Loading Digwyddiadau

Wythnos ’Nabod eich Rhifau

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos ’Nabod Eich Rhifau i hyrwyddo pwysigrwydd gwiriadau pwysedd gwaed i weithwyr a dod o hyd i ffyrdd o hyrwyddo ymwybyddiaeth yn y gwaith.

Gwerth Wythnos ’Nabod eich Rhifau! yn y gwaith

Mae gwybod beth yw eich pwysedd gwaed yn bwysig, gan y gall pwysedd gwaed sy’n rhy uchel neu’n rhy isel achosi problemau iechyd.

Gall ei wirio’n rheolaidd eich helpu i gadw’n iach a chael triniaeth os oes angen.

Cymerwch ran yn Wythnos ’Nabod Eich Rhifau! yn y gwaith

Gall gweithleoedd gymryd rhan yn Wythnos ’Nabod Eich Rhifau! drwy:

Godi ymwybyddiaeth

Rhannu posteri, e-byst, neu bostiadau ar gyfryngau cymdeithasol am bwysigrwydd gwirio eich pwysedd gwaed.

Cynnig gwiriadau pwysedd gwaed am ddim

Sefydlu gorsafoedd iechyd neu wahodd gweithiwr iechyd proffesiynol i wirio pwysedd gwaed gweithwyr.

Darparu peiriannau monitro yn y cartref

Cynnig defnydd o beiriannau monitro pwysedd gwaed i weithwyr neu ganllawiau ar sut i wirio eu rhifau gartref.

Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau iechyd

Gweithio gydag elusennau neu grwpiau iechyd i roi gwybodaeth a chefnogaeth.

Hyrwyddo iechyd da yn y gwaith drwy gydol y flwyddyn

Mae hyrwyddo iechyd a lles da drwy gydol y flwyddyn yn hanfodol ar gyfer gwella lles a chynhyrchiant gweithwyr.

Dyma rai ffyrdd o annog arferion iach yn y gwaith:

Bwyta’n iach

Cynnig opsiynau bwyd iach os oes gennych chi ffreutur neu beiriannau gwerthu yn y gwaith.

Hyrwyddo rhaglen Pwysau Iach GIG Cymru.

Dysgu mwy am fwyta’n iach yn y gwaith.

Cadw’n heini

Hyrwyddo opsiynau teithio gwyrdd fel beicio neu gerdded.

Annog gweithwyr i symud mwy ac i gymryd seibiannau rheolaidd.

Dysgwch fwy am weithleoedd heini.

Rheoli straen

Hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Gallwch wneud hyn drwy annog eich gweithwyr i gymryd seibiannau rheolaidd a defnyddio eu lwfans gwyliau blynyddol.

Ystyried cynnig rhaglenni cymorth i weithwyr, cwnsela, neu hyfforddiant iechyd meddwl i reolwyr.

Dysgu mwy am reoli straen yn y gweithle.

Darganfod mwy

I ddysgu mwy am sut y gall gweithleoedd gymryd rhan yn Wythnos ’Nabod Eich Rhifau! a chael adnoddau y gallwch eu defnyddio, ewch i wefan Blood Pressure UK (Saesneg yn unig).

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch