Skip to content
Loading Digwyddiadau

Gweithdy Hyrwyddwyr Gweithio Iach

Ymunwch â Chymru Iach ar Waith am weithdy ymarferol i'ch cefnogi i ddod yn Hyrwyddwr Gweithio Iach yn eich gweithle.

Mae’r cynnig Hyrwyddwr Gweithio Iach yn datblygu eiriolwyr hyderus yn y gweithle sy’n helpu i gysylltu cydweithwyr â chefnogaeth, dylanwadu ar ddiwylliant gweithle cadarnhaol a chreu’r amodau lle gall pobl a sefydliadau ffynnu.

Pwy all gymryd rhan

Mae gweithdy Hyrwyddwyr Gweithio Iach yn addas ar gyfer unrhyw weithiwr sydd eisiau helpu i greu gweithleoedd iachach.

Nid oes angen gwybodaeth arbenigol am iechyd na llesiant. Gall Hyrwyddwyr Gweithio Iach ddod o unrhyw dîm neu adran ac maent wedi’u huno gan ymrwymiad a rennir i wella profiadau pawb o’r gweithle.

Yr hyn y byddwch chi’n ei ennill o fynychu

Bydd y gweithdy hwn yn eich helpu i wneud y canlynol:

  • Deall gwaith iach a llesiant yn y gweithle
  • Hyrwyddo adnoddau a mentrau Cymru Iach ar Waith
  • Annog diwylliannau gweithle iach, cynhwysol a chefnogol
  • Cyfeirio cydweithwyr at gefnogaeth a gwybodaeth briodol
  • Dylanwadu ar newid cadarnhaol yn y gweithle trwy gamau gweithredu bob dydd

Bydd Hyrwyddwyr Gweithio Iach hefyd yn cael tystysgrif presenoldeb a bathodyn Hyrwyddwr Gweithio Iach y gellir ei ddefnyddio i amlygu eich rôl fel Hyrwyddwr a dechrau sgyrsiau am iechyd a llesiant yn y gweithle.

Manylion y Gweithdy

  • 9 Rhagfyr 2026
  • 13:30 – 15:00
  • MS Teams

Mae lleoedd yn gyfyngedig fel bod y gweithdy’n gallu parhau i fod yn ymarferol, yn gefnogol ac yn ddefnyddiol i bawb a fydd yn cymryd rhan.

Cofrestru i ddod i’r digwyddiad

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu chi!

O bryd i’w gilydd, gall amgylchiadau annisgwyl olygu bod angen i ni ohirio ac aildrefnu gweithdy. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl ac yn gweithio gyda’r grŵp i gytuno ar ddyddiad newydd.


  • Gweithdy