Skip to content
Loading Digwyddiadau

Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn i hyrwyddo ymwybyddiaeth o symptomau canser y coluddyn a phwysigrwydd sgrinio.

Gwerth cefnogi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn yn y gwaith

Fel cyflogwr, mae cefnogi gweithwyr y mae canser y coluddyn yn effeithio arnynt, p’un ai ydynt wedi cael diagnosis eu hunain neu’n gofalu am rywun, yn mynd gam ymhellach i godi ymwybyddiaeth.

Trwy gynnig y cymorth cywir, gallwch helpu eich gweithwyr i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn derbyn gofal, ac yn gallu rheoli eu hiechyd a’u lles.

Sut gall eich gweithle gymryd rhan ym mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn?

Dyma rai pethau y gallwch ystyried eu gwneud yn eich gweithle yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn:

Trefnu digwyddiad

Gall codi arian fod yn weithgaredd hwyliog ac iach yn y gweithle neu y tu allan i’r gweithle. O foreau coffi, i deithiau cerdded noddedig neu werthu llyfrau, mae yna lawer o ffyrdd i gymryd rhan. Gall gweithgareddau fel hyn fod yn dda hefyd ar gyfer morâl a lles gweithwyr.

Gallwch lawrlwytho pecyn cymorth o wefan Bowel Cancer UK (Saesneg yn unig).

Hyrwyddo sgrinio’r coluddyn

Hyrwyddwch sgrinio’r coluddyn ac anogwch sgyrsiau agored am iechyd y coluddyn.

Os oes gennych weithwyr sydd â rôl weithredol wrth hyrwyddo iechyd yn eich gweithle, gallant gofrestru ar gyfer sesiwn ymwybyddiaeth sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Hyrwyddo ymwybyddiaeth drwy gydol y flwyddyn

Gall cymryd camau bach helpu i greu gweithle lle mae’ch gweithwyr yn teimlo’n wybodus, yn cael eu cefnogi a’u grymuso i ofalu am eu hiechyd.

Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud drwy gydol y flwyddyn:

Codi ymwybyddiaeth am ganfod canser yn gynnar

Rhannwch wybodaeth glir am symptomau canser y coluddyn (Saesneg yn unig).

Annog sgyrsiau agored

Creu gweithle lle mae siarad am iechyd yn cael ei annog a’i gefnogi.

Rhannwch wybodaeth am ymgyrchoedd fel Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn trwy sianeli cyfathrebu staff.

Dangos eich bod yn malio

Gwnewch faterion iechyd yn rhan allweddol o’ch cynlluniau lles yn y gweithle.

Dangos ble i gael cymorth

Sicrhewch fod eich staff yn gwybod ble i ddod o hyd i gyngor a chymorth dibynadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am ganser y coluddyn a gwasanaethau sgrinio’r coluddyn ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dysgu mwy

Dysgwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan ym Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn a chael mynediad at adnoddau ar wefan Bowel Cancer UK (Saesneg yn unig).

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch