
Atal a rheoli heintiau yn y gweithle
Dysgwch fwy am bwysigrwydd atal a rheoli heintiau wrth greu gweithle iach a diogel.
Pwysigrwydd atal a rheoli heintiau yn y gweithle
Gall heintiau yn y gweithle achosi aflonyddwch, effeithio ar iechyd gweithwyr a niweidio eich enw da fel cyflogwr. Mae rheoli risgiau heintiau yn rhagweithiol yn amddiffyn pawb.
Mae rhai heintiau – fel ffliw, norofeirws a COVID-19 – yn gallu lledaenu’n gyflym. I rai pobl, yn enwedig y rhai sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, gallan nhw achosi salwch difrifol.
Efallai na fydd mathau eraill o heintiau – fel salmonela ymhlith gweithwyr trin bwyd – yn lledaenu mor gyflym, ond eto, gallan nhw effeithio’n ddifrifol ar fusnes, ei weithwyr a’i gleientiaid.
Gall hyd yn oed mân heintiau – fel annwyd y gaeaf – gael effaith ar fusnes. Dyma achosion mwyaf absenoldeb salwch tymor byr. Dysgwch fwy am absenoldeb salwch a’i achosion.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 17th Mawrth 2025
