Cymorth gan Gynghorwr Gweithle
Mynnwch gyngor arbenigol un-i-un yn rhad ac am ddim i wella iechyd a lles yn eich gweithle.
Beth yw’r Cymorth gan Gynghorwr Gweithle?
Mae’r Cymorth gan Gynghorwr Gweithle yn rhoi cyfle i gyflogwyr yng Nghymru gael sgwrs un-i-un gyda chynghorwr Cymru Iach ar Waith. Mae’r sesiynau ar-lein hyn yn digwydd ar Microsoft Teams a gallant bara hyd at ddwy awr.
Gallwch drefnu cymorth un-i-un i’ch helpu i wella iechyd, diogelwch a lles yn eich gweithle, a bydd eich sgwrs yn seiliedig ar eich ymatebion i’r Arolwg i Gyflogwyr.
Trawsgrifiad – Cymorth gan Gynghorwr Gweithle Cymru Iach ar Waith
1
01:00:00,960 –> 01:00:03,960
Mae creu busnes iach yn werth chweil,
2
01:00:03,960 –> 01:00:06,079
ond gall ddod â heriau.
3
01:00:06,079 –> 01:00:08,679
Mae Cymru Iach ar Waith yma i helpu,
4
01:00:08,679 –> 01:00:11,760
gyda’n Cymorth Cynghorydd Gweithle.
5
01:00:11,760 –> 01:00:14,079
Mae ein Cynghorwyr Gweithle cyfeillgar
6
01:00:14,079 –> 01:00:19,800
yn cynnig cymorth rhithwir arbenigol un-i-un am ddim.
7
01:00:19,800 –> 01:00:24,320
Rydym yn canolbwyntio ar y pynciau iechyd a lles sydd bwysicaf i’ch tîm,
8
01:00:24,320 –> 01:00:26,960
gan wrando’n ofalus ar eich anghenion
9
01:00:26,960 –> 01:00:30,280
a’ch helpu i ddod o hyd i atebion ymarferol,
10
01:00:30,280 –> 01:00:34,960
pa cam bynnag o’r daith iechyd a lles y mae eich busnes arno.
11
01:00:34,960 –> 01:00:39,480
Byddwch yn cael syniadau, offer a chynlluniau syml
12
01:00:39,480 –> 01:00:42,719
y gallwch eu rhoi ar waith ar unwaith.
13
01:00:42,719 –> 01:00:46,159
O adeiladu diwylliant cadarnhaol, cynhwysol,
14
01:00:46,159 –> 01:00:49,880
i hyrwyddo ymddygiadau sy’n hybu iechyd a lles staff,
15
01:00:49,880 –> 01:00:52,000
rydym yn rhoi cyfarwyddyd i chi
16
01:00:52,000 –> 01:00:55,800
i wneud gwelliannau go iawn, parhaol.
17
01:00:55,800 –> 01:00:58,400
Ac os oes angen mwy o gymorth arnoch,
18
01:00:58,400 –> 01:01:01,559
byddwn yn dangos i chi ble i ddod o hyd iddo –
19
01:01:01,559 –> 01:01:04,719
ar-lein neu yn eich cymuned.
20
01:01:04,719 –> 01:01:08,119
Cymorth Cynghorydd Gweithle Cymru Iach ar Waith –
21
01:01:08,119 –> 01:01:13,119
yn helpu busnesau yng Nghymru i greu gweithleoedd iachach a hapusach.
22
01:01:13,119 –> 01:01:16,559
Trefnwch eich sesiwn un-i-un heddiw!
Cofiwch
Mae’r Cymorth gan Gynghorwyr Gweithle yn rhad ac am ddim, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac yn cael ei redeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae wedi’i gynllunio i gynnig cyngor a chefnogaeth – nid yw’n rhan o gwrs hyfforddi ffurfiol neu ddyfarniad.
Cofiwch na fyddwn yn gallu gwneud sylwadau ar achosion penodol neu achosion lle gellir adnabod weithwyr.
Pwy all gael y cymorth hwn?
Gallwch gael y cymorth hwn os ydych:
- Yn gyflogwr, yn rheolwr neu’n arweinydd lles yng Nghymru
- Yn awyddus i wella cymorth iechyd a lles yn y gweithle
- Rydych wedi cwblhau’r Arolwg i Gyflogwyr
Sut i drefnu sesiwn
Dilynwch y camau hyn i drefnu sesiwn:
- Cofrestrwch neu mewngofnodwch i wefan Cymru Iach ar Waith
- Cwblhewch yr Arolwg i Gyflogwyr deg munud o hyd
- Llenwch y ffurflen gyswllt i ofyn am sesiwn gyda Chynghorydd Gweithle
Bydd cynghorydd yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith i ni dderbyn eich cais er mwyn trefnu eich sesiwn gyntaf.
Beth sy’n digwydd yn y sesiwn?
Cyn y sesiwn gyntaf, bydd eich cynghorydd yn adolygu eich atebion i’r Arolwg i Gyflogwyr.
Yn eich sesiynau, bydd y cynghorydd yn:
- Siarad â chi am gamau ymarferol o ran cefnogi lles staff
- Rhannu syniadau i wella iechyd a lles yn eich gweithle
- Cynnig arweiniad yn seiliedig ar eich anghenion a’ch blaenoriaethau
Fel arfer byddwch yn cael hyd at dair sesiwn gyda’ch Cynghorydd, gyda phob sesiwn yn para hyd at ddwy awr, yn dibynnu ar eich anghenion.
Ar ôl eich sesiwn:
- Byddwch yn cael adroddiad cryno gyda nodau clir a’r camau nesaf i’w cymryd
- Efallai y bydd y tîm Cymru Iach ar Waith yn cysylltu eto i weld sut mae pethau’n mynd
- Byddwch yn gallu cysylltu â’ch Cynghorydd Gweithle trwy e-bost am gymorth ychwanegol os oes angen
Cwrdd â’r tîm
Dewch i gyfarfod â thîm ymroddedig Cymorth gan Gynghorwr Gweithle – grŵp o Ymgynghorwyr Iechyd yn y Gweithle sy’n angerddol o ran cefnogi cyflogwyr ledled Cymru i greu gweithleoedd iachach a hapusach.
Pauline Mould – Ymgynghorydd Iechyd yn y Gweithle
Mae Pauline wedi cael gyrfa amrywiol sy’n cynnwys gweithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat mewn swydd gynghorol sy’n cwmpasu iechyd, diogelwch a lles y cyhoedd. Mae ganddi 13 mlynedd o brofiad ym maes iechyd yn y gweithle yn gweithio fel Ymgynghorydd CIW ar Iechyd yn y Gweithle.
Mae ei gwaith yn ymwneud â pharatoi rhaglenni rheoli iechyd a lles yn y gweithle, recriwtio a chysylltu â busnesau gyda rhaglenni CIW. Mae hi hefyd yn cysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol eraill sy’n cynnwys Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) a sefydliadau busnes eraill.
Mae Pauline yn angerddol dros iechyd merched ac mae’n aelod o rwydwaith Iechyd Menywod Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ar hyn o bryd mae Pauline yn ysgrifennu a chyflwyno cynnwys e-ddysgu a gweminar fel rhan o ddarpariaeth trawsnewidiol CIW i wneud yn siŵr bod gofynion busnes yn cael eu hymgorffori o fewn y rhaglen.
Deanna Hughes– Ymgynghorydd Iechyd yn y Gweithle
Mae Deanna yn Ymgynghorydd Iechyd yn y Gweithle gyda Cymru Iach ar Waith, gan weithio gyda sefydliadau ledled gogledd Cymru i hyrwyddo gweithleoedd iachach a lleihau salwch sy’n gysylltiedig â gwaith. Ers 2019, mae Deanna wedi chwarae rhan allweddol yng ngwaith CIW, gan ddangos arbenigedd o ran cyfathrebu’n ddigidol, gan gynnwys paratoi cylchlythyr misol CIW a rheoli’r ddarpariaeth ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
Mae gan Deanna brofiad helaeth ym maes iechyd a lles gweithwyr ac mae’n eiriolwr dros Nature Connectedness. Mae Deanna yn angerddol dros annog ffyrdd y gallwn ni cysylltu’n well â natur er mwyn gwella iechyd meddwl a lles.
Nikki Davies – Ymgynghorydd Iechyd yn y Gweithle
Mae Nikki yn Ymgynghorydd Iechyd yn y Gweithle gyda Cymru Iach ar Waith, sy’n cefnogi sefydliadau ledled de-orllewin Cymru i adeiladu gweithleoedd iachach, mwy cynhwysol a lleihau salwch sy’n gysylltiedig â gwaith. Ers ymuno â’r rhaglen yn 2013, mae Nikki wedi chwarae rhan allweddol drwy ymgysylltu â chyflogwyr bach a chanolig, gan roi cyngor sydd wedi’i dargedu, hyfforddiant ac amrywiaeth eang o weminarau.
Gyda phrofiad eang ym maes iechyd a lles gweithwyr, mae Nikki yn eiriolwr angerddol dros arferion cynhwysol yn y gweithle, yn enwedig wrth gefnogi bwydo ar y fron a rhieni sy’n dymuno dychwelyd yn ôl i’r gwaith. Mae hi yr un mor ymrwymedig i fynd i’r afael â meysydd eraill ym maes iechyd a hyrwyddo mynediad a sicrhau cyfleoedd cyfartal i bawb.
Rhian Gleed – Ymgynghorydd Iechyd yn y Gweithle
Mae Rhian yn ymgynghorydd iechyd yn y gweithle o fewn tîm Cymru Iach ar Waith, sy’n cefnogi sefydliadau ledled de-orllewin Cymru i hyrwyddo a chreu gweithleoedd iach ac sy’n fwy cynhwysol er mwyn lleihau salwch sy’n gysylltiedig â gwaith.
Mae gyrfa amrywiol Rhian o weithio mewn sefydliadau bach a mawr, cyhoeddus a phreifat yn cynnwys maes gwasanaethau cwsmeriaid sy’n delio â’r cyhoedd yn uniongyrchol gan gynnwys delio â sefyllfaoedd o risg uchel.
Ers ymuno â’r rhaglen yn 2012, mae Rhian wedi chwarae rhan allweddol yn ei gwaith o ymgysylltu ag ystod eang o gyflogwyr oedd yn amrywio rhwng unigolion hunangyflogedig a sefydliadau corfforaethol mawr ar draws gwahanol sectorau. Mae hi’n rhoi cyngor sydd wedi’i deilwra, yn cynnal sesiynau hyfforddi ac amrywiaeth o weminarau addysgiadol.
Mae gan Rhian wir ddiddordeb mewn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac mae’n eiriolwr ymroddedig dros greu gweithleoedd teg, cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u cefnogi.
Carl Hill – Uwch Ymgynghorydd Iechyd yn y Gweithle
Mae Carl yn Uwch Ymgynghorydd Iechyd yn y Gweithle gyda thîm Cymru Iach ar Waith. Mae’n gweithio gyda sefydliadau ledled de Cymru wrth iddyn nhw gymryd camau i greu gweithleoedd iachach, mwy cadarnhaol lle mae lles staff yn cael ei flaenoriaethu. Yn ei rôl, mae Carl yn cefnogi cyflogwyr i wella eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u hyder fel y gallan nhw roi dulliau iechyd a lles ymarferol a pharhaol ar waith.
Ers ymuno â’r rhaglen yn 2020, a gyda chefndir mewn addysg ac iechyd, mae Carl wedi ymgysylltu â chyflogwyr sy’n awyddus i ddysgu a rhannu arfer da. Mae Carl yn annog cyflogwyr i gymryd perchnogaeth o’r dasg o greu gweithleoedd iachach a hapusach. Ei nod ydy gwneud yn siŵr fod y wybodaeth a’r arferion da hyn yn cael eu lledaenu ar draws Cymru gyfan.
Cysylltwch â thîm Cymorth gan Gynghorwr Gweithle