Tachwedd 2025

Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW)

Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.

Y mis hwn:

  • Cynhyrchion newydd cyffrous a siaradwyr gwadd yn creu argraff yn ystod digwyddiad lansio Cymru Iach ar Waith (CIW)
  • Gweminar “ADHD yn y Gwaith” (21 Tachwedd)
  • Cyfweliad Oliver Williams o CIW ar Radio Wales
  • Stori llwyddiant: Sut y datblygodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys weithle mwy gwydn
  • Cronfa diogelu rhag tywydd garw ar gyfer busnesau twristiaeth canolig eu maint yng Nghymru
  • Dyddiadau ymgyrchoedd mis Rhagfyr

Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.

Cynhyrchion newydd cyffrous a siaradwyr gwadd yn creu argraff yn ystod digwyddiad lansio (CIW)

Professor Jum McManus, Oliver Williams, Sarah Murphy MS

Cyflwynwyd tri chynnyrch CIW cyffrous newydd ac am ddim, pob un wedi’i gynllunio i wella iechyd a llesiant yn y gweithle, yn ein digwyddiad lansio gwasanaethau am ddim newydd ar 12 Tachwedd yn Rhif 2 Capital Quarter yng Nghaerdydd.

Roedd dros 70 o’n cyflogwyr a’n sefydliadau partner yn bresennol am ddiwrnod a oedd yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr gwadd (gan gynnwys y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant), gweithdy ar sut y gall sefydliadau yng Nghymru gefnogi pobl ifanc yn well yn y gweithle, ynghyd â stondinau gan arddangoswyr a oedd yn cynnwys CIW, Coleg Brenhinol y Llawfeddygon (RCS), Hapus, Case UK, Mind ym Mhowys, Busnes Cymru a’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).

Yr adnoddau CIW newydd a gyflwynwyd gan ein tîm oedd:

  • Offeryn Arolwg Cyflogwyr CIW – Mae’n galluogi cyflogwyr i asesu eu dull presennol o ymdrin ag iechyd a llesiant yn y gweithle a chael adborth, awgrymiadau ar gyfer y camau nesaf a chyngor clir i gryfhau eu strategaeth llesiant yn y gweithle.
  • Cymorth Cynghorydd yn y Gweithle – Mae’n galluogi cyflogwyr i gael mynediad at sesiynau cymorth rhithwir un-i-un gan Gynghorwyr yn y Gweithle CIW er mwyn iddynt gael syniadau, offer a chynlluniau syml y gallant eu rhoi ar waith ar unwaith yn eu gweithleoedd.
  • Rhaglen Mentora Cymheiriaid – Mae’n helpu cyflogwyr ledled Cymru i gysylltu a rhannu profiadau o’r byd go iawn, gwybodaeth ymarferol a dulliau sydd wedi’u profi o ymdrin ag iechyd a llesiant yn y gweithle.

Dywedodd Oliver Williams, ein Harweinydd Ymgynghorol:

“Mae Cymru Iach ar Waith wedi ymrwymo i ddarparu camau ymarferol a chyraeddadwy i gyflogwyr yng Nghymru y gallant eu cymryd i wella a diogelu iechyd a llesiant gweithlu Cymru. Bydd y cynhyrchion newydd hyn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau a fydd eu hangen ar gyflogwyr i wneud hyn, gan hybu iechyd a chynhyrchiant eu busnesau.”

Yn ei haraith ar weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer llesiant yn y gweithle, dywedodd Sarah Murphy AS, Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

“Mae Cymru Iach ar Waith yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i gyflogwyr, ac yn cynnig canllawiau ac offer am ddim, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i wella iechyd a llesiant yn y gweithle. Nid gwasanaeth sy’n ‘braf i’w gael’ mo hwn – mae’n rheidrwydd economaidd”

Ymhlith y siaradwyr gwadd eraill yn y digwyddiad roedd yr Athro Jim McManus, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Llesiant Iechyd Cyhoeddus Cymru, a siaradodd am bwysigrwydd creu gweithleoedd iach a chefnogol. Rhannodd Paul Billington o Admiral stori llwyddiant a oedd yn cynnwys enghraifft bywyd go iawn o offer iechyd yn y gweithle yn gwneud gwahaniaeth yng Nghymru. Siaradodd Emily Van De Venter, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, am ymchwil ddiweddar y Tîm Iechyd Meddwl a Llesiant ar iechyd meddwl pobl rhwng 16 a 24 oed.

Dilynwyd hyn gan weithdy a oedd yn canolbwyntio ar ddatrysiadau a syniadau ymarferol ar sut y gall sefydliadau yng Nghymru gefnogi pobl ifanc (16–24 oed) yn well yn y gweithle. Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol, a gwnaed llawer o gysylltiadau gwerthfawr.

Daeth Oliver i’r casgliad canlynol:

“Rydym yn annog cyflogwyr ledled Cymru i fanteisio ar yr adnoddau iechyd a llesiant cyffrous, newydd a rhad ac am ddim hyn yn y gweithle. Mae’r Adolygiad diweddar Keep Britain Working yn dangos bod cyflogwyr yn colli, ar gyfartaledd, £120 y dydd o ran elw oherwydd absenoldebau salwch, ond maent mewn sefyllfa unigryw i helpu i atal iechyd gwael. Felly dyma’r amser perffaith i weithredu ac ymgysylltu â Chymru Iach ar Waith ar gyfer eich anghenion llesiant yn y gweithle.”

I gyd-fynd â’r digwyddiad, cyhoeddwyd datganiad i’r wasg ar lansiad y cynnyrch newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd.

Diolch yn fawr i’r rhai ohonoch chi oedd yn gallu dod i’r digwyddiad. Mae rhagor o wybodaeth am ein rhaglen, y cynhyrchion newydd, a’n holl adnoddau, ar gael ar wefan CIW.

Gweminar yn trafod Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) yn y Gwaith (21 Tachwedd 2025, ar-lein)

Gweminar ADHD yn y Gwaith

Ymunwch â ni am sesiwn ddiddorol ac addysgiadol ar ”ADHD yn y Gwaith”, sy’n archwilio sut y gall busnesau ledled Cymru hyrwyddo niwroamrywiaeth a chreu gweithleoedd mwy cynhwysol.

Bydd ein siaradwr arbenigol, Aimee Smith, Nyrs asesu ADHD arbenigol a seicotherapydd ymgynghorol, yn trafod:

  • Beth yw niwroamrywiaeth ac ADHD a pham maen nhw’n bwysig yn y gwaith
  • Sut i adnabod a defnyddio cryfderau talent niwroamrywiol
  • Manteision adeiladu gweithlu cynhwysol

Bydd Rhian Gleed, Cynghorydd Iechyd yn y Gweithle ar gyfer Cymru Iach ar Waith, yn ymuno ag Aimee, a fydd yn rhannu enghreifftiau ymarferol o sut y gall cyflogwyr gefnogi gweithwyr niwroamrywiol.

  • Dyddiad: Dydd Gwener, 21 Tachwedd 2025
  • Amser: 10:00 – 11:00
  • Lleoliad: Ar-lein (rhoddir y ddolen ar adeg cofrestru)

Sicrhewch eich lle nawr!

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu.

Cyfweliad Oliver Williams o CIW ar Radio Wales

Oliver Williams

Cafodd Oliver Williams, Arweinydd Ymgynghorol CIW, ei gyfweld gan Radio Wales ar 6 Tachwedd fel rhan o drafodaeth am bobl sydd i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch.

Roedd Oliver yn ymateb i Adolygiad Syr Charlie Mayfield, sef Keep Britain Working, a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Pwysleisiodd ymrwymiad CIW i atal absenoldebau oherwydd salwch, cefnogi pobl i aros yn y gwaith, a helpu cyflogwyr yng Nghymru i adeiladu gweithleoedd iachach a mwy gwydn.

Ewch i wefan CIW i ddarllen rhagor am yr ymateb i Adolygiad Keep Britain Working.

Mae modd clywed cyfweliad Oliver yma ar 45:48 (Saesneg yn y unig).

Stori llwyddiant: Sut y datblygodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys weithle mwy gwydn

Llun agos o dîm gyda'u dwylo wedi'u pentyrru ar ei gilydd dros ddesg yn y gwaith

Rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2025, cynhaliodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) ddull MAC (Ymwybyddiaeth Ofalgar, ACT a Thosturi) i gefnogi staff. Roedd yn cynnig cymorth un-i-un, sesiynau grŵp a galw heibio.

Cefnogodd y rhaglen yr heriau a wynebir gan staff o ran iechyd meddwl, diffygiad, trawma, y menopos, a phroblemau yn y gwaith. O’r staff a ddefnyddiodd yr ymyriad, atgyfeiriodd 73% ohonynt eu hunain iddo.

Roedd y canlyniadau’n cynnwys gwell hunan-dosturi a llai o drallod, a arweiniodd yn y pen draw at weithle mwy gwydn.

A oes gennych chi enghraifft o iechyd a llesiant yn y gweithle ar waith?

Cymerwch olwg ar straeon llwyddiant eraill ar ein gwefan, dywedwch eich stori wrthym ac ysbrydolwch gyflogwyr eraill ledled Cymru!

Cronfa diogelu rhag tywydd garw ar gyfer busnesau twristiaeth canolig eu maint yng Nghymru

Mae Blwyddyn Cronfa Diogelu Rhag Tywydd Garw Croeso Busnes Cymru ar agor ar hyn o bryd i fusnesau twristiaeth canolig eu maint (50-250 o weithwyr) yng Nghymru. Ni fydd rhagor o geisiadau’n cael eu derbyn o 5pm ar 01 Rhagfyr 2025 .

Mae grantiau rhwng £5,000 a £20,000 ar gael i gefnogi gosod mesurau a chyfarpar diogelu rhag tywydd garw a all gynnig profiadau gwell i ymwelwyr yn ystod tywydd gwlyb, megis:

  • Canopïau, pergolas, neu seddi dan do
  • Llwybrau cerdded dan do neu lochesi ymwelwyr
  • Llwybrau sglodion coed neu raean
  • Lloriau caled ar gyfer meysydd parcio
  • Mannau chwarae dan do

Gall busnesau gyflwyno un cais fesul cwmni (uchafswm o ddau os ydych chi’n berchen ar fwy nag un cwmni neu fusnes).

Gwybodaeth ychwanegol a manylion y cais.

Dyddiadau ymgyrchoedd mis Rhagfyr

Dyma rai ymgyrchoedd allweddol y mae’n bosibl y bydd gweithleoedd eisiau cymryd rhan ynddynt ym mis Rhagfyr eleni:

Diwrnod AIDS y Byd (01 Rhagfyr)

Mae Diwrnod AIDS y Byd yn digwydd ar 01 Rhagfyr bob blwyddyn. Nod y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth o HIV ac AIDS a chefnogi’r rhai y mae’n effeithio arnynt.

Darganfyddwch sut y gall eich gweithle gefnogi Diwrnod AIDS y Byd drwy ymweld â thudalen ymgyrchoedd CIW.

Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl ag Anableddau (03 Rhagfyr)

Mae Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl ag Anableddau yn gyfle perffaith i gyflogwyr godi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle.

I ddarganfod sut y gall eich gweithle gymryd rhan ynddo, ewch i dudalen ymgyrchoedd CIW.

Gellir gweld gwybodaeth ac adnoddau am ystod o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd a llesiant ar ein gwefan.