
Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth am Straen
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
- Gwefan
- https://isma.org.uk/
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth am Straen i godi ymwybyddiaeth am straen yn y gweithle a rhannu adnoddau i gefnogi lles gweithwyr.
Gwerth cefnogi Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth am Straen yn y gwaith
Gall cefnogi Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth am Straen helpu gweithwyr i gydnabod sut y gall straen effeithio ar eu hiechyd meddwl a chorfforol yn y gwaith ac mewn bywyd bob dydd.
Mae’r ymgyrch yn rhoi cyfle i gyflogwyr annog sgyrsiau agored, rhannu adnoddau defnyddiol a rheoli straen er mwyn creu gweithle cadarnhaol a chefnogol.
Trwy fynd i’r afael â straen yn y gweithle, gall cyflogwyr leihau diffygiad (burnout), gwella lles gweithwyr a gwella perfformiad.
Bod yn rhan o Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth am Straen
Cynnal gweithdai rheoli straen
Cynnal sesiynau ar ymwybyddiaeth ofalgar, technegau ymlacio a strategaethau ymdopi. Gall gweithgareddau fel hyn helpu gweithwyr i ddod o hyd i ffyrdd o reoli straen mewn ffordd iach.
Hyrwyddo cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd
Hyrwyddo gweithio hyblyg, annog gweithwyr i gymryd seibiant rheolaidd a rheoli llwythi gwaith yn unol â hynny i helpu i leihau straen yn y gweithle.
Chwilio am fwy o wybodaeth am fanteision gweithio hyblyg.
Creu amgylchedd cefnogol
Cynnig mynediad at adnoddau iechyd meddwl yn eich gweithle. Gall cael mynediad at grwpiau cymorth cyfoedion neu raglenni sy’n cynnig cymorth i weithwyr eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi.
Cynnig hyfforddiant ac arweiniad
Rhoi hyfforddiant i reolwyr a gweithwyr ar sut i adnabod a rheoli straen a chynnal sgyrsiau am straen gyda gweithwyr.
Chwilio am fwy o wybodaeth am reoli straen yn y gweithle.
Rheoli straen yn y gwaith
Gall gweithleoedd gefnogi ymwybyddiaeth o straen ac iechyd meddwl drwy gydol y flwyddyn trwy gymryd camau rhagweithiol fel:
Gwirio iechyd meddwl a lles
Asesu lles gweithwyr yn rheolaidd. Gellir cyflawni hyn trwy gyfrwng arolwg, gwiriad rheolaidd a chynnal sgwrs
Hyrwyddo diwylliant gweithle cadarnhaol a chefnogol
Cefnogi trafodaethau agored am iechyd meddwl, helpu i chwalu stigma a rhoi hyfforddiant i reolwyr a staff.
Rhannu adnoddau iechyd meddwl a lles
Darparu gwybodaeth am gymorth proffesiynol sydd ar gael i helpu gweithwyr i reoli straen a gofalu am eu hiechyd meddwl.
Dysgwch fwy drwy edrych ar ein tudalennau pwnc ar sut i reoli straen yn y gweithle a diffygiad a blinder yn y gweithle.
Ymgyrch Working Minds
Dan arweiniad Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), mae ymgyrch Working Minds yn pwysleisio pwysigrwydd rheoli straen sy’n gysylltiedig â gwaith er mwyn atal problemau iechyd meddwl.
Mae’n cynnig adnoddau a chanllawiau defnyddiol i helpu gweithleoedd i ddilyn y gyfraith a chreu amgylchedd gwaith iach cefnogol.
Am fwy o wybodaeth am yr Ymgyrch Working Minds (Saesneg yn unig).
Mwy o wybodaeth
I ddysgu mwy sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn yr Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth am Straen, ewch i wefan International Stress Management Association UK (ISMAUK) (Saesneg yn unig).
I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch ar gyfer derbyn ein cylchlythyr.
- Ymgyrch