
Atal a rheoli heintiau yn y gweithle
Dysgwch fwy am bwysigrwydd atal a rheoli heintiau wrth greu gweithle iach a diogel.
Adrodd am heintiau
O dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (2010), mae nifer o heintiau y mae’n rhaid eu hadrodd (Saesneg yn unig).
Os amheuir neu os cadarnheir un o’r heintiau hyn, rhaid i’r meddyg teulu (neu weithiwr iechyd proffesiynol arall) hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a/neu dîm iechyd yr amgylchedd yr awdurdod lleol i ymchwilio.
Byddan nhw’n adnabod unrhyw un a allai fod wedi cael eu hamlygu neu eu heintio ac yn rhoi cyngor ar leihau’r risg o drosglwyddo’r haint, a allai gynnwys yn y gweithle.
Efallai y bydd angen i chi ddarpar guwybodaeth i helpu gydag olrhain cysylltiadau os bydd gweithiwr – neu gyswllt agos gweithiwr, contractwr neu ymwelydd â safle gwaith – yn cael ei heintio neu wedi cael ei amlygu i glefyd hysbysadwy.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 17th Mawrth 2025
