Skip to content
Loading Digwyddiadau

Gweminar bwlio ac aflonyddu yn y gweithle

Ymunwch â Chymru Iach ar Waith a Rhianydd Williams, Swyddog Cydraddoldeb a Pholisi TUC Cymru, am fewnwelediad gwerthfawr ynghylch adnabod bwlio ac aflonyddu yn y gweithle, ei atal a mynd i'r afael ag ef.

Pwy all fynychu

Mae’r weminar hon yn agored i bob cyflogwr yng Nghymru, gan gynnwys rheolwyr, arweinwyr AD, rheolwyr pobl, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu gweithle cefnogol.

Holi ac Ateb

Bydd amser am gwestiynau gyda Rhianydd Williams a Chymru Iach ar Waith, gan gynnwys yr opsiwn i ofyn cwestiynau’n ddienw.

Manylion y gweminar

  • Dyddiad: 4 Tachwedd 2026
  • Amser: 10:00 – 11:00
  • Lleoliad: ar-lein (darperir y ddolen wrth gofrestru)

Cadwch eich lle heddiw!


  • Gweminar