Skip to content
Loading Digwyddiadau

Gweminar ar Ddiogelwch Seicolegol yn y Gweithle

Ymunwch â ni a Lianne Weaver, Rheolwr Gyfarwyddwr Beam, i gael mewnwelediad difyr ar ddiogelwch seicolegol yn y gweithle.

Cynlluniwyd y sesiwn hon i helpu cyflogwyr ledled Cymru i gryfhau eu hagwedd at ddiogelwch seicolegol a chreu gweithleoedd lle gall cyflogwyr hyrwyddo gweithleoedd diogel.

Bydd y weminar yn rhoi sylw i’r canlynol:

  • Diogelwch seicolegol: beth ydyw a beth nad ydyw
  • Cydnabod rôl diogelwch seicolegol mewn llesiant a diwylliant tîm
  • Myfyrio ar eich profiadau eich hun o ddiogelwch (neu ddiffyg ohono) yn y gweithle
  • Dysgu am offer ymarferol i ddechrau meithrin mwy o ymddiriedaeth, didwylledd a chefnogaeth
  • Byddwch yn gadael yn teimlo wedi’ch grymuso i fod yn rhan o ddiwylliant mwy diogel i bawb

Pwy all gymryd rhan?

Mae’r weminar hon ar agor i bob cyflogwr yng Nghymru yn cynnwys rheolwyr, arweinwyr adnoddau dynol, rheolwyr pobl, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu gweithle sy’n ddiogel yn seicolegol.

Sesiwn Holi ac Ateb

Bydd amser i ofyn cwestiynau Lianne Weaver a Cymru Iach ar Waith, gan gynnwys yr opsiwn i ofyn cwestiynau’n ddienw.

Manylion y gweminar

  • Dyddiad: 26 Tachwedd 2026
  • Amser: 10:00 – 11:00
  • Lleoliad: Ar-lein (rhoddir y ddolen ar adeg cofrestru)

Archebwch eich lle nawr!

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu.


  • Gweminar