
Diwrnod Beicio i’r Gwaith
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Diwrnod Beicio i'r Gwaith i hyrwyddo manteision teithio llesol a dod o hyd i adnoddau i annog gweithwyr i ddefnyddio beic i fynd i'r gwaith.
Gwerth cefnogi Diwrnod Beicio i’r Gwaith yn y gwaith
Mae Diwrnod Beicio i’r Gwaith yn annog pobl i gynnwys beicio wrth gymudo i’r gwaith. Fel cyflogwr, gallwch ddefnyddio’r diwrnod i hyrwyddo teithio llesol a chymudo cynaliadwy.
Dyma rai o fanteision hyrwyddo beicio i’r gwaith:
- Gwella ffitrwydd corfforol a lles meddyliol gweithwyr
- Cynyddu lefelau egni, ffocws a chynhyrchiant gweithwyr
- Dangos ymrwymiad i gynaliadwyedd a gweithredoedd amgylcheddol
Cael eich gweithle i gymryd rhan yn y Diwrnod Beicio i’r Gwaith
Dyma rai ffyrdd y gallwch gymryd rhan yn y Diwrnod Beicio i’r Gwaith:
Ymgysylltwch â’ch tîm
Gofynnwch i weithwyr sut maen nhw’n cymudo i’r gweithle ac anogwch feicio fel opsiwn.
Tynnwch sylw at fanteision iechyd ac amgylcheddol beicio i’r gwaith.
Hyrwyddwch opsiynau teithio gwyrdd
Rhowch wybod i weithwyr am y cynllun Beicio i’r Gwaith (Saesneg yn unig) a all wneud beicio yn fwy hygyrch.
Rhannwch y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol gyda gweithwyr fel eu bod yn gallu dod o hyd i lwybrau ar gyfer cerdded, olwyno a beicio.
Anogwch weithwyr sy’n feicwyr rheolaidd i ddod yn hyrwyddwyr yn y gwaith. Rhannwch eu straeon i ysbrydoli eraill.
Sefydlwch her feicio yn y gweithle
Ewch ati i gynnal cystadlaethau a digwyddiadau cyfeillgar sy’n hyrwyddo beicio fel gweithgaredd hwyliog ac iach.
Cydnabyddwch a gwobrwywch gyfranogiad i annog eraill i gymryd rhan.
Cynhaliwch weithdy
Gallech drefnu sesiynau ar gyfer gweithwyr yn ymwneud â diogelwch beiciau, cynnal a chadw a llwybrau lleol.
Anogwch weithwyr i gymryd rhan ac i ofyn unrhyw gwestiynau allai fod ganddynt. Gall gwneud hyn annog gweithwyr sy’n llai hyderus ar gefn beic i roi cynnig arni.
Gweithleoedd egnïol
Mae yna bethau y gallwch eu gwneud trwy gydol y flwyddyn i annog gweithwyr i fod yn egnïol.
- Hyrwyddwch arferion bach, egnïol fel annog gweithwyr i ddefnyddio’r grisiau neu barcio ymhellach i ffwrdd o’u swyddfa, os oes rhaid iddynt ddefnyddio eu ceir
- Cynigiwch gymorth i helpu staff i gadw’n egnïol yn y gwaith ac allan o’r gwaith
- Yn bwysicaf oll, gwnewch e’n hwyl – bydd dull pleserus yn rhoi hwb i gyfranogiad a brwdfrydedd
Darganfyddwch fwy am weithleoedd egnïol.
Darganfod mwy
I ddarganfod sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn y Diwrnod Beicio i’r Gwaith a chael gafael ar adnoddau y gallwch eu defnyddio, ewch i wefan y Cynllun Beicio (Saesneg yn unig).
I gael gwybodaeth am ymgyrchoedd iechyd a lles trwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.
- Ymgyrch