Medi 2025
Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW)
Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.
Y mis hwn:
- Helpu i lunio’r Rhaglen Mentora Cymheiriaid – mae eich llais yn bwysig
- Ymunwch â Ni: Lansio gwasanaethau rhad ac am ddim newydd Cymru Iach ar Waith ym mis Tachwedd
- Ysbrydoli eraill a chael eich ysbrydoli: Rhannwch eich stori llwyddiant am lesiant
- Effaith wythnos waith fyrrach
- Dyddiadau ymgyrchu ar gyfer mis Hydref
Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.
Helpu i lunio’r Rhaglen Mentora Cymheiriaid – mae eich llais yn bwysig

Rydym yn gyffrous i fod yn gweithio gyda RCS ar ddatblygu Rhaglen Mentora Cymheiriaid newydd i gefnogi busnesau ledled Cymru i adeiladu diwylliannau gweithle iachach.
Os ydych chi eisiau dylanwadu ar ddatblygiad y rhaglen Fentora newydd mae amser o hyd:
- Dydd Llyn 29 Medi, 10 – 11:30 (ar-lein)
Gall eich mewnwelediadau a’ch syniadau wneud gwahaniaeth! Ewch i un o’r gweithdai drwy gysylltu ag RCS yn [email protected].
Yn ogystal, rhannwch y manylion gyda chydweithwyr os ydych chi’n meddwl y gallai fod o ddiddordeb iddyn nhw.
Diolch am eich cefnogaeth barhaus i hyrwyddo gweithleoedd iachach ledled Cymru.
Ymunwch â Ni: Lansio gwasanaethau rhad ac am ddim newydd Cymru Iach ar Waith

Rydym yn lansio pennod newydd gyffrous yn Cymru Iach ar Waith – ac mae gwahoddiad i chi fod yn rhan ohoni!
Ymunwch â ni i ddysgu am ein gwasanaethau ac adnoddau newydd am ddim, sydd wedi’u cynllunio i helpu busnesau ledled Cymru i wella iechyd, llesiant a chynhyrchiant yn y gweithle.
- Dydd Mercher 12 Tachwedd 2025
- 09:30 – 12:45 (cofrestru, rhwydweithio a lluniaeth o 09:00)
- Iechyd Cyhoeddus Cymru, Capital Quarter 2, CF10 4BZ
Noder: mae lleoedd yn gyfyngedig. Er mwyn caniatáu mynediad teg, gofynnwn yn garedig nad yw mwy na dau gynrychiolydd o bob sefydliad yn cofrestru i ddechrau. Unwaith y bydd y capasiti wedi’i gyrraedd, bydd rhestr wrth gefn yn cael ei hagor ar gyfer ceisiadau ychwanegol.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu a gweithio gyda’n gilydd i greu gweithleoedd iachach a hapusach ledled Cymru.
Gweithdy cyd-gynhyrchu presgripsiynau natur

Mae Cymru Iach ar Waith a’r RSPB yn gwahodd cyflogwyr ledled Cymru i gymryd rhan mewn gweithdy cyd-gynhyrchu ar ddatblygu presgripsiynau natur — ffyrdd syml, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, o gefnogi llesiant gweithwyr trwy dreulio amser ym myd natur.
Os hoffech chi gymryd rhan, anfonwch e-bost at [email protected].
Gallwch hefyd archwilio ein tudalen bwnc newydd ar ymgysylltu â natur, sy’n rhannu syniadau ymarferol ar gyfer creu gweithle sy’n fwy cysylltiedig â natur — sy’n hybu llesiant gweithwyr a chynhyrchiant busnes.
Ysbrydoli eraill a chael eich ysbrydoli: Rhannwch eich stori llwyddiant am lesiant

A oes gennych chi enghraifft o iechyd a llesiant yn y gweithle ar waith? Dywedwch eich stori wrthym ac ysbrydolwch gyflogwyr eraill ledled Cymru!
Gall rhannu eich llwyddiant ysbrydoli eraill i weithredu, annog cydweithrediad a hybu perfformiad ar draws gweithleoedd.
Cymerwch olwg ar straeon llwyddiant ar ein gwefan.
Cysylltwch â ni i rannu eich stori: [email protected]
Effaith wythnos waith fyrrach

Ym mis Ebrill 2024, ymunodd y Sefydliad Iechyd Meddwl â channoedd o sefydliadau a oedd yn treialu wythnos waith fyrrach. Dros gyfnod y cynllun peilot blwyddyn o hyd, gostyngwyd oriau llawn amser o 35 i 32 yr wythnos (gyda’r oriau rhan-amser yn cael eu haddasu’n gymesur) heb unrhyw golled cyflog.
Mae’r canlyniadau wedi bod yn galonogol: Nododd 69% o’r staff a holwyd fod ganddynt lai o straen sy’n gysylltiedig â gwaith, ac yn gyffredinol, mae’r ymchwil yn dangos y gall wythnos 32 awr fod â manteision sylweddol i iechyd meddwl (dolen Saesneg yn unig).
Darganfyddwch ragor am fanteision gweithio hyblyg a sut y gall gefnogi llesiant yn eich sefydliad.
Dyddiadau ymgyrchoedd mis Hydref
Dyma rai ymgyrchoedd allweddol y mae’n bosibl y bydd gweithleoedd eisiau cymryd rhan ynddynt ym mis Hydref eleni:
Mis Ymwybyddiaeth y Menopos (Hydref)
Mae Mis Ymwybyddiaeth y Menopos yn tynnu sylw at effaith y menopos ar weithwyr a’r gweithle.
Mae cefnogi eich gweithwyr drwy’r menopos yn eu helpu i ffynnu yn y gwaith a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Mae’r manteision allweddol yn cynnwys:
• Mwy o lesiant a hyder i weithwyr sy’n profi’r menopos
• Llai o absenoldebau a gwell cadw staff
• Ymgysylltiad a chynhyrchiant uwch ymhlith gweithwyr
Dysgwch ragor ar dudalen ymgyrchu Mis Ymwybyddiaeth y Menopos.
Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron (Hydref)
Darganfyddwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser y fron a thynnu sylw at bwysigrwydd hunanwiriadau a sgrinio.
Darganfyddwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan ym Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron.
Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10 Hydref)
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd i annog sgyrsiau agored am iechyd meddwl yn y gwaith i gefnogi gweithwyr a chwalu stigma.
Ewch i’n tudalen ymgyrch Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd i ddarganfod sut i gymryd rhan.
Gellir gweld gwybodaeth ac adnoddau am ystod o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd a llesiant ar ein gwefan.