyrch ac arweiniad arbenigol ar draws ystod eang o feysydd pwnc i helpu busnesau i wella iechyd a llesiant yn y gweithle.
Cadwch olwg am y dyddiad lansio ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Rydym hefyd yn casglu mewnwelediadau i wella ein hymdrechion marchnata.
Gwahoddir cyflogwyr ledled Cymru i wneud arolwg byr i rannu sut rydych chi’n cyrchu gwybodaeth am iechyd a llesiant yn y gweithle, yr heriau rydych chi’n eu hwynebu a sut gallwn ni gefnogi’ch busnes yn well.
Diolch yn fawr iawn i bawb sydd eisoes wedi rhoi o’u hamser i gwblhau’r arolwg hwn.
Mae eich mewnwelediadau yn llunio dyfodol ICC.

Ymunwch â sesiwn bord gron ar iechyd a llesiant gweithwyr
Ydych chi’n uwch arweinydd sy’n gyfrifol am iechyd a llesiant gweithwyr?
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i gydweithio â Chomisiwn Bevan a CBI Cymru i archwilio heriau ac atebion iechyd yn y gweithle, ar gyfer busnesau a sefydliadau o bob maint
Dyddiad:
Dydd Llun, 7 Ebrill 2025
Amser: 9.00am – 12.30pm
Lleoliad: Iechyd Cyhoeddus Cymru, Capital Quarter 2, Caerdydd
Bydd y digwyddiad rhyngweithiol hwn yn cynnwys mewnwelediadau ymarferol, profiadau a rennir a strategaethau arloesol i helpu i greu amgylcheddau gwaith iachach.
Sicrhewch eich lle heddiw!

Gwaith a llesiant: Canfyddiadau allweddol o arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2024 (02 Ebrill)
Mae’r Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth diweddaraf yn datgelu mewnwelediadau hollbwysig i dueddiadau’r gweithle, sy’n cynnwys:
- Cam-drin yn y gweithle – pa mor gyffredin ydyw?
- Cyfranogiad gweithwyr—a yw lefelau ymgysylltu yn newid?
- Dyfodol undebau llafur—beth sy’n newid?
- Gwaith ystyrlon—pa ffactorau sydd bwysicaf?
Ymunwch â’r digwyddiad lansio swyddogol, dan gadeiryddiaeth Kate Bell (Cyngres yr Undebau Llafur).
Gallwch gymryd rhan wyneb yn wyneb neu drwy ffrwd fyw.
Cofrestrwch erbyn Mawrth 25 i fod yn bresennol wyneb yn wyneb
Cofrestrwch erbyn 31 Mawrth i gael mynediad ar-lein

CIW ar Daith
Rydym yn edrych ymlaen at fynd i Gynhadledd Iechyd Galwedigaethol Cymdeithas Meddygaeth Alwedigaethol i Nyrsys yng Nghymru ddydd Iau 24 Ebrill.
Mae’r pynciau eleni yn cynnwys:
- Niwroamrywiaeth yn y gweithle
- Deallusrwydd artiffisial ac iechyd galwedigaethol
Dyddiadau ymwybyddiaeth allweddol
Diwrnod Iechyd y Byd (7 Ebrill)
Mae Diwrnod Iechyd y Byd yn tynnu sylw at faterion iechyd ac yn hyrwyddo gweithredu er llesiant gwell. Gall cyflogwyr ddefnyddio’r diwrnod i godi ymwybyddiaeth a chefnogi mentrau llesiant yn y gweithle, er enghraifft:
- Her y Camau – cael gweithwyr i symud gyda chystadleuaeth hwyliog
- Sgyrsiau arbenigol – gwahodd siaradwr gwadd i drafod iechyd a llesiant
- Dewisiadau iach – cynnig opsiynau bwyd a byrbryd iach a mynediad hawdd at ddŵr
- Cynghorion iechyd – rhannu gwybodaeth a chyngor trwy sianeli mewnol
I gael gwybod sut y gall eich gweithle gymryd rhan ewch i wefan Sefydliad Iechyd y Byd (Saesneg yn unig).
Diwrnod y Byd dros Ddiogelwch ac Iechyd yn y Gwaith (28 Ebrill)
Hyrwyddo diwylliant gweithle diogelwch yn gyntaf:
- Rhannu adnoddau
- Darparu awgrymiadau diogelwch ac arferion gorau
- Sesiynau hyfforddi
- Dysgu gweithwyr i adnabod peryglon ac atal damweiniau
- Adnabod hyrwyddwyr diogelwch
Dathlu gweithwyr sy’n dangos ymrwymiad i ddiogelwch yn y gweithle Dysgwch fwy am Ddiwrnod y Byd dros Ddiogelwch ac Iechyd yn y Gwaith ar wefan y Cenhedloedd Unedig (Saesneg yn unig).
Mis Ymwybyddiaeth Straen (Ebrill)
Mae deall straen a’i effaith yn allweddol i gynnal iechyd meddwl a chorfforol da. Gall gweithleoedd gefnogi gweithwyr trwy gynnig offer rheoli straen syml.
Dyma rai syniadau ar sut mae cymryd rhan:
- Cynnal gweithdai rheoli straen – cynnal sesiynau ar ymwybyddiaeth ofalgar, technegau ymlacio a strategaethau ymdopi
- Hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith – annog gweithio hyblyg, cymryd seibiannau rheolaidd a rheoli llwyth gwaith i leihau straen
- Creu amgylchedd cefnogol – cynnig grwpiau cymorth cymheiriaid neu raglenni cymorth i weithwyr i helpu
gweithwyr i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi - Cynnig hyfforddiant ac arweiniad – darparu hyfforddiant i reolwyr a gweithwyr ar adnabod a rheoli straen yn effeithiol
I ddarganfod mwy, ewch i ymgyrch Mis Ymwybyddiaeth Straen (Saesneg yn unig).
Mis Ymwybyddiaeth Canser y Ceilliau (Ebrill)
Torri’r stigma a chefnogi siarad am iechyd dynion:
Codi Ymwybyddiaeth
- Rhannu symptomau a chanllawiau hunan-wirio (Saesneg yn unig)
- Annog sgyrsiau agored
- Anogwch weithwyr i siarad am iechyd dynion a sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi
- Lledaenwch y gair cyfathrebu gweithle
- Rhannu gwybodaeth trwy sianeli cyfathrebu mewnol
Dysgwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan ym Mis Ymwybyddiaeth Canser y Ceilliau a chael gafael ar adnoddau ar wefan Macmillan (Saesneg yn unig).