
Cefnogi bwydo ar y fron yn y gweithle
Dysgwch am gefnogi bwydo ar y fron yn y gweithle, gan gynnwys y rhwymedigaethau cyfreithiol sydd gan gyflogwyr, arferion gorau a pholisïau gweithle.
Manteision cefnogi gweithwyr sy'n bwydo ar y fron
Mae cefnogi gweithwyr sy’n dychwelyd i’r gwaith ac yn parhau i fwydo ar y fron yn cynnig manteision sylweddol i weithleoedd:
- Cadw gweithwyr – mae staff yn fwy tebygol o aros, gan leihau costau recriwtio a hyfforddi
- Hybu enw da – mae creu amgylchedd sy’n gyfeillgar i fwydo ar y fron yn cryfhau enw da eich sefydliad am gefnogi llesiant y gweithlu a chyfrifoldeb cymdeithasol
- Arbed arian – gall cefnogi bwydo ar y fron arwain at lai o ddyddiau salwch oherwydd babanod iachach, gan hyrwyddo cynaliadwyedd a lleihau costau tymor hir
Mae llawer o weithwyr yn rhoi’r gorau i fwydo ar y fron oherwydd heriau canfyddedig neu wirioneddol a wynebir wrth ddychwelyd i’r gwaith. Nod Cynllun Gweithredu Cymru Gyfan ar Fwydo ar y Fron yw creu amgylcheddau yn y gweithle sy’n gefnogol i fwydo ar y fron. Fel cyflogwr, gall y cynllun eich helpu i ddeall yr hyn y gallwch ei wneud i gefnogi gweithwyr sy’n bwydo ar y fron.
Gallwch hefyd ddod o hyd i gyngor ar gefnogi gweithwyr sy’n famau newydd (Saesneg yn unig) ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 13th Mawrth 2025
