Gweithdy Ewch Amdani i Ffynnu
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Ymunwch â Cymru Iach ar Waith (CIW) am weithdy ymarferol i'ch helpu i deimlo'n hyderus ac yn barod i ffynnu yn y gwaith.
Mae’r gweithdy hwn ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru sydd ar fin dechrau eu swydd gyntaf neu sydd wedi dechrau gweithio’n ddiweddar.
Mae dechrau gweithio yn gam cyffrous, sy’n dod â chyfleoedd newydd i ddysgu, datblygu sgiliau ac adeiladu eich dyfodol. Fodd bynnag, gall hefyd deimlo fel newid mawr. Mae addysg yn aml yn strwythuredig ac yn gyfarwydd, felly gall y gweithle deimlo’n wahanol iawn ar y dechrau.
Mae tua 60% o bobl ifanc yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n amharod ar gyfer cyflogaeth. Os ydych chi’n teimlo’n ansicr, yn nerfus neu wedi’ch gorlethu, nid ydych chi ar eich pen eich hun.
Yn ystod y gweithdy hwn, byddwch yn:
- Teimlo’n fwy parod ar gyfer cyflogaeth
- Dysgu sut i ffynnu yn y gwaith
- Deall sut i ofalu am eich iechyd a’ch llesiant
- Cysylltu a chael cefnogaeth gan gymheiriaid
- Gwybod ble i fynd am gymorth, cyngor a chefnogaeth
Mae cynnwys y gweithdy wedi’i ddatblygu gyda phobl ifanc a chyflogwyr i adlewyrchu’r profiadau a’r heriau go iawn y mae’r rhai sy’n dod i mewn i’r gweithle heddiw yn eu hwynebu. Mae’n tynnu ar waith ymchwil, gweithdai ac arolygon i sicrhau bod yr wybodaeth yn ymarferol, yn berthnasol ac yn seiliedig ar brofiad bywyd.
Mae’r gweithdy hwn ar eich cyfer chi os ydych chi’n:
- 16-24 oed
- Byw yng Nghymru
- Anelu at ddechrau gweithio yn y 6 mis nesaf, neu wedi dechrau gweithio yn y 6 mis diwethaf
Pynciau a drafodir:
- Dechrau gweithio a ffynnu yn eich rôl newydd
- Diwylliant y gweithle – beth yw e?
- Gweithio’n dda gydag eraill
- Gofalu am eich llesiant yn y gwaith
- Gwybod eich hawliau yn y gwaith
- Meithrin hyder a datblygu eich gyrfa
Mae lleoedd yn gyfyngedig er mwyn helpu i gadw’r gweithdy’n ymarferol, yn gefnogol ac yn rhyngweithiol. Bydd cyfleoedd i chi ofyn cwestiynau, rhannu syniadau a nodi camau gweithredu sy’n iawn i chi.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu a’ch cefnogi wrth i chi gymryd eich cam nesaf i fyd gwaith!
- Gweithdy